Ewch i’r prif gynnwys

Y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ddiwylliant o ymchwil eithriadol o gryf a rhyngddisgyblaethol, ac mae’n cynnig goruchwyliaeth arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau ymchwil.

Nodweddir ein rhaglen PhD gan ffocws cryf ar hyfforddiant ymchwil sy’n arwain at ymchwil yn seiliedig ar ddamcaniaeth sy’n symud dadleuon polisi ac academaidd ymlaen.

Mae yna wahanol opsiynau astudio:

  • PhD 3-4 blynedd yn llawn amser
  • PhD 5-7 mlynedd yn rhan-amser

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol y themâu ymchwil canlynol sy'n cynrychioli prif feysydd arbenigedd yr Ysgol. Hefyd, mae cyfle ar gyfer ymchwil rhyngddisgyblaethol. Rydym yn annog ceisiadau yn yr holl feysydd hyn:

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd academaidd ac ymchwil bywiog a bydd arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn eich goruchwylio.

Rydym wedi ymrwymo i ymchwil sydd wedi’i llywio gan theori a roddir pwyslais amlwg ar bolisïau. Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio ymchwil ôl-raddedig ym meysydd cymdeithaseg, polisïau cymdeithasol, troseddeg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol ac addysg (gweler y rhestr lawn isod). Croesawn fyfyrwyr sydd am fynd ar drywydd eu hastudiaethau’n rhyngddisgyblaethol. Rydym yn cydweithio â phrifysgolion ac asiantaethau rhyngwladol mawr ar hyd a lled y byd yn ogystal â gydag ymarferwyr a llunwyr polisïau lleol.

Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cynnwys cynnal amrywiaeth fawr o grwpiau ymchwil gweithgar, grwpiau astudio anffurfiol a chyfresi o seminarau. Mae ein Caffi Ôl-raddedigion – menter o dan arweiniad y myfyrwyr - yn fforwm deallusol unigryw ac yn rhwydwaith sy’n cefnogi’r rhai sy’n astudio rhaglenni doethurol.

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP Cymru), a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (ESRC).

Nodau'r rhaglen

Mae'r rhaglen yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol a pharhaus, a hynny ar y lefel uchaf, fel ymgeiswyr ddoethurol. Mae cyflawni gradd ymchwil yn darparu mynediad i amrywiaeth o lwybrau gyrfa, gan gynnwys (fel ar gyfer llawer o’n myfyrwyr) gyrfa yn y byd academaidd.

Nodweddion unigryw

  • Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn gartref i gymuned ôl-raddedig fawr, rhyngddisgyblaethol, ffyniannus, o dros 100 o fyfyrwyr ymchwil.
  • Mae'r Ysgol yn cynnig ystod o ddyfarniadau PhD sy’n yn addas i gam eich gyrfa a’ch cefndir.
  • Bob blwyddyn mae'r Ysgol yn llwyddo i gael llawer o wobrau astudiaeth a ariennir gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, sy'n darparu cymorth ariannol a chymorth arall i fyfyrwyr PhD
  • Mae gan fyfyrwyr PhD fynediad at fan astudio mawr yn yr Ysgol sy'n cynnwys ardal storio personol, cyfleusterau cyfrifiadurol â chysylltiad ledled y Brifysgol i ebyst, y rhyngrwyd a rhaglenni ac adnoddau ymchwil, penodol i’r ddisgyblaeth.
  • Gwahoddir myfyrwyr PhD i gymryd rhan yng nghymuned ymchwil yr Ysgol a mynychu grwpiau ymchwil, cyfresi seminar a grwpiau astudio anffurfiol i'w cyflwyno i - a gyda chyfleoedd i weithredu fel arweinwyr mewn - dadlau cyfoes a barn arbenigwyr yn eu maes.
  • Mae gan fyfyrwyr PhD fynediad at gyfres o gyfleoedd hyfforddi ardderchog (gan gynnwys sgiliau ymchwil a dulliau) i gefnogi eu hastudiaethau a’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu gyrfa.
  • Mae cyfleoedd i fyfyrwyr PhD i gyfrannu at addysgu ar gyrsiau israddedig yr ysgol, a gyda mentora a hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at statws HEA Cyswllt/Cymrawd.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd
Hyd rhan-amser PhD 5-7 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref
Dyddiad(au) cau ceisiadau Rhaid i'ch cais cyflawn gynnwys tystysgrifau a thrawsgrifiadau (gyda chyfieithiadau os bydd ei angen), tystiolaeth Iaith Saesneg (os oes angen), cynnig ymchwil a datganiad personol. Croesewir ceisiadau cyflawn tan y dyddiadau canlynol (oni nodir dyddiad cau penodol ar gyfer yr ysgoloriaeth a hysbysebir): Mynediad ym mis Hydref = 9 Mehefin; Mynediad ym mis Ionawr = 15 Hydref; Mynediad ym mis Ebrill = 14 Ionawr; Mynediad ym mis Gorffennaf = 8 Ebrill.

Mae myfyrwyr doethuriaeth yn cael eu goruchwylio gan ddau staff academaidd profiadol, cymwys. Bydd y tîm goruchwylio yn eich arwain ac yn eich cynghori drwy gyfarfodydd rheolaidd ac yn cefnogi’r myfyrwyr drwy brosesau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwil ymgymryd â hyfforddiant ymchwil cymeradwy yn ystod eu hastudiaethau.

Mae strwythur cyffredinol y rhaglen fel a ganlyn:

  • Blwyddyn Un:       Hyfforddiant dulliau ymchwilio ac adolygu llenyddiaeth.
  • Blwyddyn Dau:       Casglu data/gwaith maes.
  • Blwyddyn Tri:    Dadansoddi data a chofnodi.

Disgwylir i fyfyrwyr gynhyrchu darn estynedig o waith ysgrifenedig bob blwyddyn i fodloni gweithdrefnau monitro adolygu cynnydd y Brifysgol. Bydd hyn fel arfer ar ffurf pennod ddrafft o’ch traethawd a asesir yn annibynnol gan ‘adolygydd’ penodol a fydd yn rhoi adborth adeiladol ar y gwaith a gyflwynwyd i’w adolygu.

Cydnabyddir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw am ymchwil empirig, ddamcaniaethol wybodus, sy’n cyfuno gweithio rhyngddisgyblaethol, effaith ar bolisi ac arfer, a dulliau methodolegol arloesol, ansoddol a meintiol. Yn yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014) diweddaraf, roedd yr Ysgol yn y 3ydd a’r 5ed safle yn y DU am ansawdd ei hymchwil mewn Cymdeithaseg ac Addysg yn y drefn honno; barnwyd bod dros draean o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o’r radd flaenaf. Mae gennym y record orau o ran sicrhau grantiau allanol fesul pen ar gyfer unrhyw ysgol neu adran gwyddorau cymdeithasol yn y wlad, wedi i ni sicrhau grantiau ymchwil o dros £83 miliwn ers sefydlu’r Ysgol yn 2000. Ymhlith ein staff academaidd mae gennym Gymrawd o'r Academi Brydeinig, nifer o Academyddion yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol, enillydd Gwobr Cyflawniad Oes Sefydliad Cymdeithasegol Prydain, Cymrawd Academi Amaethyddiaeth a Choedwigaeth Academi Frenhinol Sweden, a Chymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rydym yn ysgol fawr gyda dros 160 o staff academaidd a mil o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedigion yn astudio. Mae’r holl addysgu yn yr ysgol yn seiliedig ar ymchwil, gyda myfyrwyr yn cael eu hamlygu i’r syniadau diweddaraf yn y gwyddorau cymdeithasol ac yn mwynhau cyswllt wyneb yn wyneb gydag ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol yn llywio dyfodol eu darpar feysydd. Mae hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol yn nodwedd gref iawn o’n rhaglen myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Mae’r Ysgol wedi ei lleoli yn adeilad hanesyddol Adeilad Morgannwg yng Nghanolfan Ddinesig nodedig Caerdydd. Mae cyfleusterau dysgu ac addysgu gwych yn yr adeilad gan gynnwys labordai cyfrifiaduron, darlithfeydd gyda’r dechnoleg clyweledol ddiweddaraf, cyfres o ystafelloedd tiwtorial yn ogystal â mannau cymdeithasol lle gallwch sgwrsio a chyfnewid syniadau.

Mae myfyrwyr doethuriaeth yn hollbwysig i broffil a diwylliant ymchwil cyffredinol yr Ysgol. Cynigir cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig annibynnol mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol, gyda staff academaidd yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithio gyda myfyrwyr doethurol, a’u goruchwylio. Anogir yr holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i chwarae rhan lawn yn amgylchedd academaidd a gweithgareddau ymchwil yr Ysgol.

Am wybodaeth pellach ar grwpiau ymchwil, prosiect ac effaith yr Ysgol, gweler ein gwefan.

Prifysgol, byd academaidd ac ymchwil; mae sgiliau trosglwyddadwy yn galluogi datblygu llwybrau gyrfa mewn unrhyw faes sydd angen: meddwl clir a rhesymegol; cofnodi canfyddiadau empirig yn fanwl; dadansoddiad uwch a beirniadol o ddata cymhleth; dylunio a chynnal ymchwil annibynnol; sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a llafar; y gallu i nodi ac ymholi i broblemau cymhleth; defnyddio a datblygu modelau a theori fel y mae’r rhain yn ymwneud â bywyd dynol a chymdeithasol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Ysgoloriaethau Ymchwil Partneriaeth Doethurol (DTP) Cymru ESRC

Bob blwyddyn rydym yn gallu cynnig nifer o ddyfarniadau a ariennir gan ESRC yn y llwybrau ESRC canlynol:

  • Troseddeg
  • Economi Digidol a Chymdeithas
  • Addysg
  • Gwyddoniaeth ac Astudiaethau Technoleg
  • Polisïau Cymdeithasol
  • Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol
  • Cymdeithaseg

Ariennir rhai o’r ysgoloriaethau mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Fel rhan o’r cyfleoedd cyllid DTP, ceir darpariaeth yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru i ddilyn rhaglen PhD sy’n cynnwys MSc blwyddyn-o-hyd yn Nulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyn gwneud tair blynedd o ymchwil PhD.

Gall ymgeiswyr nad ydynt yn gwneud cais am ddyfarniadau a ariennir fod yn gymwys i wneud cais am y Cynllun Benthyciad Doethurol. Ewch i dudalen Benthyciad Doethurolar wefan Llywodraeth y DU am fanylion.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni PhD feddu ar radd cyntaf dda (2:1 ac uwch) a/neu radd meistr. Efallai y bydd angen i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar radd meistr mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SSRM) ymgymryd â rhywfaint, neu’r holl raglen, SSRM ar gyngor eu darpar oruchwylwyr.

Ar gyfer ymgeiswyr tramor, bydd y cymwysterau gofynnol yn cynnwys gradd gyntaf da sy'n gyfwerth â gradd 2:1 mewn prifysgol yn y DU, a thystysgrif cymhwysedd mewn Saesneg (gweler isod). Wrth asesu cais, cymerir profiad gwaith i ystyriaeth hefyd.

Yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, rydym fel arfer yn disgwyl i ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni PhD feddu ar radd gyfartalog gyffredinol o 60 o leiaf yn eu gradd Meistr, gyda 60 neu fwy yn y traethawd hir, neu allu dangos profiad proffesiynol perthnasol. Bydd ceisiadau gan unigolion o grwpiau a dangynrychiolir mewn astudiaethau ôl-raddedig yn cael eu hystyried fesul achos.

Gofynion Iaith Saesneg

Mae gofyn bod â sgôr o 600 ar TOEFL (250 ar farcio cyfrifiadurol) neu fand 7.0 ar IELTS, os nad Saesneg yw iaith gyntaf yr ymgeiswyr, neu, os nad ydynt wedi cael rhan sylweddol o’u haddysg yn Saesneg.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal â'u ffurflen gais, mae'n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu:

  • datganiad personol
  • cynnig ymchwil i ategu'r cynnig cryno yn y ffurflen gais
  • tystysgrifau a thrawsgrifiadau o ran eu cymwysterau, ynghyd â chyfieithiadau os bydd angen
  • tystiolaeth o fodloni gofynion mynediad Iaith Saesneg
  • dau eirda academaidd y bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdanyn nhw.

Mae'n bwysig nodi na fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu derbyn.

Datganiad personol

Cyn ysgrifennu unrhyw ddatganiad personol, rhaid i chi ystyried ac ymchwilio:

  • Beth yw eich rhesymau a’ch cymhelliant dros wneud cais i astudio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd? E.e. Pam ydych chi am wneud y cwrs/ymchwil?
  • Beth yw eich dealltwriaeth a'ch disgwyliadau o astudio doethuriaeth?
  • Beth yw perthnasedd eich cymwysterau blaenorol a/neu brofiad gwaith?
  • Beth yw eich diddordebau academaidd sy’n gysylltiedig â’ch ymchwil arfaethedig?
  • Beth yw eich nodau academaidd a/neu eich nodau gyrfaol cyffredinol?
  • Beth yw eich cryfderau a pha sgiliau personol sydd gennych chi?

Cynnig ymchwil

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno copi o gynnig estynedig (uchafswm o 1000 o eiriau ac eithrio cyfeiriadau llyfryddiaethol) i ychwanegu at y crynodeb o’r cynnig a geir yn eu ffurflen gais.

Dylai'r amlinelliad o'r ymchwil arfaethedig gynnwys:

  • Teitl, amcanion a phwrpas yr ymchwil
  • Cwestiynau y bydd eich ymchwil yn mynd i’r afael â nhw
  • Trosolwg o'r llenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’ch maes
  • Methodoleg arfaethedig
  • Cyfraniadau academaidd eich ymchwil
  • Llyfryddiaeth

Ar ôl i gais gael ei gyflwyno

Bydd ceisiadau'n cael eu gwirio gan y swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig a chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig cyn cael eu dosbarthu i bob academydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Os yw academyddion wedi mynegi diddordeb mewn cais bydd tîm goruchwylio yn cael ei ffurfio, a gwahoddir yr ymgeisydd i gyfweliad.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Ymchwil ôl-raddedig

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig