Ewch i’r prif gynnwys

Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Gan adlewyrchu gwybodaeth, theori, ymarfer ac ymchwil gyfoes am y diwydiannau creadigol bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ymateb i heriau'r sector cyffrous hwn.

people

Rhwydweithio creadigol

Drwy ein partneriaeth gyda Caerdydd Creadigol cewch elwa ar rwydwaith busnesau creadigol a phroffesiynol mwyaf y ddinas.

star

Rhagoriaeth ymchwil

Byddwch yn astudio yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer ymchwil astudiaethau diwylliant, ac mae’r ysgol yn yr 2il safle yn y DU

location

Y Sgwâr Canolog, Caerdydd

Byddwch yn astudio yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.

structure

Lleoliad ym myd Diwydiant

Bydd y cyfle i gael lleoliad gwaith yn sector creadigol a bywiog Caerdydd yn rhoi sgiliau proffesiynol a phrofiad gwaith gwerthfawr ichi.

Mae'r rhaglen MA Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol, sydd wedi'i chefnogi gan yr ymchwil a'r ymarfer proffesiynol diweddaraf, yn cynnig cydbwysedd o theori ac astudiaeth broffesiynol.

Rydym yn darparu'r wybodaeth gysyniadol a'r sgiliau proffesiynol a fydd yn eich galluogi i nodi meysydd o gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg o fewn y diwydiannau creadigol. Byddwch yn datblygu i fod yn ymarferwr hyblyg a myfyriol, gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i addasu i ofynion newidiol y gweithle creadigol.

Byddwch yn edrych ar yr effaith mae cyd-destunau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gwahanol yn eu cael ar y ffordd mae'r diwydiannau hyn yn gweithredu, fel bod modd i chi feddwl yn feirniadol mewn sefyllfaoedd proffesiynol er mwyn gwella eich effeithiolrwydd yn eich gyrfa o ddewis.

  • Dysgu sut i reoli cynhyrchu ym maes y cyfryngau

Byddwch chi hefyd yn dysgu am ymarfer a theori creadigrwydd digidol a'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn rheoli'r cyfryngau digidol a chymdeithasol mewn cyd-destun creadigol yn ogystal ag edrych ar y ffyrdd arloesol y mae ymarferwyr creadigol yn cysylltu gyda'u cynulleidfaoedd, gan groesawu dulliau cyfryngau digidol, trochol a chymysg.

Yn ogystal â magu sgiliau ymarferol a phroffesiynol gwerthfawr a phrofiad gwaith yn y diwydiant, byddwch yn gwneud darn unigol o ymchwil. Bydd hwn yn werthusiad o gyflwr presennol eich maes o ddiddordeb dewisol ac hefyd yn gyfrwng ar gyfer datblygu eich sgiliau proffesiynol eich hun sy'n addas i'ch dyheadau o ran gyrfa yn y dyfodol.

  • Gweithio gyda'r sector creadigol

Rhan allweddol o'r MA Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol a'r hyn sy'n gwneud y rhaglen yn arbennig yw ei phwyslais ar gydweithio â diwydiant, sy'n cynnwys modiwl lleoliad gwaith proffesiynol. Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol â phartneriaid allanol o'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol ac yn gwneud defnydd o'n cartref yng nghanol Caerdydd.

Rydym yn cynnwys busnesau, sefydliadau ac ymarferwyr y diwydiannau creadigol sydd ar flaen y gad yn y maes mewn gweithdai, ymweliadau maes ac fel darlithwyr gwadd trwy gydol y rhaglen.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel disgyblaethau'r celfyddydau, dyniaethau neu wyddor gymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol 300 gair i amlinellu'r math o leoliad y byddech yn gobeithio ei sicrhau yn ystod eich astudiaethau. Dylai hyn gynnwys maes y diwydiannau diwylliannol a chreadigol, fel y'i diffinnir gan UNESCO a Diwydiannau Diwylliannol y DU, yr hoffech weithio ynddo ar gyfer eich lleoliad, a sut rydych chi'n teimlo y bydd hyn yn cefnogi eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol (i asesu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen a'ch dealltwriaeth ohoni), ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, a bod lleoedd ar gael o hyd, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn rhedeg am un flwyddyn academaidd, ac mae’n dechrau ym mis Medi.
Mae rhan gynnar y rhaglen yn darparu sylfaen ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn ar theori ac ymchwil i ddiwydiannau creadigol a diwylliannol drwy ystod o fodiwlau craidd a dewisol a addysgir. Yn dilyn y cam hwn a addysgir, byddwch yn dilyn modiwl Datblygiad Proffesiynol a Lleoliad. Gyda’i gilydd, mae pob modiwl yn werth 150 credyd

Ar yr amod eich bod yn llwyddo i gwblhau’r modiwl hwn, byddwch wedyn yn symud ymlaen i fodiwl y Prosiect Ymchwil Proffesiynol (30 credyd), a gyflwynir ddiwedd mis Awst ac y byddwch yn ei ddatblygu gyda chymorth eich goruchwyliwr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

You will study a number of core and optional modules as part of the programme that combine to give a comprehensive understanding of all aspects of the cultural and creative industries. You will gain practical industry experience via the Professional Development and Placement module during semester 2.  There will also be an opportunity to study a number of optional modules drawn from our suite of current Master’s level modules. The taught phase concludes in May/June and, subject to successful completion, you will progress to the Professional Research Project phase, through which you will develop and practice research skills relevant to your choice of subject. The Professional Research Project is submitted at the end of August. The Professional Research Project is designed to build on your placement experience and acts both as a critique of the current state of your chosen field of interest, and as a vehicle for the development of professional skills appropriate to your future career ambitions.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Cyflwynir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gymysgedd o weithdai, darlithoedd a seminarau neu diwtorialau sy'n ategu elfennau ymarferol ac academaidd y rhaglen. Er mwyn annog dysgu cydweithredol, cewch eich addysgu mewn darlithoedd wedi'u trefnu a sesiynau seminar/gweithdy ac mae digon o gyfleoedd ar gyfer tiwtorial un-i-un a chymorth arbenigol drwy gydol y rhaglen, gan staff academaidd a chan arbenigwyr y diwydiant.

Mewn darlithoedd, byddwch yn cael trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl. Bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau a myfyrio yn y sesiynau hyn. Mae gweithdai a seminarau yn rhoi cyfle i chi ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chryfhau eich dealltwriaeth o'r pwnc.

Yn ogystal â dosbarthiadau wedi'u hamserlennu, rydyn ni’n gwahodd busnesau, sefydliadau ac ymarferwyr y diwydiannau creadigol i gymryd rhan drwy gydol y rhaglen fel siaradwyr gwadd, i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol, uniongyrchol am ddadleuon a thueddiadau cyfredol ac i’ch galluogi i gysylltu'r wybodaeth a ddarperir mewn sesiynau dosbarth ag enghreifftiau o'r byd go iawn.

Er mwyn llwyddo i gwblhau'r rhaglen, bydd gofyn i chi weithio yn ystod a thu allan i sesiynau addysgu ffurfiol, a manteisio ar y cyfleusterau sy’n cael eu darparu.

Sut y caf fy asesu?

Mae’r dulliau asesu yn amrywio o un modiwl i’r llall. Ond, ar draws y rhaglen MA yn ei chyfanrwydd, gallwch ddisgwyl cymysgedd o waith cwrs, traethodau, gwaith portffolio, cyflwyniadau, prosiectau unigol a grŵp, a phrosiectau ymchwil.

Sut y caf fy nghefnogi?

mae adnoddau ar gael mewn llyfrgelloedd eraill ar draws y campws. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.

Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr

Mae gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ar gael i chi, a hynny heb fynegi barn, ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.

Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i chi os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, neu gyflwr meddygol hirdymor.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.

Canolfan y Graddedigion

Mae'r Ganolfan ar drydydd llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mhlas y Parc, ac mae'n gwasanaethu'r holl fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil ac a addysgir sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y gymuned ôl-raddedig.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

  • mynd ati’n feirniadol i drafod ac esbonio cysyniadau, fframweithiau a modelau damcaniaethol - yn rhai cyfoes a hanesyddol - sy'n sail i ysgolheictod ac ymchwil yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â natur ryngddisgyblaethol y maes hwn.
  • gwerthuso dadleuon a materion cyfoes sy'n ffurfio disgwrs am y diwydiannau creadigol; llunio polisïau diwylliannol; llafur a gwaith creadigol ac ymarfer creadigol, a sut a pham mae'r rhain yn esblygu mewn cyd-destun lleol a byd-eang.
  • arfarnu modelau sy’n dod i’r amlwg neu fodelau newydd o ymarfer creadigol, cynhyrchu creadigol a chymryd rhan, a'r ffyrdd y mae gwahanol gyd-destunau gwleidyddol, diwylliannol, economaidd a busnes yn dylanwadu ar y rhain.
  • gwahaniaethu rhwng arferion gweithio a phroffesiynol sy'n berthnasol i sectorau diwydiant creadigol penodol a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau o fewn y sectorau hyn.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • cymryd rhan mewn dadl feirniadol ynghylch yr egwyddorion, y theorïau, yr athroniaethau a’r arferion sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol.
  • mynd ati i werthuso’n feirniadol briodoldeb strategaethau, arferion, technegau a dulliau a ddefnyddir ar gyfer, gan ac o fewn y diwydiannau creadigol; ac o fewn eich ymchwil a’ch ymarfer eich hun.
  • defnyddio a chyfosod syniadau o ffynonellau gwybodaeth proffesiynol ac academaidd a chymhwyso'r rhain i lunio dealltwriaeth newydd a chymhellol.
  • dadansoddi a datrys problemau neu faterion cymhleth, delio â'r rhain yn systematig ac yn greadigol, a gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn.
  • ystyried a gwerthuso eu gwaith eu hunain mewn modd atblygol, gan gyfeirio at gonfensiynau, materion a dadleuon academaidd a/neu broffesiynol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Gallu dewis a defnyddio technegau, dulliau a ffyrdd priodol o gynhyrchu cipolygon gwreiddiol sy'n berthnasol i astudio ystod eang o faterion ymarferol a/neu ar sail theori yn y diwydiannau creadigol.
  • Gallu cynnal ymchwil ac ymchwiliad annibynnol ar gyfer traethodau, prosiectau neu gynyrchiadau creadigol sy'n cynnwys ymholiadau parhaus a beirniadol.
  • Gallu cymhwyso ystod o offer digidol ar lefel hyfedredd uchel i ddatblygu presenoldeb proffesiynol.
  • Gallu dewis a defnyddio fformatau a chyfryngau priodol i gyflwyno syniadau a chanfyddiadau i gynulleidfa.
  • Hyblygrwydd, creadigrwydd a gallu hunanfyfyrio wrth lunio, cynhyrchu a chyflwyno prosiectau ac allbynnau sy'n berthnasol i'r diwydiant gan ddefnyddio ystod o blatfformau.
  • Gwreiddioldeb ac ymreolaeth wrth fynd i'r afael ag ystod o wahanol broblemau a'u datrys.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • hyrwyddo mentergarwch a hunan-gyfeiriad a chymryd cyfrifoldeb personol am eu dysgu a'u datblygiad personol eu hunain, gan fabwysiadu dull hunanfyfyriol.
  • penderfynu ar gwmpas tasg/prosiect, a nodi, trefnu a rheoli'n briodol yr adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r dasg/prosiect yn brydlon gyda'r hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau sy'n newid.
  • dadansoddi sefyllfaoedd, datrys problemau a gwerthuso atebion (deall a dehongli cyfarwyddiadau, deall syniadau a chysyniadau newydd, cyflwyno atebion arloesol), gan ddangos barn feirniadol gadarn wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy.
  • cyflwyno gwaith gan fodloni hyd, fformat, briff a dyddiad cwblhau penodol, a chyfeirio'n briodol at ffynonellau a syniadau a defnyddio dull o ddatrys problemau, fel y bo'n briodol
  • trefnu, cyfosod a chyfleu syniadau neu ddadleuon mewn modd perswadiol ac effeithiol.
  • gweithio'n gynhyrchiol gydag eraill mewn grŵp neu dîm, gan ddangos gallu ar wahanol adegau i bennu nodau cyffredin; rheoli neu gydlynu tasg/prosiectau yn ôl yr angen; gwrando'n effeithiol; cael pobl eraill i gydweithrediad a thrafod.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn gwneud cymhwyster ôl-raddedig er mwyn gwella eu rhagolygon yn y farchnad swyddi. Dyma pam rydym wedi dylunio MA Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol er mwyn rhoi’r cyfle i chi ddilyn ystod eang o yrfaoedd mewn nifer o sectorau diwylliannol, creadigol neu rhai cysylltiedig.

Mae’n bosibl yr hoffech chi ystyried bod yn weithiwr llawrydd neu ddechrau eich busnes creadigol eich hun. Mae opsiynau eraill yn cynnwys gweithio o fewn busnesau bach a chanolig (SMEs) neu fel rhywun creadigol o fewn busnes nad yw’n greadigol. Efallai y byddwch yn penderfynu dilyn trywydd llunio polisi neu ddilyn llwybr gyrfa academaidd ac ymgymryd ag astudiaethau pellach.

Lleoliadau

Mae'r modiwl Datblygiad Proffesiynol a Lleoliad yn cynnig cyfle i chi fynd ar leoliad profiad gwaith sylweddol mewn busnes neu sefydliad diwylliannol neu greadigol fel rhan o'ch astudiaethau. Disgwylir i bob myfyriwr ar y rhaglen fynd ar leoliad.

Sylwch: byddwch yn chwilio am eich lleoliad eich hun ond bydd yr Ysgol yn eich cefnogi er mwyn i chi allu dod o hyd i leoliad addas a buddiol.

Byddwch yn cael o leiaf 70 awr (neu 10 diwrnod) o brofiad gwaith gyda busnes creadigol neu ddiwylliannol neu sefydliad partner. Mae modd mynd ar leoliad mewn gwahanol ffyrdd - diwrnod neu fwy ar draws nifer o wythnosau; diwrnod yr wythnos ac yna bloc wythnos, neu floc o bythefnos. Mae ein partneriaeth â Chaerdydd Creadigol a'r cysylltiadau rydyn ni wedi’u datblygu â’r diwydiant yn golygu ein bod mewn sefyllfa eithriadol i fyfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn lleoliadau. Os na allwch fynd ar leoliad gwaith, bydd cyfle i ymgymryd â phrosiect ar y campws.

Bydd y lleoliad yn ffurfio mynegiant gwerthfawr o'r hyn rydych wedi’i ddysgu a bydd yn eich helpu i nodi materion a/neu gwestiynau a fydd wedyn yn sail i'ch Prosiect Ymchwil Proffesiynol y byddwch yn ei wneud yn y semester olaf.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Media, Cultural studies


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.