Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwydiant

Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil sy'n ymwneud â materion cyfoes ar draws newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Un o brif gryfderau ein hamgylchedd ymchwil yw’r ddeialog rhwng staff ymchwil a’r rhai sy’n canolbwyntio ar ymarfer, sy’n ein helpu i sicrhau canlyniadau ymchwil dylanwadol o ran ymarfer a pholisi yn y byd ehangach.

Mae ein rhaglen PhD/MPhil cyffredinol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn rhoi sylwi i’r holl brosiectau rydyn ni’n eu goruchwylio mewn unrhyw faes newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol. Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau PhD neu MPhil sy’n dod o fewn un neu fwy o'n grwpiau ymchwil.

Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau ar gyfer prosiectau nad ydynt yn ffitio'n gyfan gwbl o fewn y paramedrau hyn.

Byddwch yn cael y cyfle i wneud nod annileadwy ar y byd academaidd, ac rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial, gyda chymorth ein goruchwylwyr ymchwil arbenigol a’r gefnogaeth bersonol, dechnegol ac academaidd a ddarperir gan ein staff profiadol.

Rydym yn darparu hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth, ac mae’r gymuned ôl-raddedig yn cyfrannu’n hanfodol at enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.

Nodweddion unigryw

  • Mae’r Ysgol yn un o ganolfannau gorau Prydain ar gyfer addysgu ac ymchwil
  • Mae gan ein staff enw da rhyngwladol mewn newyddiaduraeth ymarferol ac mewn ymchwil a chyhoeddiadau.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd, MPhil 2 flynedd
Hyd rhan-amser PhD 5-7 mlynedd, MPhil 2-3 blynedd
Derbyniadau Ionawr, Hydref

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr fynychu seminarau ymchwil wedi'u hamserlennu yn semester yr hydref a'r gwanwyn.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf (neu gyfatebol), neu fod wedi’u darogan i ennill gradd dosbarth cyntaf. Mewn achosion eithriadol, ystyrir myfyrwyr gyda 2.1. Bydd ymgeiswyr hefyd fel arfer wedi cwblhau gradd meistr.

Gofynion Iaith Saesneg

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos hyfedredd yn Saesneg (IELTS 7.5 gydag o leiaf 7.0 ym mhob is-sgôr).

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Cefnogi Myfyrwyr

Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig