Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth Cylchgronau (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Magazine Journalism (MA) students Nikita Achanta and Megan Gaen reveal what happened during a very busy year at Cardiff University.

Mae ein cwrs Newyddiaduraeth Cylchgrawn dwys yn eich paratoi am eich swydd gyntaf mewn cyfryngau cylchgrawn. P’un a yw wedi’i argraffu, ar-lein, yn ddigidol, apiau neu’n gyfryngau cymdeithasol - byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r llwyfannau amlgyfrwng mae cylchgronau modern yn eu defnyddio.

rosette

Mynnwch gael eich achredu

Mae cwrs achrededig yn sicrhau bod eich CV yn rhagori - rydym wedi ein hachredu gan Gymdeithas y Cyhoeddwyr Proffesiynol (PPA).

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Mae rhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar waith yn meithrin eich hunanhyder, yn eich paratoi ar gyfer eich swydd gyntaf ac yn datblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau.

mobile-message

Y tueddiadau diweddaraf un

Mae darlithoedd gwadd gan awduron, dylunwyr a golygyddion profiadol yn sicrhau eich bod yn cael gwybod yn uniongyrchol am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.

building

Ymunwch â byd y wasg

Mae ein hadeilad yng nghanol ein dinas yn golygu y byddwch drws nesaf i gwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol Caerdydd megis y BBC a Wales Online.

location

Peidiwch byth â methu cyfweliad

Byddwch yn gysylltiedig â'r ddinas gyfan gan fod prif orsaf drenau Caerdydd Canol Caerdydd gwta 100 metr i ffwrdd.

star

Ysgol Newyddiaduraeth gyntaf y DU

Mae cael eich hyfforddi #CardiffTrained yn golygu y byddwch yn perthyn i un o’r ysgolion newyddiaduraeth uchaf eu parch yn y DU sydd â rhestr hynod enwog o gyn-fyfyrwyr.

Mae'r MA mewn Newyddiaduraeth Cylchgrawn yn gwrs dwys, ymarferol blwyddyn o hyd ac mae wedi'i achredu gan y Gymdeithas Cyhoeddwyr Proffesiynol (CPA).

Mae'r cwrs yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi ddefnyddio'r holl lwyfannau amlgyfrwng y mae brand cylchgrawn modern yn eu defnyddio, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu cynnwys print, ar-lein, symudol a chyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu newyddion, cyfweliadau, darnau nodwedd a chynhyrchu'r cynnwys hwn yn effeithiol ar draws gwahanol lwyfannau cynnwys. Byddwch hefyd yn cael eich hyfforddi mewn prosesau golygu allweddol a'r sgiliau digidol diweddaraf, gan gynhyrchu ffotograffiaeth, sain, cynnwys fideo a phodlediadau yn ogystal â chynlluniau tudalennau.

Mae'r holl sgiliau yn eich paratoi ar gyfer swydd lefel mynediad mewn newyddiaduraeth cylchgrawn neu weithio ar eich liwt eich hun. Rydym yn cynnig profiadau dysgu realistig sy'n adlewyrchu'r rheiny y byddwch yn eu wynebu yn eich gyrfa, gan gynnwys y cyfle i gyflwyno'ch gwaith yn glir ac yn hyderus a chynhyrchu cylchgrawn cyflawn. Nid ydym yn chwilio am newyddiadurwyr parod, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb mewn materion cyfoes a'r diwydiant cylchgronau. Rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth o ymrwymiad i yrfa mewn newyddiaduraeth drwy brofiad gwaith perthnasol blaenorol, boed â thâl neu'n ddi-dâl.

Mae'r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr i weithio yng nghyfryngau'r DU. Mae croeso i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n bodloni'r meini prawf mynediad ac sydd ag uchelgeisiau gyrfaol i weithio yn y DU wneud cais, ond efallai y byddai'n well gan y rheiny sydd ag uchelgeisiau newyddiaduraeth ehangach ein rhaglen MA Newyddiaduraeth Ryngwladol.   

Achrediadau

Magazine Journalism is accredited by the Professional Publishers Association (PPA)

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Gofynion academaidd

Fel arfer, mewn unrhyw bwnc, bydd angen i chi gael naill ai:

  • gradd anrhydedd 2:2, neu radd ryngwladol gyfatebol
  • cymhwyster academaidd cyfatebol a gydnabyddir gan brifysgol
  • neu brofiad proffesiynol perthnasol y mae geirda yn ei ddangos.

Gofynion Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.5 gyda 7.5 ym mhob is-sgil, neu brawf cyfatebol cydnabyddedig.

Gofynion hanfodol eraill

Bydd angen i chi hefyd ddarparu:

  • datganiad personol heb fod yn fwy na 400 gair i gefnogi'ch cais. Asesir eich datganiad personol ar y tri chwestiwn a ganlyn:Pam ydych chi eisiau gwneud cais am y cwrs hwn ym Mhrifysgol Caerdydd? (150 o eiriau)
    • Pa brofiad newyddiaduraeth neu brofiad yn y cyfryngau sydd gennych? (150 o eiriau)
      • Gall hyn gynnwys profiad o weithio yn y cyfryngau i fyfyrwyr, yn wirfoddol, neu ar leoliad. Does dim rhaid iddo fod yn brofiad gwaith cyflogedig.
    • Beth yw eich dyheadau ar gyfer eich gyrfa? (100 o eiriau)
  • manylion cyswllt canolwr y gellir cysylltu ag ef i wirio unrhyw wybodaeth rydych wedi'i darparu.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Cynhelir cyfweliadau ym mis Ionawr bob blwyddyn, er y byddwn yn parhau i edrych ar geisiadau tan fis Medi.

Y broses ddethol

Os ydych yn bodloni'r meini prawf mynediad ac yn pasio'r broses sgrinio, cewch eich gwahodd i gam nesaf y broses ddethol. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau ac ymarferion un i un neu grŵp bach i asesu eich sgiliau sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth, ac i yrfaoedd mewn newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Gall hyn gynnwys sgiliau ysgrifennu, sgiliau darlledu (h.y. profion llais), eich dealltwriaeth o'r ddisgyblaeth a'ch gallu i bennu blaenoriaethau newyddion.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs blwyddyn ac mae’n cynnwys:

  • Ysgrifennu ysgrifau nodwedd a newyddion mewn print ac ar-lein
  • Technegau cyfweld
  • Cyfryngau trawsblatfform ac amlgyfrwng
  • Dylunio a gosod
  • Is-olygu a chynhyrchu
  • Datblygu brand cylchgronau
  • Sut i fod yn weithiwr llawrydd llwyddiannus

Bydd sgiliau newyddiaduraeth cylchgronau yn cael eu hennill drwy gyfres o ddarlithoedd, gweithdai, gwaith ymarferol a sesiynau adborth sy’n dod yn fwyfwy cymhleth a real - o 'ymarferion papur' yn y dyddiau cynnar i ysgrifau nodwedd cymhleth sy'n adrodd ar ddigwyddiadau go iawn. Ategir y sesiynau hyn gan seminarau, trafodaethau grŵp a gwesteion o'r diwydiant cylchgronau.

Caiff sgiliau ysgrifennu, adrodd a thechnegol sylfaenol ar gyfer deunyddiau print a digidol eu haddysgu yn y semester cyntaf gyda gwybodaeth gefndirol am Gyfraith y Cyfryngau a Moeseg Newyddiaduraeth. Mae llaw-fer hefyd ar gael fel dewis.

Mae'r ail semester yn cynnig mwy o ymarfer creadigol lle byddwch yn cynllunio, yn creu ac yn lansio brand cylchgrawn newydd sbon ar draws platfformau print a digidol, gan gynhyrchu tri rhifyn gyda dyddiad cwblhau bob pythefnos.

Yn ystod gwyliau'r Pasg byddwch yn profi eich sgiliau yn y byd go iawn mewn lleoliad (neu leoliadau) gwaith am o leiaf bythefnos'.

Mae modiwl craidd y Prosiect Mawr yn rhoi cyfle i chi ymgymryd â’r canlynol:

  • Prosiect Ysgrifau Nodwedd lle byddwch yn defnyddio technegau newyddiaduraeth ymchwiliol a sgiliau ymchwil y gwnaethoch eu hennill yn ystod elfen a addysgir y cwrs i archwilio pwnc yn fanwl drwy ysgrifennu erthyglau nodwedd ffurf hir, neu
  • Prosiect Menter lle byddwch yn datblygu'r cynllun golygyddol a busnes ar gyfer cynnyrch cyfryngau arloesol mewn print neu’n ddigidol/ar-lein yn unig.

