Ewch i’r prif gynnwys

Hysbysiad diogelu data ar gyfer cronfeydd o ddefnyddwyr y wefan at ddibenion ymchwil

Bydd gan Brifysgol Caerdydd restr o unigolion sy’n fodlon sôn am eu profiad o ddarpariaeth ddigidol y Brifysgol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn nodi sut caiff eich data personol ei ddefnyddio.

Rheolwr y data

Prifysgol Caerdydd fydd yn rheoli’r data personol a roddwch, felly mae'n gyfrifol yn gyfreithiol am brosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gofrestredig gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel Rheolwr Data er mwyn prosesu data personol. Rhif cofrestru Z6549747.

Manylion cyswllt y swyddog diogelu data

Rhaid i'r Brifysgol gael swyddog diogelu data y gellir cysylltu â nhw os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, pryderon neu gwynion am y ffordd y caiff eich data personol ei brosesu. Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd drwy anfon ebost InfoRequest@caerdydd.ac.uk.

Pa ddata personol fyddwn ni’n ei gasglu?

Er mwyn creu’r ‘gronfa o ddefnyddwyr’, bydd angen y wybodaeth ganlynol ar Brifysgol Caerdydd:

  • enw cyntaf
  • cyfenw
  • cyfeiriad ebost
  • p’un a ydych yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd ac, os felly, yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig

Gallech gael cais am ragor o ddata personol yn rhan o arolygon ar-lein unigol, profion defnyddwyr, a sesiynau adborth. Dim ond gwybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer yr arolwg ar-lein, prawf defnyddwyr neu sesiwn adborth o dan sylw fydd y wybodaeth bersonol y gofynnir amdani. Fe gewch hysbysiad preifatrwydd wrth i’r wybodaeth gael ei chasglu gennych.

Sut caiff eich data personol ei ddefnyddio?

Rydych yn cofrestru i gael hysbysiadau drwy ebost am gyfleoedd i rannu eich safbwyntiau a phrofiadau er mwyn ein helpu ni i wella ein darpariaeth ddigidol, fel ein gwefannau. Mae enghreifftiau’n cynnwys: arolygon ar-lein, profion defnyddwyr, a sesiynau adborth (gall y rhain fod ar-lein). Byddwn yn cynnig cynigion i’ch cymell fel talebau neu roi eich enwau mewn het ar gyfer gwobrau i ddiolch i chi am eich amser.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data personol er mwyn dweud wrthych am gyfleoedd i rannu eich safbwyntiau a’ch profiadau i’n helpu ni i wella eich darpariaeth ddigidol.

Yn unol â gofynion GDPR, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Os hoffech dynnu eich caniatâd yn ôl, gallwch wneud hynny drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk.

Pwy all gael gafael ar eich data personol

Ni chaiff eich data ei rannu ag unrhyw un y tu allan i’r Brifysgol, oni bai bod angen gwneud hynny’n rhan o’r systemau a ddefnyddir i gyflwyno’r arolygon. Os bydd y Brifysgol yn defnyddio cyflenwyr allanol, bydd angen i’r cyflenwyr hyn drin eich data yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Trosglwyddo y tu allan i’r UE

Caiff eich data ei drosglwyddo y tu allan i’r UE yn amodol ar y mecanweithiau cyfreithiol priodol.

Am ba hyd y caiff eich data personol ei gadw?

Caiff y data ei gasglu drwy’r ffurflen hon a’i gadw am ddwy flynedd.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau penodol fydd yn gysylltiedig â'r sail gyfreithiol a ddefnyddir gennym i brosesu eich data. I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar y canllawiau canlynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am reoleiddio diogelu data yn y DU. Rydym ni'n gobeithio y gallwn ddatrys eich cwestiynau, ymholiadau neu bryderon ond os ydych chi dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Diweddarwyd diwethaf: 10 Rhagfyr 2020