Ewch i’r prif gynnwys

Hysbysiad preifatrwydd data ar gyfer cydweithredwyr allanol REF 2021

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

CasdGwybodaeth am breifatrwydd data i gydweithredwyr allanol yn ein cyflwyniad i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.

Gwybodaeth am REF

Diben Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF 2021) yw asesu ansawdd ymchwil y DU a llywio dosbarthiad dethol arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil gan y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU. Defnyddir canlyniadau'r REF i gyfrifo tua £2 biliwn y flwyddyn o gyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil prifysgolion, ac effeithio ar eu henw da rhyngwladol. Mae'r canlyniadau hefyd yn llywio penderfyniadau strategol am flaenoriaethau ymchwil cenedlaethol. Cynhelir y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf yn 2021.

Cynhaliwyd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil am y tro cyntaf yn 2014, gan ddisodli'r Ymarfer Asesu Ymchwil blaenorol. Am y tro cyntaf, roedd yn cynnwys asesiad o effaith ehangach ymchwil prifysgolion y tu hwnt i'r byd academaidd: ar yr economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus a gwasanaethau, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd bywyd — yn y DU ac yn rhyngwladol..

Caiff effaith ei hasesu drwy gyflwyno astudiaethau achos, sy'n disgrifio'r newidiadau neu'r buddion a ddaw yn sgîl ymchwil a wneir gan ymchwilwyr yn y sefydliad. Canfuwyd effeithiau trawiadol ar draws pob disgyblaeth, a barnwyd bod 44 y cant o'r cyflwyniadau yn rhagorol.

Gweler cronfa ddata o astudiaethau achos a gyflwynwyd yn 2014

Casglu data

Rheolir y REF gan dîm REF, a leolir yn Research England (RE), ar ran pedwar corff cyllido addysg uwch y DU. Mae RE yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), ac o dan y trefniant hwn, mae gan UKRI rôl 'rheolydd data' ar gyfer data personol a gyflwynon ni i'r REF.

Efallai eich bod wedi darparu gwybodaeth ar gyfer un neu fwy o astudiaethau achos effaith neu ddatganiadau amgylcheddol fel rhan o gyflwyniad Prifysgol Caerdydd i REF 2021. Yn 2020 byddwn yn anfon gwybodaeth am astudiaethau achos effaith a datganiadau amgylcheddol at UKRI at ddibenion REF 2021. Ni fydd y wybodaeth ar ffurf wedi'i chodio ac efallai y bydd eich enw - a manylion fel teitl eich swydd a'ch cysylltiad sefydliadol - yn cael eu darparu yn y datganiadau naratif hyn.  Rydym yn cyfeirio at y wybodaeth hon amdanoch chi fel 'eich data' a byddwn yn prosesu'r data hwn o dan y sail tasgau cyhoeddus a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylech sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol neu wybodaeth adnabod, heblaw enwau a theitlau swyddi, yn cael eu cynnwys mewn datganiad.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ba ddata sy'n cael ei gasglu ar wefan REF yn enwedig cyhoeddiad 2019/01, 'Canllawiau ar gyflwyniadau'.

Rhannu gwybodaeth amdanoch chi

Gall UKRI drosglwyddo eich data, neu rannau ohono, i unrhyw un o'r sefydliadau canlynol sydd ei angen i lywio dosbarthiad dethol arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil ac i gyflawni eu swyddogaethau statudol sy'n gysylltiedig â chyllido addysg uwch:

  • Gwefan Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
  • Cyngor Cyllido'r Alban.

Bydd UKRI a'r sefydliadau a restrir uchod yn defnyddio'r wybodaeth i ddadansoddi a monitro REF 2021. Gall hyn arwain at ryddhau gwybodaeth i ddefnyddwyr eraill gan gynnwys ymchwilwyr academaidd neu ymgynghorwyr (a gomisiynodd y cyrff cyllido), i gynnal ymchwil neu ddadansoddi, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (Rheoliad (UE) 2016/679). Pan fydd gwybodaeth na chafodd ei chyhoeddi o'r blaen yn cael ei rhyddhau i drydydd parti, bydd hyn yn ddienw lle bo hynny'n ymarferol.

Bydd UKRI yn mynnu y bydd unrhyw un sydd â mynediad at eich data, a gedwir yng nghofnodion UKRI, ar bapur neu'n electronig, yn parchu ei gyfrinachedd ac yn ei brosesu yn unol â chyfarwyddiadau a gyhoeddwyd at y dibenion a bennodd UKRI yn unig.

Bydd rhannau o'ch data yn cael eu trosglwyddo i baneli arbenigol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a'r Panel Cynghori ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth (y mae ei aelodau'n annibynnol ar UKRI) er mwyn cynnal gwerthusiad systematig o gyflwyniadau, yn unol â meini prawf a dulliau a bennwyd ymlaen llaw. Mae pob aelod o'r panel yn rhwym wrth drefniadau cyfrinachedd.

Cyhoeddi gwybodaeth am eich rhan chi yn ein cyflwyniad

Bydd canlyniadau'r ymarfer asesu yn cael eu cyhoeddi gan UKRI, ar ran pedwar corff cyllido addysg uwch y DU, ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd y rhannau hynny o gyflwyniadau sy'n cynnwys data ffeithiol a gwybodaeth destunol am weithgarwch ymchwil hefyd yn cael eu cyhoeddi gan UKRI, ar ran y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU, a byddant ar gael ar-lein. Mae gwybodaeth gyhoeddedig yn debygol o gynnwys gwybodaeth destunol gan gynnwys astudiaethau achos effaith y gallech gael eich cyfeirio atynt. Efallai y bydd eich enw a theitl eich swydd yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth destunol hon a byddant yn cael eu prosesu o dan y sail tasg gyhoeddus a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Lle bynnag y bo'n bosibl, dylech sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol neu wybodaeth adnabod, heblaw enwau a theitlau swyddi, yn cael eu cynnwys mewn datganiad. Gan gyfeirio at honiadau sy'n cael eu gwneud sy'n ymwneud ag arwyddocâd diwydiannol allbwn, byddwn yn gyffredinol yn cyhoeddi sefyllfa a chwmni unigolyn oni bai gofynnir i ni beidio â gwneud hynny. Bydd manylion personol eraill fel arfer yn cael eu dileu

Cael gafael ar eich data personol

O dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a'r GDPR, mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth bersonol y mae UKRI yn ei chadw amdanoch chi. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf a'r GDPR, a chanllawiau ar wneud cais mynediad at ddata, ar gael ar wefan Research England.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion hyn, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data 
Ymchwil ac Arloesedd y DU 
Tŷ Polaris 
Swindon, SN2 1FL
Ebost: dataprotection@ukri.org

Gweler rhagor o wybodaeth am ddiogelu data ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd i staff a sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol.