Ewch i’r prif gynnwys

Cyfryngau Digidol a Chymdeithas (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd

Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn edrych ar rôl y cyfryngau digidol newydd wrth lunio a gweddnewid cymdeithas. Mae'n ymchwilio i sut mae cynulleidfaoedd y cyfryngau yn dod yn gynhyrchwyr, sut mae newyddiaduraeth dinasyddion a diwylliant digidol wedi newid arferion a disgwyliadau, sut mae’r cyfryngau cymdeithasol a chynyrchiadau gan gyfoedion yn effeithio ar wleidyddiaeth a busnes, a sut mae technoleg yn gysylltiedig â grym a newid cymdeithasol.

tick

Archwiliwch y gymdeithas ddigidol

Byddwch yn ymchwilio i wleidyddiaeth ar-lein a rheoleiddio’r rhyngrwyd, diwylliant digidol a’r economi ddigidol, troi ffeithiau cymdeithasol yn ddata meintiol a hawliau digidol.

academic-school

Ymchwil weithredol

Byddwch yn datblygu eich prosiect ymchwil eich hun ar y cyd ag ymchwilwyr adnabyddus o'n Grŵp Cyfryngau Digidol a’r Gymdeithas a'n Labordy Cyfiawnder Data.

location

Y Sgwâr Canolog, Caerdydd

Byddwch yn astudio yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.

star

Rhagoriaeth ymchwil

Byddwch yn astudio yn un o brif ysgolion y DU ar gyfer ymchwil ar astudiaethau'r cyfryngau, sef yr 2il orau yn y DU yn ôl y Llywodraeth.

Mae’r platfformau cyfathrebu digidol newydd sydd wedi dod i’r amlwg wedi cael effaith sylweddol. Mae cynulleidfaoedd yn trawsnewid yn gynhyrchwyr cyfryngau; mae modelau busnes newydd yn dod i'r amlwg; mae ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol yn creu mathau newydd o wleidyddiaeth; mae diwylliant digidol yn amlygu arferion rhannu a chymryd rhan; ac mae casglu data a dadansoddeg yn effeithio ar ran gynyddol o'n bywydau.

Mae hyn yn cynnig posibiliadau newydd i ddinasyddion digidol, ond mae hefyd yn arwain at gwestiynau newydd ynghylch syniadau clasurol am breifatrwydd a rhyddid mynegiant, ac mae'n gwneud gwybodaeth a seilwaith digidol yn adnodd allweddol.

Mae MA Cyfryngau Digidol a Chymdeithas yn mynd i'r afael â heriau cyfredol cyfathrebu ar-lein ac astudiaethau rhyngrwyd. Mae'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn meysydd fel cyfryngau cymdeithasol, data mawr, newyddiaduraeth dinasyddion, diwylliant digidol, y diwydiannau creadigol, llywodraethu'r rhyngrwyd, a hawliau digidol. Mae hefyd yn cynnig sail ddamcaniaethol a methodolegol ym maes astudiaethau’r cyfryngau a chyfathrebu.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o'r trawsnewidiadau presennol a'r sgiliau dadansoddi i ymchwilio i gyfryngau digidol yng nghyd-destun newid cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Rydyn ni’n gofyn sut caiff cyfathrebu ar-lein ei lunio gan ddefnyddwyr, gwladwriaethau a busnesau, a sut mae cyfryngau digidol yn effeithio ar ein cymdeithas oherwydd hynny.

Mae'r cwrs hwn yn defnyddio cryfder ac amrywiaeth staff Prifysgol Caerdydd, gan roi cyfle unigryw i chi weithio gydag academyddion y mae eu hymchwil yn archwilio materion fel newyddiaduraeth dinasyddion, gweithredu ar-lein, data mawr, gwyliadwriaeth ar y rhyngrwyd, llywodraethu'r rhyngrwyd a hawliau digidol.

Gallwch gymryd rhan yn ein Grŵp Ymchwil Cyfryngau Digidol a Chymdeithas a dod yn rhan o amgylchedd ymchwil deinamig.

Sylwch fod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ymchwil academaidd ac nid yw'n darparu hyfforddiant ymarferol. 

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Academic requirements

Typically you will need to have either:

  • a 2:2 honours degree in any subject
  • a university-recognised equivalent academic qualification 
  • or relevant professional experience evidenced by references and/or professional qualifications.

English language requirements

IELTS with an overall score of 7.0 with 6.0 in all subskills, or an accepted equivalent. 

Other essential requirements

You will also need to provide:

  • one academic reference

Application deadline 

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. 

Selection process 

We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para blwyddyn, ac mae'n cyfuno modiwlau craidd a dewisol. Dros gyfnod y cwrs byddwch yn astudio modiwlau sy'n dod i gyfanswm o 180 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd a seminarau, sy'n ategu natur academaidd y cwrs.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod eang o asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy gydol y cwrs. Gwaith cwrs yw’r prif ddull o asesu ar y rhaglen hon.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol. Mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o astudiaethau'r cyfryngau a chyfathrebu, a thueddiadau presennol cyfryngau ar-lein a digidol yn benodol, byddwch yn ennill sgiliau ymchwil sy'n berthnasol ar gyfer astudio academaidd a phroffesiynau eraill.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau dadansoddi disgwrs a chynnwys
  • dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol
  • cyfweliadau a grwpiau ffocws
  • offer dadansoddi a digidol perthnasol.

Byddwch yn datblygu cymhwysedd i ymgymryd â gwaith dadansoddi trylwyr, gan gynhyrchu traethodau yr ymchwiliwyd iddyn nhw’n drylwyr, yn unol â’r dyddiad cwblhau, ac ymgymryd â dadleuon cyfoes allweddol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Cyflogir graddedigion MA Cyfryngau Digidol a Chymdeithas mewn amrywiaeth o alwedigaethau, gan gynnwys y sector di-elw, busnes digidol, newyddiaduraeth ar-lein, a sefydliadau rheoleiddio. Maent yn ymgymryd â rolau arweiniol mewn ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, polisïau rhyngrwyd, sefydliadau hawliau dynol, newyddiaduraeth a diwydiannau creadigol.

Fel cwrs academaidd sy'n canolbwyntio ar ddadansoddiad beirniadol, mae'r rhaglen hon hefyd yn fan cychwyn perffaith ar gyfer ymchwil PhD ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn sefydliadau ymchwil, yn y brifysgol a sefydliadau cyhoeddus neu breifat eraill.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Newyddiaduraeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.