Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifoldeb i ddeiliaid teitlau anrhydedd

Rhaid i staff anrhydedd gydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol i’r graddau ag y maent yn berthnasol ac yn benodol y rhai sy’n ymwneud â Rheoliadau Ariannol ac Adnoddau Dynol a pholisïau Iechyd a Diogelwch.

Dylid cytuno ar unrhyw waith a wneir gyda’r Brifysgol â’r Pennaeth Ysgol neu Gyfarwyddwr Gwasanaeth Proffesiynol perthnasol.

Rhaid i staff anrhydedd gydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch Prifysgol Caerdydd. Fel rhan o’r rheoliadau hyn, mae angen cliriad gan Iechyd Galwedigaethol ar unigolion sy’n cael mynediad at ardaloedd risg uchel fel labordai, ardaloedd peirianneg ac ati, cyn cael mynediad. Mae modd cysylltu dros y ffôn neu e-bost i ddechrau.

Rhaid i staff anrhydedd sy’n cyfrannu at brojectau neu raglenni ymchwil y Brifysgol adrodd ar greu unrhyw Eiddo Deallusol sy’n deillio o brojectau neu raglenni a allai fod yn fasnachol hyfyw i’r Is-adran Gwasanaethau Arloesi.

Os bydd gwrthdaro buddiannau, sy’n gorgyffwrdd â’r berthynas â’r Brifysgol, rhaid datgelu hyn i Bennaeth yr Ysgol/Adran i ddechrau.

Bydd angen cynnal cyfrinachedd gwybodaeth sy’n deillio dros gyfnod y berthynas â Phrifysgol Caerdydd lle bynnag y bo’n briodol.

Ar bob amser, disgwylir i staff Anrhydedd gynnal enw da’r Brifysgol.

Nid yw staff anrhydedd yn gymwys i weithredu fel arholwyr allanol i’r Brifysgol.