Ewch i’r prif gynnwys

Addysg (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Archwiliwch heriau a datblygiadau allweddol ym maes addysg yng nghyd-destun byd-eang y byd sydd ohoni.

globe

Safbwyntiau byd-eang

Cewch archwilio arferion a chyd-destunau addysg gyfoes o safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol.

location

Trafodaethau ehangach ynghylch addysg

Byddwch yn astudio addysg y tu mewn a'r tu allan i leoliadau ystafell ddosbarth, gan osod y sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

people

Astudiaeth ryngddisgyblaethol

Datblygwch eich sgiliau dadansoddi beirniadol, cyfathrebu rhyngddiwylliannol, gwaith tîm a datrys problemau, a hefyd eich dealltwriaeth feirniadol o ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â pholisi ac ymarfer addysg.

book

Ymchwil annibynnol

Mae traethawd hir yn cynnwys darn annibynnol o ymchwil ar raddfa fechan, ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Ar ein MSc Addysg, cewch ddealltwriaeth fanwl o addysg fel maes astudio a byddwch yn archwilio’r cysylltiadau rhwng addysg a sefydliadau cymdeithasol eraill sydd â rôl wrth fynd i’r afael ag anawsterau ym myd addysg, o safbwynt cymharol.

Byddwch yn astudio materion cymhleth a wynebir gan athrawon, arweinwyr addysg a phenderfynwyr mewn cyd-destun sy'n gynyddol fyd-eang. Mae'r materion hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, chwilio am berthnasedd, effeithlonrwydd a chynhwysiant, y mae angen atebion arloesol ar bob un ohonynt.

Gan gydweithio â chyd-fyfyrwyr a staff academaidd, a thrwy gymryd rhan a thrafod mewn seminarau a thrafodaethau dosbarth, byddwch yn ennill sgiliau newydd, yn dwysau eich gwybodaeth, ac yn elwa o safbwyntiau ar draws addysg, cymdeithaseg, dadansoddi polisi a seicoleg.

Cewch eich herio i werthuso a chreu argymhellion clir ar gyfer sefydliadau ac arferion addysgol, ac i gynllunio ymyriadau arloesol a fydd yn grymuso dysgwyr drwy wella ansawdd a pherthnasedd eu haddysg.

Mae’r MSc Addysg yn eich galluogi i archwilio meysydd ymarferol cynllunio cwricwlwm, cynllunio ar gyfer addysgu a dysgu mewn byd sy’n newid yn gyflym, effeithiau globaleiddio ar syniadau ac arferion addysgol, a dyfodol addysg. Bydd yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth am addysgu a dysgu, a'ch gallu i ddeall a chynnal ymchwil mewn cyd-destunau addysg.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n bennaf ar addysg gynradd ac uwchradd, ond mae'n cynnig cyfleoedd i drafod addysg o safbwynt ehangach; o addysg cyn-gynradd ac uwch i ddysgu oedolion ac addysg heb fod yn ffurfiol. Gall eich traethawd hir ganolbwyntio ar unrhyw lefel o addysg.

Felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymarfer, trefniadaeth neu ymchwil addysg, ac yn cael eich ysgogi i ddod o hyd i ffyrdd newydd i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol a sicrhau newid mewn addysg, anogwn chi i gyflwyno cais.

Nodwch: er bod y rhaglen yn addas i ymgeiswyr sy'n ceisio datblygu eu gyrfaoedd mewn cyd-destun addysgol, nid yw'n rhaglen hyfforddi athrawon ymarferol. Mae'n addas i'r sawl sydd heb lawer o brofiad, os o gwbl, o waith proffesiynol yn ymwneud ag addysg, hyd at weithwyr proffesiynol ar ganol eu gyrfa sy’n ymwneud ag addysgu ac arweinyddiaeth a threfniadaeth addysgol neu weithgareddau eraill sy’n ymwneud ag addysg.

Mae’r rhaglen hon yn rhoi profiad i fyfyrwyr o ystod eang o safbwyntiau, er mwyn datblygu dealltwriaeth unigryw o addysg. Byddwch yn astudio’r datblygiadau diweddaraf o amrywiaeth o ddisgyblaethau mewn ffyrdd a fydd yn trawsnewid y ffordd rydych yn deall heriau a datrysiadau addysgol.
Professor Manuel Souto-Otero, Yr Athro Manuel Souto-Otero, Cyfarwyddwr y Rhaglen, MSc Addysg

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5179
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis addysg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, seicoleg, daearyddiaeth, hanes, y gyfraith, athroniaeth, a gwleidyddiaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf 3 blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol cyfwerth ag amser llawn mewn addysgu, gweinyddu/cynllunio addysgol, ymchwil addysgol, neu faes cysylltiedig. Rhaid i chi ddarparu geirda proffesiynol, y dylid ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon. Byddwch yn astudio cyfanswm o 180 credyd - 120 credyd o fodiwlau craidd a dewisol a Thraethawd Hir 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn cymryd pum modiwl 20 credyd gorfodol – un modiwl dewisol 20 credyd a thraethawd hir 60 credyd ar bwnc y cytunwyd arno gyda'ch goruchwyliwr – i gyflawni'r 180 credyd llawn sydd eu hangen arnoch i gwblhau'r rhaglen.

Modiwlau a addysgir

Mae'r pum modiwl gorfodol yn cynnwys sgiliau cymdeithasol craidd a phynciau o sylwedd mewn addysg. Mae'r modiwl dewisol yn caniatáu i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â'ch diddordebau eich hun. Mae pob modiwl a addysgir yn werth 20 credyd, sy'n golygu y dylai gymryd oddeutu 200 awr i'w gwblhau gan gynnwys addysgu ffurfiol, astudio annibynnol a threulio amser ar dasgau asesu.

Traethawd hir

Ar ôl cwblhau'r modiwlau a addysgir yn llwyddiannus, gofynnir ichi gynhyrchu traethawd hir 60 credyd ar bwnc o'ch dewis sy'n gysylltiedig ag addysg.

Mae’r traethawd hir hwn yn cynnwys darn bach annibynnol o ymchwil ac mae'n eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau mewn maes sylweddol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen, ac i roi ar waith yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd trwy gymryd rhan yn y modiwlau a addysgir.

Rhoddir goruchwyliwr traethawd i chi i gynorthwyo wrth gynllunio, cynnal ac ysgrifennu'r prosiect ymchwil.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn dysgu gan ysgolheigion sy'n dylanwadu ar ddyfodol eu meysydd. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu syniadau craidd eu disgyblaethau yn ogystal ag ymchwil, theorïau a dadleuon cyfoes.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, astudio annibynnol a dysgu hunangyfeiriedig sy'n defnyddio adnoddau ar-lein, gwaith unigol a thasgau grŵp. Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhoi trosolwg o'r pwnc perthnasol, gan gyflwyno cysyniadau neu ymchwil allweddol, ac amlygu materion neu ddadleuon cyfoes. Yn wahanol i ddarlithoedd, mae seminarau yn rhoi cyfle i chi drafod darlleniadau, ymchwil neu bynciau penodol yn fanwl. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfnerthu eich dealltwriaeth a chael adborth ar eich dysgu unigol. Mae seminarau hefyd yn eich galluogi i hogi'ch sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a chydweithio wrth i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau eraill.

Fel mae gwyddor gymdeithasol yn datblygu mewn ymateb i'r byd cymdeithasol, mae ein cwricwlwm hefyd yn newid. Mae ein myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig yn y datblygiadau hyn; ymgynghorir â'r Panel Myfyrwyr a Staff ynghylch newidiadau mawr ac mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau gwerthusiadau modiwlau ac arolwg blynyddol y myfyrwyr.

Sut y caf fy asesu?

Mae dulliau asesu nodweddiadol yn cynnwys aseiniadau unigol, gwaith cwrs, prosiectau, cyflwyniadau neu brofion dosbarth. Y math mwyaf cyffredin o asesu yw cynhyrchu gwaith cwrs. Mae dyddiadau cyflwyno wedi'u gwasgaru drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae adborth yn rhan bwysig o’r asesu. Mae adborth yn bodoli mewn unrhyw broses, gweithgaredd neu wybodaeth sy'n gwella dysgu, drwy roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar lefel gyfredol neu ddiweddar eu cyrhaeddiad neu eu dealltwriaeth o bwnc. Gellir ei ddarparu'n unigol neu i grwpiau a gall fod ar sawl ffurf. Mae'n ymatebol i ddisgwyliadau datblygiadol ein rhaglenni a'n disgyblaethau.

Mae'r ystod o adborth yn cynnwys: adborth unigol un-i-un; adborth generig; adborth gan gymheiriaid; adborth anffurfiol; hunanarfarniad i'w gyflwyno ynghyd â'r asesiad.

