Ewch i’r prif gynnwys

Doethur mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus

Mae’r ddoethuriaeth broffesiynol wedi’i hanelu at reolwyr ac amrywiaeth eang o ymarferwyr sydd yn brofiadol ac sydd yn gweithio ar lefelau uwch a chanolig yn eu proffesiynau a’u sefydliadau. Mae'n cynnig y cyfle i archwilio damcaniaethau cyfoes blaenllaw a thystiolaeth ymchwil, ac i ddefnyddio'r rhain o fewn y cyd-destun proffesiynol.

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn radd ymchwil doethur rhan-amser. Mae'n gwbl gyfwerth â PhD, ond yn dra gwahanol iddi oherwydd ei fod yn ymwneud yn gryf â’r byd proffesiynol, gan ganolbwyntio ar 'gymhwyso' ymchwil yn hytrach nag ymchwil 'pur'.

Er bod y PhD yn gyffredinol yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer gyrfa yn seiliedig ar ymchwil, mae’r ddoethuriaeth broffesiynol yn radd sy’n ymwneud mwy â’r gwasanaeth, gan roi sylw i anghenion gyrfa gweithwyr proffesiynol, yn enwedig y rhai hynny sy’n anelu at swyddi uwch yn eu proffesiynau. Mae cysylltiadau rhwng gwybodaeth seiliedig ar ymchwil a’i ddefnydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau proffesiynol yn ganolog i’r doethuriaeth hwn.

Rydym yn cynnig cynllun doethuriaeth broffesiynol integredig lle mae gweithwyr addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, a pholisi cymdeithasol yn ymgysylltu gyda’i gilydd mewn dysgu integredig ar gyfer rhai modiwlau a addysgir. Mae’r dysgu rhyng-broffesiynol unigryw yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn a rennir ar draws ffiniau proffesiynol a’r hyn sy’n benodol ar gyfer eu traddodiadau galwedigaethol eu hun.

Yn anad dim, mae doethuriaeth broffesiynol yn cynnig y cyfle i archwilio damcaniaethau cyfoes blaenllaw a thystiolaeth ymchwil, ac i ddefnyddio'r rhain o fewn y cyd-destun proffesiynol.

Cynlluniwyd y modiwlau SPPD s a addysgir er mwyn ymateb i anghenion datblygu a buddiannau’r rhai sy’n cael eu cyflogi o fewn llywodraethau rhanbarthol y DU ac awdurdodau lleol, yn ogystal â sefydliadau ymchwil (statudol ac annibynnol) gyda diddordeb proffesiynol mewn polisi cyhoeddus a chymdeithasol. Mae’r modiwlau’n paratoi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch materion cymhleth, megis adeiladu a gweithredu llywodraethiant ‘aml-lefel’ a ‘chynhwysol’ yn llwyddiannus, a’i oblygiadau ar gyfer creu polisïau; trafod telerau gofynion y ddeddfwriaeth cyfle cyfartal; a chyfrifoldebau gweinyddu mewn sefyllfaoedd polisi cyhoeddus. Mae'r modiwlau yn tynnu ar amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol ac yn archwilio astudiaethau empirig sy'n ymwneud â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Y llwybrau nodedig eraill yn y cynllun doethuriaeth broffesiynol yw:

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Rhan amser
Cymhwyster SPPD
Hyd amser llawn Nid oes unrhyw astudiaeth amser llawn ar gael
Hyd rhan-amser SPPD 5-7 blynedd
Dyddiad(au) cau ceisiadau Croesewir ceisiadau tan 1 Mehefin bob blwyddyn.

Mae eich astudiaethau gyda ni yn cynnwys dwy elfen:

  • Rhan un: cwblhau chwe modiwl a addysgir ar y penwythnos, pob un gydag aseiniad 4,000 gair neu dasgau cyfatebol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno drafft o'r aseiniad(au) i gael adborth. Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl yw 50% a byddwch angen cyflawni marc cyffredinol o 60% o leiaf ar gyfer yr holl fodiwlau ar y cyd er mwyn symud ymlaen i gam traethawd y rhaglen.
  • Rhan dau: traethawd ymchwil o rhwng 35,000 a 50,000 gair mewn hyd. Bydd y traethawd ymchwil yn canolbwyntio ar unrhyw bwnc a gymeradwywyd ac mae’n cael ei oruchwylio’n unigol gan staff academaidd.

Mae dau fath gwahanol o fodiwlau a addysgir: pedwar craidd a dau arbenigol Bydd eich modiwlau arbenigol yn dibynnu ar eich llwybr o ddewis.

Modiwlau craidd

  • Newid Dulliau Proffesiynoldeb
  • Dylunio Ymchwil
  • Dulliau Ymchwil Arloesol
  • Dulliau Ymchwil Meintiol

Modiwlau arbenigol

  • Dinasyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol
  • Gwerthuso: Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau mewn Systemau Cymdeithasol Cymhleth

Dulliau Addysgu

Mae pob modiwl a addysgir yn cael ei gyflwyno dros benwythnos: mae’r dysgu’n dechrau ar nos Iau ac yn parhau drwy gydol dydd Gwener a dydd Sadwrn. Addysgir y ddoethuriaeth broffesiynol drwy gyfrwng darlithiau a hefyd mewn gweithdai a seminarau llai lle rhoir pwys ar drafod. Mae addysgu hefyd yn rhoi pwyslais ar gyfeirio astudiaeth annibynnol.

Sgiliau y byddwch yn eu meithrin

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi meithrin sgiliau ymchwil, galluoedd damcaniaethol, a byddwch wedi cael profi o’u defnyddio mewn modd sy’n addas i’ch cyd-destun proffesiynol penodol. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys:

  • Y gallu i ddadansoddi arferion a pholisïau sy'n effeithio ar asiantaethau a grwpiau cleient yn eich maes proffesiynol;
  • Y gallu i reoli arloesi a newid dyfeisgar yn eich maes o ddewis;
  • Cyfathrebu a cydweithio’n effeithiol ac yn adeiladol gyda gweithwyr proffesiynol eraill mewn disgyblaethau eraill ar draws ffiniau sefydliadol a gwasanaeth;
  • Darparu arweiniad clir, goruchwyliaeth ac ymgynghori yn eich maes yn seiliedig ar eich gwybodaeth helaeth, sgiliau rhyngbersonol, gwerthoedd eglur a chydnabyddiaeth o'r cyfrifoldebau yn eich rôl;
  • Y gallu i weithio'n annibynnol a bod yn atebol a gwneud defnydd adeiladol ac arloesol o brosesau ymgynghori a rheoli.

Hyd

Cyfnod mwyaf ymgeisyddiaeth y cynllun yw saith mlynedd. Fodd bynnag, mae nifer o fyfyrwyr yn ei gwblhau mewn cyn lleied â phum mlynedd. Bydd hyn yn dibynnu ar hyblygrwydd y myfyriwr ac argaeledd ar gyfer yr astudiaeth.

Dyfarniadau ymadael amgen

Byddwch yn cael eich annog a’ch cefnogi i gwblhau eich gradd doethuriaeth llawn. Fodd bynnag, rydym yn cynnig dyfarniadau ymadael amgen ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu cwblhau eu rhaglen astudio. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol ar ôl cwblhau tri modiwl a addysgir;
  • Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol ar ôl cwblhau chwe modiwl a addysgir; neu
  • MSc mewn Astudiaethau Ymarfer Proffesiynol ar ôl gorffen chwe modiwl a addysgir a chyflwyno traethawd ymchwil 20,000 gair.

Cydnabyddir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw am ymchwil empirig, ddamcaniaethol wybodus, sy’n cyfuno gweithio rhyngddisgyblaethol, effaith ar bolisi ac arfer, a dulliau methodolegol arloesol, ansoddol a meintiol. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau a themâu ac rydym yn annog ceisiadau yn y meysydd canlynol:

Yn yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), daethom yn 3ydd ac yn 5ed yn y DU am ansawdd ein hymchwil mewn cymdeithaseg ac addysg yn y drefn honno. Mae gennym y record orau o ran sicrhau grantiau allanol per capita ar gyfer unrhyw ysgol neu adran gwyddorau cymdeithasol yn y wlad.

Ymhlith ein staff academaidd mae gennym enillydd Gwobr Cyflawniad Oes Cymdeithas Gymdeithasegol Prydain a Chymrawd Academi Amaethyddiaeth a Choedwigaeth Frenhinol Sweden.

Fel arfer bydd ymgeiswyr doethuriaeth broffesiynol mewn cyflogaeth pan fyddan nhw’n astudio gyda ni, er nad yw cyflogaeth presennol yn un o’r amodau mynediad.

Mae graddedigion yn gallu datblygu eu gyrfaoedd yn eu lleoliadau cyflogaeth neu symud y tu hwnt i’r rhain i, er enghraifft, Addysg Uwch, polisi a chynllunio, a/neu ddatblygu a rheoli ymchwil

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Mae’r strwythur ffioedd ar gyfer y rhaglen doethuriaeth broffesiynol yn cynnwys un modiwl ar bymtheg i gyd: chwe modiwl a addysgir a’r hyn sy’n cyfateb i ddeg modiwlau ar gyfer y cam traethawd. Darperir cyllid ar gyfer ymgeiswyr Doethuriaeth Broffesiynol fel arfer gan gyflogwyr, er bod rhai myfyrwyr yn ariannu eu hunain.

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Rhaid i chi feddu ar radd gyntaf dda yn ogystal â gradd meistr, fel rheol. Dylai fod gennych hefyd o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’ch llwybr dewisol.

Mae llawer o'r gwaith dysgu yn y modiwl a’r aseiniadau cysylltiedig yn ceisio cefnogi datblygiad proffesiynol gymhwysol, a bydd disgwyl i chi fod â phrofiad o - neu mynediad cyfredol at - leoliadau proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’ch doethuriaeth.

Gofynion Iaith Saesneg

Mae gofyn bod â sgôr o 600 ar TOEFL (250 ar farcio cyfrifiadurol) neu fand 7.0 ar IELTS os nad Saesneg yw iaith gyntaf yr ymgeiswyr neu os nad ydynt wedi cael rhan sylweddol o’u haddysg yn Saesneg.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Mae gan y cynllun doethuriaeth broffesiynol ddyddiad derbyn blynyddol ym mis Hydref a chroesewir ceisiadau tan 1 Mehefin bob blwyddyn. Caiff ceisiadau eraill eu hystyried fesul achos. Fel rhan o'r broses ymgeisio, mae'n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu dau eirda, tystiolaeth o’u cymwysterau, datganiad personol a hefyd gynnig ymchwil ynglŷn â'r pwnc ymchwil y maen nhw’n bwriadu ei astudio ar gyfer eu doethuriaeth.

Mae cam modiwl y rhaglen wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth ar lefel ddoethurol i fyfyrwyr o ddylunio ymchwil a dulliau ymchwil, ac felly cydnabyddir y gallai syniadau cychwynnol am bwnc ymchwil newid yn sylweddol erbyn i fyfyrwyr symud ymlaen i'r cam traethawd ymchwil. Er hynny, mae cynnig amlinellol yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r cais, gan helpu'r Ysgol i sefydlu addasrwydd ymgeisydd ar gyfer astudiaeth ar lefel ddoethurol ac i nodi argaeledd tiwtor personol priodol a darpar oruchwylwyr.

Yn ogystal â'u ffurflen gais, mae'n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu:

  • datganiad personol
  • cynnig ymchwil i ategu'r cynnig cryno yn y ffurflen gais
  • tystysgrifau a thrawsgrifiadau o ran eu cymwysterau, ynghyd â chyfieithiadau os bydd angen
  • tystiolaeth o fodloni gofynion mynediad Iaith Saesneg
  • dau eirda academaidd y bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdanyn nhw.

Datganiad personol (tua 500-800 o eiriau)

Wrth gynllunio strwythur eich datganiad personol, ystyriwch y canlynol:

  • Beth yw eich rhesymau a'ch cymhelliant dros wneud cais i astudio mewn doethur? Gallai hyn gynnwys rhai sylwadau a disgwyliadau ar astudio doethurol;
  • Beth yw perthnasedd eich dysgu academaidd a phroffesiynol blaenorol a'ch profiad ar gyfer rhaglen astudio ddoethurol? Gallai hyn gynnwys eich asesiad o'r cryfderau a'r sgiliau personol y byddech yn eu cyflwyno i'ch astudiaeth;
  • Pam mai dyma'r amser iawn i chi ddechrau ar eich astudiaeth ddoethurol? Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am eich gwaith a/neu amgylchiadau personol a sut y byddai'r rhain yn hwyluso ymgysylltu ag astudio.

Cynnig ymchwil (tua 500-1500 o eiriau)

Dylai'r amlinelliad o'r ymchwil arfaethedig gynnwys:

  1. teitl dangosol ar gyfer yr astudiaeth arfaethedig
  2. crynodeb byr o ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes, gan fynd i'r afael â llenyddiaeth ac ymchwil berthnasol allweddol, a dangos ymgysylltiad ag ystod amrywiol o ffynonellau
  3. datganiad o nodau'r ymchwil arfaethedig yng nghyd-destun 2 uchod
  4. cwestiynau ymchwil penodol posibl y mae'r astudiaeth yn mynd i'r afael â hwy, yn ddelfrydol dim mwy na dau neu dri
  5. amlinelliad o'r dyluniad a'r fethodoleg ymchwil arfaethedig, gan gynnwys gwybodaeth am ddarpar fynediad i ymchwil, samplu a dulliau o gasglu data - ceisiwch gynnwys cynllun ar gyfer amserlen tair blynedd
  6. llyfryddiaeth ddangosol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Professional Doctorate programmes

Cyswllt gweinyddol

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig