Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdrefn gwyno Gwasanaethau’r Campws – cwsmeriaid nad ydynt yn fyfyrwyr

Ein nod yw darparu gwasanaethau a chyfleusterau o safon sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Os oes gan gwsmeriaid unrhyw sylwadau neu bryderon ynglŷn ag ansawdd y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir, hoffem gael gwybod amdanynt a bod o gymorth lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Myfyrwyr – cyfeiriwch at y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr y brifysgol.

Rhaid mai defnyddwyr uniongyrchol y gwasanaethau sy’n gwneud cwynion. Nid ystyrir cwynion gan drydydd partïon. Er enghraifft, rhaid i’r preswylydd wneud y gŵyn ynghylch preswylfeydd y brifysgol.

Cyflwyno cwynion

Dylid cyflwyno cwynion drwy’r camau a amlinellir isod. Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y camau datrys cynnar.

Dylid codi cwynion wrth y rheolwr perthnasol ymhen 28 diwrnod ar ôl i’r mater godi.

Gellir codi cwynion drwy ebost neu drwy lenwi’r ffurflen cwynion cwsmeriaid, a’i ebostio at y rheolwr perthnasol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Ein nod yw datrys y gŵyn ymhen 14 diwrnod.

Cwynion yn ymwneud âRheolwrEbost
Gweinyddiaeth - dyrannuRheolwr Gweinyddol residences@caerdydd.ac.uk
Gweinyddiaeth - cyllidRheolwr Cyllidcserv-finance@caerdydd.ac.uk
Cynadleddau a DigwyddiadauRheolwr Cynhadleddconference@caerdydd.ac.uk
Gwasanaeth Arlwyo - bwytai, caffis, darparu bwffe,Tîm Rheoli Arlwyaethcatering@caerdydd.ac.uk
Meithrinfa Ysgolheigion BachRheolwr y Feithrinfacreche@caerdydd.ac.uk
Preswylfeydd - Gogledd Talybont a Porth TalybontRheolwr Preswylfeydd talybontnorth@caerdydd.ac.uk
Preswylfeydd - Llys Talybont a De TalybontRheolwr Preswylfeyddtalybontcourt@caerdydd.ac.uk
Preswylfeydd - Llys Cartwright, Neuadd Roy Jenkins, Neuadd y BrifysgolRheolwr Preswylfeydduniversityhall@caerdydd.ac.uk
Preswylfeydd - Neuadd Aberconwy, Neuadd Aberdâr, Neuadd Colum, Neuadd Hodge, Neuadd Gordon, Tai Myfyrwyr, Llys Senghennydd a'r Neuadd Rheolwr Preswylfeydd campus@caerdydd.ac.uk
Chwaraeon - Pentref Hyfforddiant Chwaraeon y Brifysgol (Talybont), Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol y Brifysgol, Stiwdio 51 (Heol Senghennydd)Rheolwr y Ganolfansport@caerdydd.ac.uk
Chwaraeon - Caeau Chwarae'r Brifysgol (Llanrhymni)

Rheolwr y Caeau

sport@caerdydd.ac.uk

Dylid codi cwynion ffurfiol wrth Gyfarwyddwr Cyfleusterau Campws/Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfleusterau Campws (Masnachol) ymhen 14 diwrnod ar ôl ymateb cam un, neu ymhen 28 diwrnod ar ôl i’r mater godi ar gyfer cwynion o natur ddifrifol.

Dylid codi cwynion drwy lenwi’r ffurflen gwyno i gwsmeriaid a’i ebostio at:

Cyfarwyddwr Cyfleusterau Campws/Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfleusterau Campws (Masnachol)
d/o Gweinyddwr
Ebost: JonesV18@cardiff.ac.uk

Ni chaiff unrhyw gwyn sy'n cael ei dderbyn ar ôl y terfynau amser eu hystyried, oni bai fod yna rheswm eithriadol dros hyn. Bydd angen i'r cais yma gael ei gefnogi gan dystiolaeth annibynnol sy'n dangos eich bod wedi'ch atal rhag cyflwyno'ch cwyn o fewn y cyfnod amser penodol.

Cwynion ynghylch staff a gyflogir gan yr Adran

Gellir cyfeirio'r gŵyn at Weithdrefn Disgyblu Staff y brifysgol ar unrhyw adeg yn ystod y  Weithdrefn Gwyno.

Cwynion ynghylch myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd

Gellir cyfeirio'r gŵyn at y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr ar unrhyw adeg yn ystod y Weithdrefn Gwyno (neu weithdrefn berthnasol arall i fyfyrwyr).

Cwsmeriaid sy’n fyfyrwyr

Gall cwsmeriaid sy'n fyfyrwyr, nad ydynt yn fodlon ar ganlyniad y Penderfyniad Cwyn Ffurfiol, ofyn i'r penderfyniad gael ei adolygu yn unol â Gweithdrefn Adolygu’r brifysgol. Myfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd neu ei chyn-fyfyrwyr (cyn pen 28 diwrnod ar ôl eu dyddiad gadael ffurfiol) yw cwsmeriaid sy'n fyfyrwyr.

Diogelu data

Er mwyn gwella ansawdd y gwasanaethau a gynigir, bydd y brifysgol yn cadw cronfa ddata o'r holl gwynion ffurfiol. Bydd y wybodaeth yn y gronfa ddata hon (ynghyd â'r dogfennau perthnasol) yn gyfrinachol, ac fe'u defnyddir at ddibenion cyfeirio, monitro a dadansoddi mewn perthynas â'r Weithdrefn Gwyno yn unig.

Bydd defnydd o'r fath yn rhwym wrth ofynion Deddfwriaeth Diogelu Data.

Fformatau eraill

Mae'r wybodaeth hon ar gael mewn Braille, ar dâp/CD sain ac mewn print bras hefyd. Cysylltwch â'r Rheolwr Gweinyddol: