Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Rydym yn eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf, gan gynnig modiwlau a chymorth i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio.

Roedd 94% o'n graddedigion meistr mewn cyflogaeth mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cymorth gyrfaol pwrpasol

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig,

Mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.

Byddwch yn cael:

  • apwyntiadau arweiniad gyrfaoedd
  • ystod o weithdai am CVs, ceisiadau, rhwydweithiau cymdeithasol (gan gynnwys LinkedIn), cyfweliadau a diwrnodau asesu.
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (o fewn meysydd sector megis addysu)
  • siaradwyr gwadd proffesiyn o ystod eang o sectorau (e.e. addysgu, plismona, llywodraethu)
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (e.e.llywodraeth, sector elusennol, plismona)
  • gweithgareddau menter
  • bwrdd swyddi yn cynnwys lleoedd gwag i raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith
  • gwybodaeth am y farchnad lafur.

Cefnogi ein cynfyfyrwyr

Nid yw'n cymorth gyrfaol yn gorffen ar ôl i chi raddio; mae yna nifer o fanteision ar gael ar gyfer ein graddedigion ni'n unig.

Mae cyngor gyrfaol i gynfyfyrwyr ar gael hyd at dwy flynedd ar ôl graddio, yn cynnig gwybodaeth am ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai a digwyddiadau yn ogystal â mynediad i wybodaeth gyrfaol, interniaethau a mwy.

Achrediad

Mae graddio gyda gradd meistr achrededig yn fantais sylweddol yn y farchnad swyddi. Rydym yn cynnig pedwar cwrs sydd wedi'u hachredu'n llawn.

Enw'r cwrsSefydliad achredu
Newyddiaduraeth Darlledu (MA)Broadcast Journalism Training Council  (BJTC)
Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang (MA)Chartered Institute of Public Relations (CIPR)
Newyddiaduraeth Cylchgronau (MA)Professional Publishers Association (PPA)
Newyddiaduraeth Newyddion (MA)National Council for the Training of Journalists (NCTJ)

Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.