Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg ac Addysg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae gradd BA Cyd-anrhydedd Addysg a'r Gymraeg yn gyfle i fyfyrwyr gyfuno astudiaeth o’r Gymraeg gyda pholisi addysgiadol a theori datblygiad - sy'n gallu arwain at nifer o wahanol yrfaoedd o fewn y system addysg yng Nghymru.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Welsh students

Trosolwg y cwrs

Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Addysg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.

CYMRAEG

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

ADDYSG

Mae ein gwaith addysgu ar Addysg wedi ei seilio ar ein hymchwil ym myd addysg a’r datblygiadau diweddaraf o ran polisi ac ymarfer, gan gwmpasu agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth, plentyndod ac ieuenctid, rhywedd ac ethnigrwydd, a chyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.

Mae modiwlau craidd wedi eu hanelu at ddatblygu dealltwriaeth ddofn o gyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol addysg – yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.

Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.

NODYN: Fel arfer, mae'r radd gydanrhydedd hon yn agored dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ar gyfer Safon Uwch. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk.

Nodweddion nodedig

CYMRAEG

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • Y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • Ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • Y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd i chi drwy gydol eich gyrfa
  • Y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • Y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • Y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

ADDYSG

  • Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu, mae'n gyfle i astudio addysg mewn ffyrdd sy'n mynd y tu hwnt i ffocws ar ymarfer addysgu. Byddwch yn astudio’r dadleuon ehangach ynghylch addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.
  • Mae ein cysylltiadau agos â llunwyr polisi, yn ogystal ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill lleol, yn darparu cyfleoedd ichi ymgysylltu o ddifrif ag addysgwyr ac arferion. Mae nodweddion unigryw'r cwrs yn cynnwys:
  • Y cyfle ichi ddysgu mewn Ysgol a gyrhaeddodd y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ymchwil mewn cymdeithaseg a’r 5ed safle o ran addysg yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF)
  • Ymwneud â staff sy’n weithredol ym myd ymchwil ac addysgu
  • Y pwyslais ar ddysgu’n annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil
  • Yr amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael mewn Ysgol amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol
  • Y cyfle i astudio dramor
Côd UCASQX53
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae Ysgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau.
  1. Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

    Adeilad Morgannwg

    Rhodfa’r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3WA

  2. School of Welsh

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  3. Llyfrgell Cerddoriaeth

    Adain y Llyfrgell

    Neuadd Aberdâr

    Heol Corbett

    Caerdydd

    CF10 3UP

  4. Llyfrgell Pensaernïaeth

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  5. Labordy Llunio Digidol

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  6. Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

Gofynion mynediad

BBB - BBC gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf. Sylwer, nid ydym yn derbyn Cymraeg Ail Iaith nac Astudiaethau Cyffredinol

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DM -derbynnir pynciau ynghylch Y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol- yn ogystal â gradd B yn Gymraeg Iaith Gyntaf ar Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol y Gymraeg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, ystyrir IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf gradd C neu IGCSE Saesneg fel Ail Iaith gradd C.  

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

You should be prepared to invest in some key text books and to cover the costs of basic printing and photocopying. You may also want to buy copies of other books, either because they are particularly important for your course or because you find them particularly interesting.

If you have a laptop computer you will have the option of purchasing software at discounted prices.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y pynciau, gyda’r cyfle i wneud traethawd hir ym mlwyddyn tri. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill ym modiwlau blynyddoedd dau a thri.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi ichi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau ar lefel uwch a rhoi trosolwg ichi o’r pwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Bydd ein rhaglen tiwtor personol yn eich helpu chi i bontio i addysg uwch.

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd. Bydd myfyrwyr yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 mewn Addysg.

CYMRAEG

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt.

Ar gyfer y Gymraeg y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Addysg.

Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn gweddu orau ar gyfer llwybr penodol o safbwynt dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae cwrs y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Addysg.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

ADDYSG

Ym mlwyddyn tri, bydd gennych y cyfle i ymgymryd â phrosiect traethawd hir (40 credyd), sef dylunio, cynnal ac ysgrifennu prosiect ymchwil ar raddfa fach dan oruchwyliaeth un i un gan aelod o’r staff academaidd. Bydd y traethawd hir yn cael ei astudio ochr yn ochr â modiwlau craidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

YSGOL Y GYMRAEG

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

YSGOL Y GWYDDORAU CYMDEITHASOL

Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith, yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

Rydym ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r Brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol ichi pan fyddwch chi’n graddio.

Yn dilyn eu hamser yma, mae nifer o’n graddedigion Addysg yn mynd ar gwrs hyfforddi athrawon am flwyddyn (TAR), sy'n eu galluogi i fynd i'r proffesiynau addysgu, tra bydd eraill yn mynd i amrywiaeth o broffesiynau, o waith ieuenctid a chymunedol i bolisi cymdeithasol a'r Llywodraeth, rheoli ac ati.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi eu cynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 50% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais