Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebu Gwleidyddol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i rôl cyfathrebu mewn bywyd gwleidyddol - rôl sy'n prysur esblygu ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn ystyried sut mae newidiadau fel pwysigrwydd cynyddol ‘swyddogion sbin’, gwleidyddiaeth sy'n seiliedig ar ddelwedd, newyddion 24 awr a globaleiddio’r cyfryngau yn llywio gwleidyddiaeth.

tick

Datblygu eich gyrfa

Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu ymarferol, yn rhoi hwb i'ch gallu i ymgymryd â gwaith dadansoddol ac yn cyflawni ymchwil sy'n seiliedig ar brosiectau.

mortarboard

Paratoi ar gyfer PhD prifardd

Lluniwyd y radd hon yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn astudiaethau academaidd uwch gan gynnwys y rheini sy'n ystyried gwneud ymchwil PhD.

location

Y Sgwâr Canolog, Caerdydd

Byddwch yn astudio yn ardal y cyfryngau yng Nghaerdydd, yn agos i BBC Cymru, adeiladau canolog llywodraeth y DU yng Nghymru a gallwch gerdded i’r Senedd yn rhwydd.

star

Rhagoriaeth ymchwil

Byddwch yn astudio yn un o brif ysgolion y DU ar gyfer ymchwil ar gyfathrebu, sef yr 2il orau yn y DU yn ôl y Llywodraeth.

Bydd y cwrs MA Cyfathrebu Gwleidyddol yn dwysau eich dealltwriaeth o gyfathrebu gwleidyddol mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol a, lle bo hynny'n berthnasol, eich sgiliau yn y maes hwn.

Byddwch yn archwilio cynnwys gwleidyddol y cyfryngau torfol ac yn dwysáu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o'r gweithredwyr a'r asiantaethau sy'n ymwneud â chynhyrchu newyddion a gwybodaeth wleidyddol

Mae'r cwrs yn archwilio effaith sylw'r cyfryngau i wleidyddiaeth ar gynulleidfaoedd ac yn archwilio'r rhyngweithio rhwng systemau cyfryngau a systemau gwleidyddol gan gynnwys polisi cyfryngau'r llywodraeth, sensoriaeth, rheoleiddio a pherchnogaeth

Byddwch yn ennill y sgiliau ymchwil ac astudio sydd eu hangen arnoch i gynnal ymchwil broffesiynol ac academaidd sy'n seiliedig ar brosiect.

Mae’r cwrs yn ymchwilio i rôl cyfathrebu mewn bywyd gwleidyddol - rôl sy'n prysur esblygu ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn ystyried sut mae newidiadau fel pwysigrwydd cynyddol platfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein newydd, gwleidyddiaeth sy'n seiliedig ar ddelwedd, a globaleiddio’r cyfryngau yn llywio gwleidyddiaeth.

Mae’r cwrs MA Cyfathrebu Gwleidyddol yn edrych ar ddylanwad gweithredwyr yn y broses gyfathrebu wleidyddol, gan gynnwys gwleidyddion, newyddiadurwyr a dinasyddion drwy ddefnyddio ymchwil arloesol ac astudiaethau achos.

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sydd â diddordeb mewn astudiaeth academaidd uwch o gyfathrebu gwleidyddol neu yrfa mewn cyfathrebu gwleidyddol, yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn gweithio ym meysydd cyfathrebu gwleidyddol, pleidiau gwleidyddol, asiantaethau a chyrff y llywodraeth, sefydliadau statudol a gwirfoddol a'r cyfryngau torfol.

Mae hefyd yn addas ar gyfer pobl sydd am ymgymryd ag ymchwil PhD mewn cyfathrebu gwleidyddol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Academic requirements

Typically, you will need to have either:

  • a 2:2 honours degree, or an equivalent international degree
  • a university-recognised equivalent academic qualification
  • or relevant professional experience evidenced by a reference.

English language requirements

IELTS with an overall score of 7.5 with 6.5 in all subskills, or an accepted equivalent.

Other essential requirements

You will also need to provide two references, at least one of which should be academic.

Application Deadline

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.

Selection process

We will review your application and if you meet all of the entry requirements, we will make you an offer.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs Meistr amser llawn sy’n para blwyddyn, ac mae'n cyfuno modiwlau craidd a dewisol.

Drwy gydol semester yr hydref a semester y gwanwyn, bydd hyfforddiant dull cadarn yn cael ei ddarparu er mwyn gwella eich sgiliau ymchwil a fydd yn cael eu hasesu yn eich traethawd Meistr.

Fel rhan o fodiwl craidd yr hydref, cewch eich cyflwyno i'r arfer o gyfathrebu gwleidyddol drwy roi'r proffesiwn yn ei gyd-destunau cymdeithasol a chyfryngau. Mae'r pwyslais deuol ar faterion ymarferol a'u theori a'u moeseg sylfaenol wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddod i werthfawrogi sut mae ymarferwyr cyfathrebu gwleidyddol yn rhyngweithio â'r cyfryngau a'r gymuned ehangach, a sut maen nhw wedi dod yn ffactor pwysig wrth lunio digwyddiadau’r byd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd a seminarau, sy'n ategu natur academaidd y cwrs.

Sut y caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o asesiadau ffurfiannol a chrynodol i’ch asesu drwy gydol y cwrs. Gwaith cwrs yw’r prif ddull o asesu ar y rhaglen hon.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu gwleidyddol, a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer astudio'r ddisgyblaeth yn academaidd, yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' mwy generig.

Gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, bydd y rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos sut rydych chi’n defnyddio’r cysyniadau a'r derminoleg a ddefnyddir ym maes ysgolheictod cyfathrebu gwleidyddol i nodi, gwerthuso a dehongli materion sy'n ymwneud â theori ac ymarfer y ddisgyblaeth.

Wrth wneud hynny, bydd y sgiliau y byddwch yn eu hymarfer ac yn eu datblygu yn cynnwys:

  • cyflwyno syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol
  • trefnu a strwythuro dadleuon i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfathrebu gwleidyddol.

Gall y sgiliau cyflogadwyedd sy'n cael eu hogi ar y rhaglen hon gael eu trosglwyddo i ymarfer, gan ddatblygu cyfathrebu gwleidyddol mewn ystod eang o gyd-destunau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Cyflogir graddedigion y cwrs hwn mewn ystod o alwedigaethau, megis swyddogion ymgyrchu a'r wasg, ymchwilwyr ar gyfer pleidiau a sefydliadau gwleidyddol, arweinwyr rheoli busnes, ymgynghorwyr gwleidyddol, cydlynwyr cynadleddau a seminarau rhyngwladol a swyddogion cysylltiadau cyhoeddus.

Mae nifer o raddedigion hefyd wedi ymgymryd â PhD mewn Cyfathrebu Gwleidyddol.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication, Politics, Public relations


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.