Gall staff a chyfoedion academaidd ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyflwyno'r mathau hyn o adborth: adborth ysgrifenedig; anodi testun; adborth llafar; trafodaeth seminar.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn eich tywys drwy gydol eich astudiaethau, a bydd ar gael i drafod cynnydd a darparu cyngor ac arweiniad ar eich astudiaethau academaidd. Hefyd, gall Hyb y Myfyrwyr, a'r Swyddfa Rhaglenni a Addysgir, y ddau wedi'u lleoli yn Adeilad Morgannwg, ddarparu cyngor ar sut i gael mynediad at wasanaethau’r brifysgol.

Mae pob modiwl o fewn y cwrs yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd (VLE) - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, a gwybodaeth sy'n ymwneud â thasgau asesu gan gynnwys, er enghraifft, meini prawf asesu, dolenni i gyn-bapurau (pan fo hynny'n berthnasol), a chanllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau.

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Bydd goruchwylydd fydd yn cwrdd â chi yn rheolaidd yn eich cefnogi gyda’r traethawd hir.

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw.
  • helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Darperir adborth ffurfiannol fel mater o drefn mewn seminarau. Hefyd, gall modiwlau gynnwys asesiad ffurfiannol penodol a ddyluniwyd i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad crynodol dilynol.

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw nodi pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen (rhag-borth) er mwyn gwella mewn asesiadau yn y dyfodol.

Darperir yr holl adborth ar waith cwrs yn electronig i sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn hawdd ei ddarllen. Darperir adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau llafar, ond darperir adborth ysgrifenedig hefyd os/lle mae'r cyflwyniad llafar yn gwneud cyfraniad sylweddol at farc y modiwl.

Fel rheol, rhoddir adborth ar brofion dosbarth fel adborth ysgrifenedig ar gyfer y dosbarth cyfan ond gallwch hefyd drafod eich papur prawf unigol a'r marc a ddyfarnwyd iddo gyda chynullydd y modiwl.

Rhoddir yr holl farciau ac adborth gan gyfeirio at y meini prawf marcio perthnasol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dangos dealltwriaeth ddofn a systematig o theorïau a chysyniadau craidd sy'n ymwneud â pholisïau, trefniadaeth ac arferion addysg
  • Dadansoddi a chynnwys arferion a pholisïau addysg lleol a chenedlaethol yn eu cyd-destunau byd-eang a hanesyddol ehangach
  • Dangos lefel uchel o wybodaeth am ystyriaethau methodolegol a moesegol sy'n berthnasol i gynnal ymchwil ar faterion addysg

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Mynd ati’n systematig i nodi cysylltiadau cymhleth rhwng agweddau ar theori a pholisi ac arferion addysg (ym myd addysg a meysydd cysylltiedig)
  • Gwerthuso ymchwil ac ysgolheictod presennol ar faterion addysg yn feirniadol, a ffurfio barn wybodus rhwng hawliadau sy'n cystadlu â'i gilydd a safbwyntiau damcaniaethol
  • Disgrifio a myfyrio'n feirniadol ar bolisi ac arferion sy'n ymwneud â materion addysgol cymhleth, ac ar y cysylltiad rhwng addysg a sefydliadau cymdeithasol eraill
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli gwahanol fathau o ddata cymhleth - gan gynnwys ar ffurf traethawd hir prosiect

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Mynegi atebion gwreiddiol i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd, i wella polisïau ac arferion addysg
  • Dangos dealltwriaeth feirniadol o ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau addysg

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cyfleu canfyddiadau ymchwil (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gweithio mewn cyd-destun rhyngwladol, datrys problemau, rheoli amser, TGCh a sgiliau gwaith unigol a gwaith tîm
  • Gwerthuso eich gwaith eich hun a bod yn hunanfeirniadol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch cwrs neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Os oes gennych liniadur bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon. Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol. Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill. Bydd dogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Rydym ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio. Mae troi damcaniaeth yn gamau ymarferol a darparu profiad o fyd gwaith yn agweddau pwysig ar ein cynlluniau gradd ac yn helpu i baratoi ein graddedigion at fywyd ar ôl addysg uwch.

Gallai graddedigion y rhaglen hon weithio mewn meysydd sy’n ymwneud ag addysg o fewn sefydliadau addysg ffurfiol neu anffurfiol, mewn adrannau a chyrff rheoleiddio llywodraethau, mewn sefydliadau anllywodraethol gan gynnwys sefydliadau a melinau trafod, gydag elusennau, y cyfryngau neu fel entrepreneuriaid cymdeithasol ym maes addysg.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Education, Social Sciences


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.