Byddwch hefyd yn creu cylchgrawn newydd sbon mewn grwpiau. Byddwch yn dechrau o'r dechrau ac yn gwneud y canlynol:

  • Ymchwilio i'r farchnad
  • Datblygu dyluniad effeithiol
  • Cynllunio ac ysgrifennu cynnwys golygyddol
  • Creu a gweithredu polisi digidol a chyfryngau cymdeithasol cynhwysfawr
  • Cynhyrchu tri rhifyn o’r cylchgrawn

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Public AdministrationMCT50810 credydau
Reporters and the ReportedMCT50910 credydau
Magazine JournalismMCT51340 credydau
Magazine Journalism: Production SkillsMCT52020 credydau
Magazine Journalism: Reporting and WritingMCT52120 credydau
Media Law and EthicsMCT55320 credydau
Data JournalismMCT55910 credydau
Professional DevelopmentMCT56010 credydau
Major ProjectMCT56130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Lifestyle and Consumer JournalismMCT55610 credydau
Political ReportingMCT55710 credydau
Sports JournalismMCT55810 credydau
Investigative JournalismMCT57010 credydau
Environmental and Scientific JournalismMCT59710 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol, seminarau a darlithoedd yn ogystal â diwrnodau cynhyrchu sy'n atgynhyrchu amgylchedd y diwydiant.

Bydd gofyn i chi ddod o hyd i straeon ac ymchwilio iddyn nhw yn yr ardal leol a’r cyffiniau, gan gyfweld â ffynonellau drwy gymysgedd o ddulliau a chynhyrchu cynnwys amlgyfrwng gwreiddiol a ffotograffau.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod eang o asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy gydol y cwrs. Mae'r rhain yn amrywio o weithgareddau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, erthyglau a phecynnau newyddiadurol amrywiol, profion dosbarth ac arholiadau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Bydd myfyrwyr sy’n graddio wedi dangos eu bod wedi cyflawni'r deilliannau canlynol:

Ysgrifennu newyddion, adrodd a chyfweld

  • Y gynulleidfa, greddf am newyddion, ysgrifennu ar gyfer cyd-destun penodol, cywirdeb, cydbwysedd, pwysigrwydd y cyflwyniad, eglurder ac uniongyrchedd
  • Adnoddau newyddion, gan weithio mewn maes arbenigol
  • Mathau o gyfweliadau, technegau cyfweld
  • Defnyddio recordwyr sain ac archifo nodiadau
  • Llunio cynnwys wythnosol ar gyfer gwefan yn unol ag arddull ac erbyn dyddiadau cwblhau penodol
  • Sgiliau llaw-fer i'r rhai sy'n dewis cymryd dosbarthiadau llaw-fer (argymhellir hyn yn fawr)

Ysgrifennu ysgrifau nodwedd

  • Y fformatau niferus o ran ysgrifau nodwedd, dod o hyd i'r fformat cywir ar gyfer stori, dod o hyd i'r fformat cywir ar gyfer platfform
  • Canfod y cywair iawn, gan ddatblygu repertoire o arddulliau
  • Erthyglau dilyniant, cyfarwyddiadau, darnau am deithio a gweithredu
  • Casglu darn at ei gilydd gyda lluniau a deunyddiau amlgyfrwng, graffeg a chynllun mewn print ac ar-lein
  • Sut i gyflwyno syniadau i olygyddion, gweithio fel gweithiwr llawrydd

Cynhyrchu

  • Sgiliau defnyddio dau blatfform gan ddefnyddio Apple Macs a dyfeisiau digidol
  • Pecynnau meddalwedd, dysgu defnyddio Adobe InDesign, Photoshop, Premiere Elements, iMovie yn ogystal â Systemau Rheoli Cynnwys ac apiau digidol
  • Mynd ar drywydd cywirdeb, gwirio ffeithiau, is-olygu, cynhyrchu tudalennau a phrawfddarllen.
  • Datblygu ymwybyddiaeth weledol ar gyfer cyhoeddiadau print ac ar-lein
  • Dysgu llunio tudalen effeithiol, penawdau, capsiynau
  • Gosod ysgrifau nodwedd estynedig
  • Canfod y fformat cywir ar gyfer fersiynau print ac ar-lein o ysgrif nodwedd
  • Creu, datblygu a chynhyrchu cylchgrawn newydd
  • Gweithio mewn timau tuag at nod cyffredin. Arwain tîm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

  • Disgrifio egwyddorion, theori, athroniaeth, moeseg, cyfraith ac ymarfer newyddiaduraeth, yn enwedig newyddiaduraeth cylchgronau
  • Defnyddio greddf broffesiynol am newyddion a gallu ei defnyddio i greu darnau effeithiol o newyddiaduraeth cylchgrawn
  • Addasu’r reddf hon am newyddion i anghenion gwahanol gynulleidfaoedd ac amcanion golygyddol
  • Dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o wreiddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol y sgil proffesiynol hwn
  • Dangos cymhwysedd wrth ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd perthnasol
  • Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol sy'n gyfredol yn y diwydiant

