Rheoliadau Academaidd
Pwrpas rheoliadau academaidd yw i sicrhau safonau academaidd ac i wneud yn siŵr bod ein holl fyfyrwyr yn cael eu trin mewn ffordd sy'n gyson ac yn deg.
Mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen gyda ni yn cytuno i gadw at ein rheoliadau a gweithdrefnau academaidd.

Rheoliadau academaidd 2022/2023
Yn amlinellu ein rheoliadau academaidd ar gyfer rhaglenni ac astudio, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae'r ddogfen hefyd yn amlinellu ein hymagwedd tuag at newid trefniadau rhaglenni a chyfleoedd ymchwil mewn amgylchiadau eithriadol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â newidiadau rhesymol y gallwn o bosibl eu gweithredu er mwyn darparu profiad cystal neu well i'n myfyrwyr.
Sylwch bod y rheoliadau academaidd yn destun i adolygiad blynyddol a byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw newidiadau fel y bo'n briodol.