Newyddiaduraeth Newyddion (MA)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa fel newyddiadurwr newyddion, boed hynny ar lefel hyperleol, ranbarthol neu genedlaethol.
Rhagolygon gwaith rhagorol
Rydyn ni'n addysgu sgiliau ymarferol er mwyn eich gwneud yn newyddiadurwr gwell sy'n rhagori ym maes cyfryngau newyddion, ac mae ein hanes o sicrhau cyflogaeth yn dyst i hyn.
Cwrs sy’n rhagori
Ni yw cwrs ôl-raddedig gorau’r NCTJ o ran perfformiad ar gyfer 2019 a 2020, ac mae hyn yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i'r safonau uchaf ym maes hyfforddiant newyddiaduraeth.
Mynnwch gael eich achredu
Rydym wedi'n hachredu gan y Cyngor Cenedlaethol dros Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ) - bydd y cwrs yn rhoi cymhwyster proffesiynol ichi.
Lleoliadau gwaith ym myd diwydiant
Mae rhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar waith yn meithrin eich hunanhyder, yn eich paratoi ar gyfer eich swydd gyntaf ac yn datblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau.
Ymunwch â byd y wasg
Mae ein hadeilad yng nghanol ein dinas yn golygu y byddwch drws nesaf i gwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol Caerdydd megis y BBC a Wales Online.
Peidiwch byth â methu cyfweliad
Byddwch yn gysylltiedig â'r ddinas gyfan gan fod prif orsaf drenau Caerdydd Canol Caerdydd gwta 100 metr i ffwrdd.
Mae ein MA mewn Newyddiaduraeth Newyddion, sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ), yn rhoi cyfle i chi ddysgu hanfodion sut i ddod o hyd i, cynhyrchu a chyhoeddi stori gan ddefnyddio'r offer mwyaf effeithiol a pherthnasol sydd ar gael.
Mae'n gwrs dwys blwyddyn o hyd lle byddwch yn cael eich addysgu sut i:
- Ysgrifennu newyddion a darnau nodwedd
- Creu pecynnau amlgyfrwng
- Straeon ymchwil
- Meithrin cysylltiadau, a
- Gweithio mewn ardal newyddion a ddyrennir i chi:
Yn ogystal â sgiliau adrodd ysgrifenedig, byddwch yn dysgu sut i gymryd lluniau llonydd a ffilmio fideos byr ar ffôn symudol a chreu ffeithluniau data sy'n addas i'w lanlwytho i'n safle newyddion sydd ar gael i’r cyhoedd, sef The Cardiffian. Byddwch hefyd yn dysgu sut i hyrwyddo'r straeon hynny gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn treulio amser y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn rhoi eich sgiliau ar waith, gan gyflawni briffiau realistig sy'n gofyn i chi roi cynnwys at ei gilydd i adlewyrchu amrywiaeth o straeon ar gyfer cyfryngau ar-lein a chyfryngau wedi’u hargraffu. Gall gwaith ymarferol hefyd gynnwys ymdrin â chynadleddau i'r wasg, cyfarfodydd cyhoeddus, llysoedd, cynghorau, gwleidyddiaeth, digwyddiadau chwaraeon, ac adloniant.
Nid ydym yn chwilio am newyddiadurwyr parod, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb brwd mewn newyddion a dangos eich ymrwymiad i yrfa mewn newyddiaduraeth drwy brofiad gwaith neu leoliadau blaenorol, boed â thâl neu'n ddi-dâl. Disgwyliwn i chi ymgysylltu â'r hyn sy'n digwydd yn y byd; os ydych chi'n gwylio ac yn gwrando ar raglenni newyddion teledu a radio yn rheolaidd, mae hynny'n ddechrau da.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu'n broffesiynol gan NCTJ ac mae'n paratoi myfyrwyr i weithio yng nghyfryngau newyddion y DU, er enghraifft drwy ymdrin â gwleidyddiaeth y DU a chyfreithiau Cymru a Lloegr. Mae croeso i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n bodloni'r meini prawf mynediad ac sydd ag uchelgeisiau gyrfaol i weithio yn y DU wneud cais, ond efallai y byddai'n well gan y rheiny sydd ag uchelgeisiau newyddiaduraeth ehangach ein rhaglen MA Newyddiaduraeth Ryngwladol.
Yn ystod y cwrs, bydd disgwyl i chi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o brofiad gwaith, o fewn cyfyngiadau Covid.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant
Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.
Meini prawf derbyn
Gofynion academaidd
Fel arfer, mewn unrhyw bwnc, bydd angen i chi gael naill ai:
- gradd anrhydedd 2:2, neu radd ryngwladol gyfatebol
- cymhwyster academaidd cyfatebol a gydnabyddir gan brifysgol
- neu brofiad proffesiynol perthnasol y mae geirda yn ei ddangos.
Gofynion Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.5 gyda 7.5 ym mhob is-sgil, neu brawf cyfatebol cydnabyddedig.
Gofynion hanfodol eraill
Bydd angen i chi hefyd ddarparu:
- datganiad personol heb fod yn fwy na 400 gair i gefnogi'ch cais. Asesir eich datganiad personol ar y tri chwestiwn a ganlyn:Pam ydych chi eisiau gwneud cais am y cwrs hwn ym Mhrifysgol Caerdydd? (150 o eiriau)
- Pa brofiad newyddiaduraeth neu brofiad yn y cyfryngau sydd gennych? (150 o eiriau)
- Gall hyn gynnwys profiad o weithio yn y cyfryngau i fyfyrwyr, yn wirfoddol, neu ar leoliad. Does dim rhaid iddo fod yn brofiad gwaith cyflogedig.