Sgiliau Deallusol

  • Sensitifrwydd i'r dadleuon o fewn y diwydiant a chymdeithas am bwysigrwydd, swyddogaethau a phosibiliadau newyddiaduraeth cylchgronau print ac ar-lein yn y dyfodol mewn democratiaeth yn yr 21ain ganrif
  • Ymwybyddiaeth o rôl y newyddiadurwr cylchgronau ar draws yr ystod lawn o gylchgronau, print ac ar-lein, o'r cylchgrawn nid-er-elw lleiaf i'r prif dai cyhoeddi cylchgronau cenedlaethol a rhyngwladol
  • Mynd ati i ddadansoddi’n feirniadol ddeunydd sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd, yn ôl y meini prawf uchod
  • Cyfleu gwybodaeth yn glir, yn effeithiol ac yn briodol ar gyfer amrywiaeth o ddarllenwyr cylchgronau
  • Cyflwyno straeon cymhleth yn effeithiol o ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a gwybodaeth gefndir, gan ddefnyddio technegau priodol
  • Datblygu syniad am ysgrif nodwedd, neu gylchgrawn print neu ar-lein cyflawn, meddwl yn ddeallusol am ei resymeg, rhagweld y cynnyrch terfynol a chyfleu'r syniad hwn yn effeithiol
  • Deall y sgiliau a'r technegau rheoli, gweinyddu a golygu sydd eu hangen i wireddu'r syniad ar ffurf print ac ar-lein

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £21,450 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae gan raddedigion yr MA mewn Newyddiaduraeth Cylchgronau ym Mhrifysgol Caerdydd hanes rhagorol o ran cael swyddi.

Mae swyddi lefel mynediad posibl mewn cyfryngau cylchgronau yn amrywio o gynorthwywyr golygyddol i olygyddion y we, rheolwyr cymunedol a chynhyrchwyr cynnwys, i is-olygyddion, awduron a hyd yn oed entrepreneuriaid sy'n dechrau eu busnesau eu hunain!

Rydym yn angerddol am y diwydiant ac yn cadw mewn cysylltiad â rhwydwaith ardderchog o gynfyfyrwyr. Ar be hynny, mae myfyrwyr wedi ennill sawl gwobr gyhoeddi am eu gwaith yn y gorffennol.

Ar ôl cwblhau gradd MA Newyddiaduraeth Cylchgrawn, gallwch symud i bron unrhyw ddiwydiant i gynhyrchu cylchgronau mewnol neu gyhoeddus neu gynnwys digidol. Mae'r diwydiannau nodweddiadol yn cynnwys: ffasiwn, crefft, bwyd, chwaraeon, ffilm, cerddoriaeth, gemau, newyddion, bywyd gwyllt, cyllid, busnes, hanes, teithio, teledu, iechyd ac enwogion.

Mae cyfleoedd gwaith posibl yn cynnwys: Cynorthwy-ydd golygyddol, Intern Golygyddol, Awdur Nodweddion, Gohebydd Llawrydd, Golygydd y We a'r Cyfryngau Cymdeithasol, Gohebydd Iau, Prif Is-olygydd, Cydlynydd Cynnwys Ar-lein a Chynorthwy-ydd Cynhyrchu.

Lleoliadau

Mae lleoliadau yn angenrheidiol fel rhan o'r modiwl Datblygiad Proffesiynol ac er mwyn Achredu’r Rhaglen drwy PPA. Cynhelir lleoliadau yn ystod cyfnod Gwyliau’r Pasg. Bydd gofyn i chi fynd ar leoliad(au) am o leiaf pythefnos, er bod croeso i chi wneud mwy.

Bydd pob lleoliad yn cael ei gydlynu mewn cysylltiad â chyfarwyddwyr y cwrs cyn y gwyliau. Byddwn yn edrych ar eich CV, eich portffolio a’ch llythyrau eglurhaol ac yn rhoi arweiniad i chi. Mae ein rhwydwaith ardderchog o gyn-fyfyrwyr a’r diwydiant yn aml yn cynnig cyfleoedd lleoliad na fyddech yn cael gafael arnyn nhw y tu allan i'r cwrs.

Bydd disgwyl i chi dalu am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r lleoliad(au), er bod rhai cwmnïau'n talu am gostau teithio neu fwyd.

Dyma rai o’r teitlau lle mae ein myfyrwyr wedi bod ar leoliadau gyda nhw;

  • British Airways High Life
  • Delicious
  • Delayed Gratification
  • Games Master
  • Gardener's World
  • Grazia
  • Guardian News
  • Mixmag
  • National Geographic Traveller
  • NME
  • PA Features
  • Perfect Wedding
  • People Management
  • Radio Times
  • Stuff
  • Sunday Times Weekend

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 6% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication, Law, Media


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.