Ymchwil ôl-raddedig
Byddwch yn astudio mewn amgylchedd academaidd ac ymchwil bywiog a bydd arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn eich goruchwylio.
Rydym yn cynnig dau opsiwn gwahanol ar gyfer astudio Doethuriaeth: Doethur mewn Athroniaeth (PhD) a Doethuriaeth Broffesiynol.
Yn fras, nod y PhD yw paratoi ymgeiswyr at yrfa yn seiliedig ar ymchwil, tra bod Doethuriaeth Broffesiynol yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion gyrfa gweithwyr proffesiynol sy’n ymarfer, yn arbennig y rhai hynny sydd mewn, neu sy’n anelu at gyrraedd, swyddi uwch.
Mae hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol yn nodwedd gref iawn o’n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Rydym yn ymrwymo i wneud ymchwil sy’n seiliedig ar theori ac yn canolbwyntio’n glir ar bolisïau.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio ymchwil ôl-raddedig ym meysydd cymdeithaseg, polisïau cymdeithasol, troseddeg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol ac addysg.
Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cynnwys cynnal amrywiaeth fawr o grwpiau ymchwil gweithgar, grwpiau astudio anffurfiol a chyfresi o seminarau. Mae ein Caffi Ôl-raddedigion – menter o dan arweiniad y myfyrwyr - yn fforwm deallusol unigryw ac yn rhwydwaith sy’n cefnogi’r rhai sy’n astudio rhaglenni doethurol.
Rydym yn cael ein cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil empirig, damcaniaethol wybodus.