Ewch i’r prif gynnwys

Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd a diwylliant gweithio, dysgu ac ymchwil lle mae gwahaniaethau'n cael eu croesawu a lle y mae pobl yn gwybod bod aflonyddu a bwlio yn annerbyniol.

Nid ydym yn goddef unrhyw ymddygiadau sy'n aflonyddu, yn bwlio neu'n erlid. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw adroddiadau o fwlio, aflonyddu neu erledigaeth yn cael eu trin a'u trafod yn ddifrifol, waeth beth yw lefel swydd y rhai dan sylw.

Pan fydd unigolion nad ydynt yn staff nac yn fyfyrwyr yn dymuno codi problem o dan y polisi hwn, dylent wneud hynny drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • lle mae’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, dylid codi hyn o dan y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr, sydd ar gael yn Adran 2.10 Rheoliadau Academaidd y Brifysgol
  • lle mae’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad aelod o staff o Brifysgol Caerdydd, dylid codi hyn gyda’r Pennaeth Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol.

Mae Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 yn gosod cyfrifoldeb ar y Brifysgol i amddiffyn a hyrwyddo rhyddid i lefaru cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac o fewn y gyfraith i staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd. Mae gan y Brifysgol weithdrefn sy’n gwneud yn siŵr nad yw ymarfer eich rhyddid i lefaru gyfystyr ag aflonyddu anghyfreithlon.

Dignity at Work and Study Policy - Welsh version

Mae Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio’r Brifysgol yn rhan o agwedd ledled y Brifysgol sy’n hyrwyddo diwylliant ac amgylchedd gweithio, dysgu ac ymchwil lle croesewir gwahaniaethau ac ni oddefir unrhyw fath o weithredu o aflonyddu, bwlio ac erledigaeth.