Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Astudiwch sut mae polisi’n cael ei lunio ledled y byd i fodloni anghenion dynol a gwella lles.
Safbwyntiau byd-eang
Cewch archwilio polisïau cymdeithasol a chyhoeddus cyfoes mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.
Arbenigwyr nodedig
Caiff yr addysgu ei lywio gan ein hymchwil a'n harbenigedd, sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Astudiaeth ryngddisgyblaethol
Cewch ddealltwriaeth o wahanol ddisgyblaethau yn y gwyddorau cymdeithasol.
Ymchwil annibynnol
Mae traethawd hir yn cynnwys darn annibynnol o ymchwil ar raddfa fechan, ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.
Astudiwch yr adnoddau damcaniaethol, cysyniadol a dadansoddol sydd eu hangen i archwilio polisïau cymdeithasol a chyhoeddus cyfoes mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol. Defnyddiwch ddamcaniaethau a chysyniadau a dehonglwch sawl math o dystiolaeth wrth ddadansoddi datblygiadau polisi a’u heffeithiau cymdeithasol.
Mae’r MSc Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus yn canolbwyntio ar ddeall achosion, ac atebion posibl i, ystod o faterion cymdeithasol pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys heriau fel tlodi, anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol cynyddol, a chytundebau datblygu rhyngwladol.
Mae hwn yn gwrs perffaith os hoffech chi ddatblygu’ch gallu i ddadansoddi polisïau cymdeithasol a chyhoeddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd yn eich galluogi i ddyfnhau eich dealltwriaeth o brif agweddau polisïau cymdeithasol a chyhoeddus, gan gynnwys: gwahanol gysyniadau o ddinasyddiaeth a sut maent yn llywio polisïau cymdeithasol, a sut y defnyddir damcaniaethau a thystiolaeth ymchwil i ddadansoddi, gwerthuso ac egluro newidiadau mewn polisïau cymdeithasol a chyhoeddus.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd wedi cwblhau cyrsiau astudio israddedig yn ddiweddar, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n gweithio yn y sector gymunedol a gwirfoddol, melinau trafod, fel ymchwilwyr, neu ar wahanol lefelau llywodraeth. Mae wedi’i ddylunio i fod o fudd a pherthnasedd i fyfyrwyr o’r DU a thramor, felly anogir unigolion o bob cenedl sydd â diddordeb i ymgeisio.
Mae’r rhaglen hon wedi fy helpu i ddeall yn helaeth sut a pham y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gan lywodraethau a sefydliadau anllywodraethol a’r effaith y mae’r rhain yn ei chael. Roedd y modiwlau’n berthnasol i faterion o bryder cenedlaethol a rhyngwladol presennol, a mwynheais ddysgu a deall sut mae gwledydd gwahanol ag ideolegau gwahanol yn mynd i’r afael â materion tebyg, megis pensiynau, dirwasgiad economaidd, democratiaeth a dinasyddiaeth. Fe wnes i hefyd fwynhau y sesiynau rhyngweithiol, darlithoedd a seminarau gyda’r athrawon a chydfyfyrwyr, a oedd yn sbardun i feddwl yn feirniadol a dadansoddi pynciau gwahanol.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
Applicants should normally hold a first- or second-class undergraduate degree in a humanities or social sciences subject. However, other applicants will be considered if they can demonstrate, through recent and relevant experience, that they have the ability to undertake the course.
Applicants whose first language is not English are required to obtain a minimum overall IELTS score of 6.5 with at least 6.5 in writing, and at least 6.0 in all other sub-sections.
Please make sure that you explain clearly in your personal statement why you are interested in applying to this MSc in Social and Public Policy at Cardiff University.
In your statement, you should refer explicitly to the course and module content outlined above and should explain clearly the particular aspects of this course that most interest you, and what topics or themes you are hoping to learn more about in taking it. If this information is not included, this may cause delays in processing your application, and we may contact you with a request for further information.
The deadline for applications to this course for international applicants is 1st August; for other applicants, the deadline for applications is 1st September. The different dates are due to the need to allow sufficient time for visa processing for international applicants.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon.
Mae'r MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus wedi'i drefnu o amgylch dilyniant o hyd at dri modiwl arbenigol 20 credyd, dau fodiwl 30 credyd mewn theori gwyddor gymdeithasol a dulliau ymchwil, ac un traethawd hir dan oruchwyliaeth 60 credyd ar bwnc polisi cymdeithasol neu gyhoeddus o'ch dewis.
Byddwch yn cynnal eich dadansoddiad eich hun ac yn cyflwyno'r rhain mewn gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Yn ogystal â modiwlau arbenigol sy'n gwella eich dealltwriaeth o ddadansoddi polisi cymdeithasol a chyhoeddus, byddwch yn ymgymryd â modiwlau mewn gwyddor gymdeithasol a dulliau ymchwil. Bydd y sgiliau a ddatblygir ar y modiwlau hyn yn eich galluogi i gwblhau eich traethawd hir eich hun ar bwnc polisi cymdeithasol neu gyhoeddus o'ch dewis.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig modiwlau 20 credyd arbenigol mewn polisïau cymdeithasol a chyhoeddus ar amrywiaeth o bynciau, ond mae’r rhain yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn.
Yn ogystal â'r modiwlau arbenigol hyn, bydd gofyn i chi hefyd gymryd dau fodiwl 30 credyd mewn theori gwyddorau cymdeithasol a dulliau ymchwil.
Traethawd hir
Yn olaf, gofynnir i chi ysgrifennu traethawd hir 60 credyd, 20,000 o eiriau ar bwnc polisïau cymdeithasol neu gyhoeddus o'ch dewis. Mae’r traethawd hir hwn yn cynnwys darn bach annibynnol o ymchwil ac mae'n eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau mewn maes sylweddol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen, ac i roi ar waith yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd trwy gymryd rhan yn y modiwlau a addysgir. Rhoddir goruchwyliwr traethawd personol i chi i gynorthwyo wrth gynllunio, cynnal ac ysgrifennu'r prosiect ymchwil.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Critical Perspectives in Social Science | SIT720 | 30 credydau |
Principles and Practice of Research Design and Methods | SIT721 | 30 credydau |
Citizenship and Social Policy | SIT908 | 20 credydau |
International and Comparative Social and Public Policy | SIT912 | 20 credydau |
Evaluation: Developing and Evaluating Interventions in Complex Social Systems | SIT921 | 20 credydau |
Dissertation | SIT004 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Disgwylir i chi fynychu darlithoedd, seminarau a thiwtorialau fel y nodir yn yr amserlen ar gyfer myfyrwyr MSc. Weithiau mae'r rhain y tu allan i batrwm rheolaidd presenoldeb yn y brifysgol a gallant gynnwys astudio yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau ac ar adegau gallant fod y tu allan i ddyddiadau safonol y semester. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal astudiaeth annibynnol i baratoi ar gyfer darlithoedd, seminarau ac asesiadau. Mae modiwl 20 credyd yn cynnwys 200 awr o astudio, gan gynnwys tua 30 awr o amser cyswllt, ac mae’r MSc yn ei gyfanrwydd yn cynnwys 1800 awr o astudio.
Mae modiwlau yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau i unigolion a grwpiau ac astudiaeth annibynnol dan gyfarwyddyd.
Mae'r rhaglen yn elwa ar fod mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol fel y byddwch, mewn rhannau o'r cwrs, yn dod i gysylltiad â staff a myfyrwyr o feysydd pwnc eraill ac, mewn rhannau eraill o'r cwrs, â staff a myfyrwyr yn yr un prif faes.
Sut y caf fy asesu?
Bydd y modiwlau'n cael eu hasesu drwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, adolygiadau a chyflwyniadau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol a goruchwyliwr enwebedig yn cael eu neilltuo i chi pan fyddwch yn gweithio ar eich traethawd hir. Bydd cyswllt rheolaidd yn cael ei gynnal drwy gydol y cwrs. Byddwch hefyd yn cael mynediad at gynullydd rhaglen i gael cymorth ychwanegol penodol i bwnc.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau.
Adborth
Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu ac ymarfer cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig uwch drwy dasgau ffurfiannol fel cyflwyno darllen paratoadol, tasgau dysgu grŵp sy'n seiliedig ar broblemau, a chyflwyniadau grŵp. Felly, rhoddir adborth yn barhaus, yn ogystal ag yn fwy ffurfiol ar gyfer asesiadau crynodol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau'r MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus yn llwyddiannus, byddwch wedi gwella eich gallu i wneud y canlynol:
- Dadansoddi polisïau cymdeithasol a chyhoeddus yn feirniadol mewn amrywiaeth o feysydd thematig a lleoliadau daearyddol
- Asesu theorïau newid polisi a chysyniadau sy'n sail i ffurfio polisi, gan ddefnyddio amrywiaeth o fathau o dystiolaeth ymchwil
- Dadansoddi a chynnwys polisïau cymdeithasol a chyhoeddus lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o fewn eu cyd-destunau byd-eang, hanesyddol ac ideolegol ehangach
- Casglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata gwyddor gymdeithasol a gwerthfawrogi cymhlethdodau gwahanol fathau o ddata
- Cyfleu a chyflwyno syniadau a chanfyddiadau ymchwil yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Cynnal eich ymchwil eich hun ym maes polisi cymdeithasol a chyhoeddus.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,450 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,950 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i fod o ddiddordeb arbennig i unigolion sydd â phrofiad o weithio gyda, neu sydd â diddordeb mewn gweithio i, sefydliadau ymchwil cymdeithasol neu academaidd, adrannau ar wahanol lefelau llywodraeth (e.e. lleol, Cymru, ledled y DU, Ewrop), sefydliadau rhyngwladol (e.e. UNICEF), neu mewn sefydliadau yn y sector gymunedol a gwirfoddol. Mae hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn llwybrau eraill ond sy’n dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o bolisi cymdeithasol a chyhoeddus yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Arian
Gwaith maes
You may conduct fieldwork as part of your dissertation study as directed by, and in discussion with, your supervisor.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Politics, Social sciences
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.