Ewch i’r prif gynnwys

Ceisiadau am wybodaeth

Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i chofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel Rheolwr Data. Fel rheolwr a phrosesydd data personol mae gennym ymrwymiadau mewn perthynas â gwybodaeth bersonol unigolion, i gefnogi hawliau unigolion i gael gafael ar eu gwybodaeth bersonol ac i sicrhau bod unrhyw rannu data personol yn cael ei wneud yn gyfrifol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fel y cyfryw, rhaid iddi gydymffurfio â cheisiadau dilys gan y cyhoedd i roi gwybodaeth sydd ganddi oni bai bod y wybodaeth benodol honno wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi'r hawl i'r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus neu ofyn amdani.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ac yn cyhoeddi ystod eang o wybodaeth am weithgareddau'r Brifysgol ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cynnal cynllun cyhoeddi sy’n nodi gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Os nad yw'r wybodaeth ar gael drwy ein gwefan neu gynllun cyhoeddi, gallwch gyflwyno cais ysgrifenedig am wybodaeth. Mae gwybodaeth benodol wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu ac mae gennym hawl i wrthod ymateb i geisiadau trallodus ac ailadroddus. Mae rhestr lawn o eithriadau ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn llywodraethu ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu cynaliadwy a'r Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar ein gwefan, a, lle na chyhoeddir gwybodaeth gallwch gyflwyno cais am wybodaeth amgylcheddol.

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys:

  • cyflwr unrhyw ddŵr neu aer, cyflwr unrhyw fflora neu ffawna, cyflwr unrhyw bridd, neu gyflwr unrhyw safle naturiol neu dir arall
  • gwastraff, allyriadau a gollyngiadau i'r amgylchedd
  • unrhyw weithgareddau neu fesurau gweinyddol neu fesurau eraill (gan gynnwys unrhyw raglenni rheoli amgylcheddol) sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu'r rhain
  • cyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys halogi'r gadwyn fwyd.

Nid yw bob amser yn bosibl rhyddhau gwybodaeth amgylcheddol. Mae manylion eithriadau i'r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth amgylcheddol yn Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 - Ceisiadau data personol

Mae GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 yn nodi'r egwyddorion a'r ymrwymiadau eraill y mae'n rhaid i sefydliadau eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr bod data personol unigolyn yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a'i gadw'n gyfrifol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn ymdrin â'r cyfrifoldeb hwn ar ein tudalennau diogelu data. Rydym yn nodi manylion ynghylch pa ddata personol rydym yn ei gasglu, sut y gellir ei ddefnyddio ac i bwy y gallwn ddatgelu'r data. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth am hawliau unigolyn a sut y gall arfer yr hawliau hynny, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad.