Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth Darlledu (MA)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn gwrs blwyddyn dwys sy'n cwmpasu newyddiaduraeth radio, teledu, symudol a digidol. Ein nod yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ystafell newyddion ddarlledu fodern.

certificate

Mynnwch gael eich achredu

Mae cwrs achrededig yn sicrhau bod eich CV yn rhagori - rydym wedi ein hachredu gan y Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Darlledu (BJTC).

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Mae rhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar waith yn meithrin eich hunanhyder, yn eich paratoi ar gyfer eich swydd gyntaf ac yn datblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau.

screen

Cyfleusterau newydd sbon danlli

Mae ein stiwdios teledu a radio newydd yn defnyddio cyfarpar a meddalwedd o safon yn y diwydiant, gan sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn y gwaith.

people

Ymunwch â byd y wasg

Mae ein hadeilad yng nghanol ein dinas yn golygu y byddwch drws nesaf i gwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol Caerdydd megis y BBC a Wales Online.

tick

Peidiwch byth â methu cyfweliad

Byddwch yn gysylltiedig â'r ddinas gyfan gan fod prif orsaf drenau Caerdydd Canol Caerdydd gwta 100 metr i ffwrdd.

star

Ysgol Newyddiaduraeth gyntaf y DU

Mae cael eich hyfforddi #CardiffTrained yn golygu y byddwch yn perthyn i un o’r ysgolion newyddiaduraeth uchaf eu parch yn y DU sydd â rhestr hynod enwog o gyn-fyfyrwyr.

Paratowch am yrfa gyffrous ym maes newyddiaduraeth teledu, radio, digidol a chyfryngau cymdeithasol gydag MA Newyddiaduraeth Ddarlledu Prifysgol Caerdydd. Bydd y cwrs dwys blwyddyn o hyd yn cynnig hyfforddiant ymarferol i'ch paratoi i ddod yn newyddiadurwr â sgiliau niferus sy'n barod ar gyfer y diwydiant.

Achredir y cwrs gan y Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Darlledu (BJTC), ac fe'i cynlluniwyd i adlewyrchu gofynion ystafell newyddion go iawn.

Byddwch yn dysgu mewn stiwdios radio teledu a digidol safonol i'r diwydiant, ac yn datblygu sgiliau ymchwilio, cynhyrchu a chyflwyno newyddion ar draws sawl platfform.

Rydyn ni'n disgwyl i chi fod yn chwilfrydig, gydag angerdd am newyddion ac ymrwymiad i adrodd straeon. Dydyn ni ddim yn edrych am newyddiadurwyr parod, ond os ydych chi'n gwylio, darllen a gwrando ar y newyddion yn rheolaidd ac wedi cael rhywfaint o brofiad - boed trwy leoliad gwaith, cyfryngau myfyrwyr, neu waith llawrydd - mae hynny'n ddechrau da.

Byddwch chi’n sicrhau:

  • arbenigedd mewn newyddiaduraeth deledu, radio a digidol i'ch paratoi ar gyfer gyrfa aml-blatfform.
  • profiad ymarferol o gynhyrchu newyddion, adroddiadau byw, ac adrodd straeon mewn sawl fformat.
  • sgiliau strategaeth cyfryngau cymdeithasol, newyddiaduraeth symudol, golygu fideo a sain.
  • lleoliad gwaith yn y diwydiant dros dair wythnos gyda darlledwyr mawr. Ymhlith enghreifftiau blaenorol mae'r BBC, ITV, Sky ac LBC.
  • yr hyder i weithio'n annibynnol, addasu i dechnoleg sy'n newid yn gyflym, ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ar draws sawl platfform.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn niwydiant newyddion y DU. Er bod croeso i fyfyrwyr rhyngwladol, efallai y byddai'n well gan y rhai sydd â dyhead ehangach am newyddiaduraeth fyd-eang ddilyn yr MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

 

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.5 gyda 7.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda (academaidd neu broffesiynol) sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Yn ddelfrydol, dylid cael y rhain cyn i chi wneud cais a bydd eu hangen cyn i ni allu gwneud penderfyniad ar eich cais. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  4. Datganiad personol sy'n ymdrin â'r canlynol:
  • Pam ydych chi am wneud cais ar gyfer y cwrs hwn ym Mhrifysgol Caerdydd? (150 gair).
  • Pa brofiad o newyddiaduraeth neu brofiad yn y cyfryngau sydd gennych? (150 gair). Gall hyn gynnwys profiad o weithio ym maes cyfryngau myfyrwyr, yn wirfoddol, neu tra ar leoliad. Nid oes rhaid iddo fod yn brofiad gwaith cyflogedig.
  • Beth yw eich dyheadau gyrfaol? (100 gair)

Os nad oes gennych radd, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Mae cyfweliadau wedi'u trefnu rhwng mis Ionawr a mis Mehefin. 

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol (i asesu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen a'ch dealltwriaeth ohoni), ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyfweliad ffurfiol safonol ac ymarferion ychwanegol i asesu eich sgiliau sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth ac i yrfaoedd mewn newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Gall hyn gynnwys sgiliau ysgrifennu, sgiliau darlledu (h.y. profion llais), eich dealltwriaeth o'r ddisgyblaeth, a'ch gallu i bennu blaenoriaethau newyddion. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Yng Nghaerdydd, nid dim ond astudio newyddiaduraeth fyddwch chi, byddwch chi hefyd yn byw newyddiaduraeth. Mae'r dyddiau cynhyrchu newyddion yn eich gosod yng nghanol ystafell newyddion brysur, lle byddwch chi'n gweithio fel tîm i gynhyrchu newyddion go iawn, mewn amser real. O'r newyddion diweddaraf i adroddiadau manwl, byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn newyddiaduraeth fodern.

Mae eich hyfforddiant yn datblygu o weithdai ymarferol ac ymarferion i greu a chyhoeddi cynnwys aml-blatfform. Byddwch yn ymchwilio, ysgrifennu, ffilmio, a golygu, gan ennill profiad sy'n adlewyrchu gofynion ystafelloedd newyddion proffesiynol.

Trwy gydol y flwyddyn, byddwch hefyd yn dysgu gan y goreuon. Bydd gwesteion proffil uchel o'r diwydiant - gan gynnwys newyddiadurwyr, golygyddion a chynhyrchwyr blaenllaw mewn cwmnïau darlledu mawr - yn cynnig golwg o'r tu fewn, cyngor ar yrfaoedd, a’r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant, i'ch helpu i gadw ar y blaen yn nhirwedd esblygol y cyfryngau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Addysgir sgiliau ysgrifennu, adrodd a thechnegol sylfaenol yn y semester cyntaf yn erbyn cefndir o wrando grŵp a gwylio arferion proffesiynol cyfredol da.

Mae'r ail semester yn ychwanegu sgiliau golygyddol a chynhyrchu ar y radio a'r teledu. Rydym yn defnyddio'r ddyfais o 'ddiwrnodau cynhyrchu' ddwywaith yr wythnos i integreiddio sgiliau newyddion a chynhyrchu gyda'r sgiliau gweithio tîm a golygyddol/rheoli adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu allbynnau darlledu amser real.

Yn ystod gwyliau'r Pasg byddwch yn profi eich sgiliau yn y byd go iawn mewn lleoliad gwaith (neu leoliadau) o leiaf dair wythnos mewn ystafell newyddion radio neu deledu o'ch dewis.

Yn dilyn gwyliau'r Pasg cewch gyfle i astudio o blith ystod eang ac amrywiol o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys chwaraeon, moduro, busnes a newyddiaduraeth data.

Yn olaf, caiff sgiliau ysgrifennu, gohebu ac adrodd straeon unigol eu profi yn y ddau gyfrwng yn y portffolio gwaith terfynol a'r arholiadau ymarferol terfynol.

Bydd eich prosiect mawr yn cael ei hunan-gyrchu a'i arwain gan fyfyrwyr. Byddwch yn dod o hyd i, yn ymchwilio ac yn cynhyrchu stori a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer radio, teledu ac ar-lein.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Y diwrnodau cynhyrchu newyddion yw craidd y cwrs - profiad dwys, amser real lle byddwch chi a'ch tîm yn ymgymryd â rolau newyddiadurwyr, golygyddion, cynhyrchwyr a chyflwynwyr. Byddwch yn mynd ar drywydd straeon, yn cynnal cyfweliadau, ysgrifennu sgriptiau, golygu fideo a sain, a darlledu newyddion ar draws platfformau teledu, radio, digidol a chymdeithasol

Ochr yn ochr â'r hyfforddiant ymarferol, bydd darlithoedd a seminarau dan arweiniad arbenigwyr yn dwysau eich dealltwriaeth o foeseg newyddiaduraeth, cyfraith y cyfryngau, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, a'r dirwedd ddigidol sy'n esblygu. Mae'r cyfuniad o ddysgu ymarferol ac academaidd yn sicrhau y byddwch yn graddio'n newyddiadurwr aml-sgiliau yn barod ar gyfer y diwydiant.

Sut y caf fy asesu?

Mae asesiad y cwrs wedi'i gynllunio i adlewyrchu’r heriau mewn ystafell newyddion fodern. Cewch eich cloriannu trwy gyfuniad o asesiadau ffurfiannol a chrynodol, gan sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau cynhyrchu ymarferol a dealltwriaeth dda o'r diwydiant.

Dylech ddisgwyl cyfuniad o'r canlynol:

  • Diwrnodau newyddion byw – cynhyrchu a darlledu cynnwys dan bwysau amser real.
  • Aseiniadau ymarferol – gan gynnwys adroddiadau teledu a radio, straeon newyddion digidol, a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • Adroddiadau ac arholiadau ysgrifenedig – yn cynnwys cyfraith y cyfryngau, moeseg, a rôl esblygol newyddiaduraeth.
  • Portffolios myfyriol – dadansoddi eich gwaith a'ch datblygiad proffesiynol.

Bydd yr asesiadau amrywiol hyn yn eich paratoi ar gyfer natur gyflym, aml-blatfform newyddiaduraeth fodern ac yn sicrhau eich bod yn graddio gyda sylfaen gref o sgiliau ymarferol a damcaniaethol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Canfod ac ymchwilio i straeon newyddion wedi’u targedu at gynulleidfa benodol, a’u cynhyrchu a’u dosbarthu yn unol â dyddiad cwblhau y cytunwyd arno.
  • Ysgrifennu copi cywir, cryno sy'n deg, yn gytbwys ac yn addas ar gyfer darlledu a phlatfformau digidol eraill.
  • Defnyddio amrywiaeth o feddalwedd a chaledwedd i recordio, golygu a chyhoeddi cynnwys.
  • Cyflwyno deunydd byw ac wedi’i recordio yn hyderus, ac mewn modd cywir a sgyrsiol.

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech fod yn:

  • Gallu disgrifio egwyddorion, theori, athroniaeth, moeseg, cyfraith ac ymarfer newyddiaduraeth, yn enwedig newyddiaduraeth ddarlledu.
  • Datblygu gwerthoedd newyddion proffesiynol ac yn gallu eu defnyddio i nodi straeon priodol a defnyddio'r wybodaeth hon i ysgrifennu neu gynhyrchu darnau effeithiol o newyddiaduraeth ddarlledu a digidol fel arall.
  • Derbyn sut i addasu'r deunydd hwn i anghenion gwahanol gynulleidfaoedd, platfformau ac amcanion golygyddol.
  • Gallu dangos eich bod yn gallu defnyddio darnau perthnasol o galedwedd a meddalwedd darlledu.

Sgiliau deallusol

Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech fod yn:

  • Dangos ymwybyddiaeth o rôl y newyddiadurwr darlledu ar draws ystod o allbynnau ar draws y diwydiant.
  • Gallu dadansoddi deunydd a ddarlledir gan wahanol sefydliadau newyddion a hynny’n feirniadol.
  • Gallu cyfleu straeon cymhleth yn effeithiol ar gyfer radio, teledu a phlatfformau eraill o amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a gwybodaeth gefndir, gan ddefnyddio technegau priodol.
  • Dangos y gallu i ddatblygu syniadau ar gyfer rhaglenni a'u cyfleu'n effeithiol i dîm o newyddiadurwyr.
  • Derbyn y sgiliau a'r technegau golygyddol a gweinyddol sydd eu hangen i wireddu'r syniadau hyn.
  • Dangos dealltwriaeth o'r sgiliau rheoli sydd eu hangen i arwain tîm o newyddiadurwyr.

Dealltwriaeth a phrofiad o’r canlynol:

  • Y rolau sy'n gysylltiedig â newyddiaduraeth ddarlledu: golygydd, cynhyrchydd, gohebydd, newyddiadurwr cynhyrchu ac ati.
  • Y sgiliau golygyddol ac ymarferol sydd eu hangen i greu trefn rhaglen briodol ar gyfer rhaglenni a bwletinau byrrach.
  • Egwyddorion newyddiaduraeth symudol a digidol; profiad ymarferol o ddefnyddio’r rhain.
  • Meddalwedd a chaledwedd cipio/golygu/chwarae ar gyfer radio, teledu a phlatfformau eraill.
  • Yr ystod o rolau yn y stiwdio radio a'r oriel deledu.
  • Defnyddio offer ar-lein/digidol i greu a thrin cynnwys ar gyfer amrywiaeth o blatfformau.
  • Y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflwyno syniadau am straeon i gydweithwyr a gweithio'n effeithiol mewn ystafell newyddion.
  • Canfod a datblygu cysylltiadau a ffynonellau eraill, naill ai drwy 'ardal' benodol neu'n fwy cyffredinol, er mwyn cynhyrchu straeon newyddion.
  • Sut i gyflwyno sgriptiau darlledu, yn fyw ac wedi'u recordio ymlaen llaw, mewn modd proffesiynol.
  • Technegau cyfweld effeithiol wrth ddelio â chyfranwyr.
  • Defnyddio amrywiaeth o offer - ar gyfer radio a theledu - i gasglu cynnwys safonol ar gyfer darlledu.
  • Defnyddio dyfais symudol i gasglu a dosbarthu cynnwys ar gyfer radio, teledu a phlatfformau eraill.
  • Sut i weithio'n ddiogel ar leoliad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2025 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2025/26.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae hwn yn gyfnod o newid mawr ym mhob maes newyddiaduraeth – gan gynnwys darlledu – ond mae ein record cyflogaeth yn parhau i fod yn dda.

Mae ein graddedigion fel arfer yn ein gadael i weithio fel newyddiadurwyr darlledu mewn ystafelloedd newyddion radio neu deledu rhanbarthol lleol. Mae graddedigion diweddar bellach yn gweithio i sefydliadau fel BBC ac ITV News, SKY, CNN, Reuters, Bloomberg ac Al Jazeera English. Dros y blynyddoedd rydym wedi helpu cannoedd o bobl i ddechrau eu gyrfaoedd mewn newyddiaduraeth ddarlledu. Mae llawer bellach yn gweithio ar frig y proffesiwn.

Lleoliadau

Cewch roi'r holl sgiliau hyn ar waith gyda lleoliad gwaith 15 diwrnod yn y diwydiant gyda rhai o sefydliadau newyddion mwyaf y DU, lle byddwch yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr profiadol. Bydd tiwtoriaid yn trefnu 10 o'r diwrnodau i chi. 

P'un a ydych chi'n cynhyrchu bwletinau ar gyfer gorsafoedd radio Global, yn adrodd ar y newyddion diweddaraf yn ITV, neu'n gweithio'r tu ôl i'r llenni yn BBC News neu Sky, bydd eich lleoliad yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o ystafell newyddion broffesiynol.

Mae'r lleoliadau wedi'u teilwra i'ch sgiliau a'ch dewis ardal, gan sicrhau eich bod yn cael profiad gwerthfawr, go iawn mewn teledu, radio, neu'r ddau. Mae'n gyfle i feithrin cysylltiadau, hogi eich sgiliau wrth lunio adroddiadau, a chael dechrau da yn eich gyrfa newyddiadurol.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 10% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.