- Beth yw eich dyheadau ar gyfer eich gyrfa? (100 o eiriau)
- Pa brofiad newyddiaduraeth neu brofiad yn y cyfryngau sydd gennych? (150 o eiriau)
- manylion cyswllt canolwr y gellir cysylltu ag ef i wirio unrhyw wybodaeth rydych wedi'i darparu.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Trefnir cyfweliadau rhwng Ionawr a Mehefin.
Y broses ddethol
Os ydych yn bodloni'r meini prawf mynediad ac yn pasio'r broses sgrinio, cewch eich gwahodd i gam nesaf y broses ddethol. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau ac ymarferion un i un neu grŵp bach i asesu eich sgiliau sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth, ac i yrfaoedd mewn newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Gall hyn gynnwys sgiliau ysgrifennu, sgiliau darlledu (h.y. profion llais), eich dealltwriaeth o'r ddisgyblaeth a'ch gallu i bennu blaenoriaethau newyddion.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn treulio naw mis dwys yn dysgu hanfodion y busnes - sut i ysgrifennu, adrodd a chyfweld ar gyfer papurau newydd a sianeli ar-lein, y sgiliau technegol a chynhyrchu sydd eu hangen i gyflwyno straeon yn effeithiol ac, yn bwysig, yr agweddau, y reddf am newyddion, y farn a’r ddisgyblaeth y mae'r proffesiwn yn gofyn amdanyn nhw.
Ar ôl ychydig wythnosau, byddwch yn dysgu'r rhan fwyaf o hyn, nid mewn ystafell ddosbarth, ond drwy gyflawni briffiau realistig sy'n gofyn i chi ysgrifennu amrywiaeth o straeon ar ôl dod o hyd iddyn nhw ac ymchwilio iddyn nhw, a hynny ar gyfer platfform ar-lein ac, yn ddiweddarach, mewn print hefyd. Disgwylir i chi ddod o hyd i straeon ar eich pen eich hun gan ddefnyddio cysylltiadau rydych chi'n eu datblygu yn ystod y cwrs. Mae gwaith ymarferol hefyd yn cynnwys ymdrin â chynadleddau i'r wasg, cyfarfodydd cyhoeddus, llysoedd, cynghorau, gwleidyddiaeth, digwyddiadau chwaraeon, ac adloniant.
Yn ogystal, byddwch hefyd yn dewis un o chwe phwnc newyddiaduraeth dewisol arbenigol i'w astudio cyn symud ymlaen ar ôl naw mis i'r cam traethawd hir.
Strwythur y Cwrs
Mae’r addysgu’n digwydd drwy raglen o ddarlithoedd ac ymarferion. Asesir gwaith cwrs drwy arholiad ysgrifenedig ac asesiad parhaus. Mae Newyddiaduraeth Newyddion yn cynnwys ymlyniad ym mis Ebrill gyda chwmni newyddion lleol/cenedlaethol am dair wythnos fel arfer.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Major Project | MCT561 | 30 credydau |
Public Administration | MCT508 | 10 credydau |
Reporters and the Reported | MCT509 | 10 credydau |
News Reporting and Production | MCT549 | 40 credydau |
Media Law and Ethics | MCT553 | 20 credydau |
Data Journalism | MCT559 | 10 credydau |
Professional Development | MCT560 | 10 credydau |
News Journalism | MCT600 | 40 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Lifestyle and Consumer Journalism | MCT556 | 10 credydau |
Political Reporting | MCT557 | 10 credydau |
Sports Journalism | MCT558 | 10 credydau |
Investigative Journalism | MCT570 | 10 credydau |
Environmental and Scientific Journalism | MCT597 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol a diwrnodau cynhyrchu sy'n efelychu amgylchedd y diwydiant yn ogystal â chyfres o ddarlithoedd i gefnogi elfennau mwy academaidd y cwrs.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod eang o asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy gydol y cwrs. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth i draethodau ac arholiadau academaidd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.
Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.
Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.
Adborth
Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- gwneud nodiadau llaw-fer, hyd at 100 gair y funud
- llunio naratif
- bod yn fanwl gywir o ran gramadeg a llunio brawddegau
- deall cyfryngau cymdeithasol
- ffilmio a golygu fideos ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
Byddwch hefyd yn gallu deall datblygiadau newyddion a materion cyfoes.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £21,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae ystod o yrfaoedd ar gael i'r rhai sy'n llwyddo ar y cwrs hwn gan gynnwys adrodd ar gyfer darparwyr ar-lein, o’r BBC i fusnesau newydd lleol, a sefydliadau newyddion amrywiol gyda gweithrediadau print ac ar-lein ym Mhrydain a thramor.
Mae graddedigion gan amlaf yn gweithio i sefydliadau lleol a chenedlaethol, gwefannau newyddion, blogiau, asiantaethau newyddion ac asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus.
Lleoliadau
Mae angen lleoliadau fel rhan o'r modiwl Datblygiad Proffesiynol ac er mwyn Achredu’r Rhaglen drwy NCTJ.
Cynhelir lleoliadau yn ystod cyfnod Gwyliau’r Pasg.
Bydd pob lleoliad yn cael ei gydlynu mewn cysylltiad â chyfarwyddwyr y cwrs cyn y gwyliau.
Arian
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Media
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.