Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud cais am ystafell yn ein llety i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr cyfnewid

Gallwn warantu ystafell i chi yn llety’r Brifysgol gyda myfyrwyr israddedig eraill yn eu blwyddyn gyntaf.

Gallwch wneud cais am ystafell yn llety'r Brifysgol ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yma. Gallwch wneud hynny drwy system ar-lein Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch. Cafodd y rhain eu hanfon atoch drwy ebost yn fuan wedi i ni gael eich cais.

Sut i wneud cais

Mae amrywiaeth o breswylfeydd ar gael i ddewis rhyngddynt, gan ddibynnu ar eich ffordd o fyw a'ch cyllideb. Wrth benderfynu ble rydych am fyw, gall ystyried y ffactorau canlynol fod yn ddefnyddiol:

Gallwch wneud cais am ystafell yn llety'r Brifysgol ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yma.

Gallwch wneud hynny drwy system ar-lein Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch. Cafodd y rhain eu hanfon atoch drwy ebost yn fuan wedi i ni gael eich cais.

Gwnewch gais ar-lein

I wneud yn siŵr eich bod yn cael ystafell sengl yn llety'r Brifysgol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno eich cais ar-lein erbyn:
    • myfyrwyr dewis cadarn – Dydd Llun, 31 Gorffennaf 2023
    • myfyrwyr dewis wrth gefn – Dydd Iau, 31 Awst 2023
    • myfyrwyr cyfnewid sesiwn lawn – Dydd Llun, 31 Gorffennaf 2023
  • cael/derbyn cynnig diamod i astudio yma erbyn dydd Iau, 31 Awst 2023

Wrth wneud cais ar-lein, byddwch yn gallu rhoi’r llety sydd ar gael yn nhrefn yr hyn sydd orau gennych. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael ystafell yn un o’r preswylfeydd sydd orau gennych. Os na fydd hynny'n bosibl, byddwn yn cynnig ystafell i chi mewn preswylfa arall, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael.

  • Sylwer: Os bydd eich cais ar-lein yn dod i law ar ôl y dyddiad cau, neu os byddwch yn cael/derbyn cynnig diamod i astudio yma ar ôl dydd Iau, 31 Awst 2023, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ystafell ar eich cyfer, ar sail y cyntaf i'r felin.

O ganlyniad i'r embargo ar gyfer canlyniadau'r Alban a Safon Uwch, ni fydd ymgeiswyr UCAS yn gallu gwneud cais ar-lein ar yr adegau canlynol:

  • 18:00 ddydd Llun, 31 Gorffennaf hyd at 09:00 ddydd Mawrth, 8 Awst
  • 17:00 ddydd Iau, 10 Awst hyd at 08:00 ddydd Iau, 17 Awst

Trefn prosesu ceisiadau

Caiff ceisiadau eu prosesu mewn trefn gronolegol, yn unol â dau ddyddiad:

  • y cyntaf yw'r dyddiad y cawn gadarnhad gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr eich bod wedi derbyn y cynnig diamod i astudio
  • yr ail yw dyddiad y daw eich cais i law

Byddwn yn ceisio cynnig ystafell i chi yn un o'r preswylfeydd sy’n well gennych.

Os na fydd ystafell ar gael yn eich dewis cyntaf o breswylfa, byddwn yn ystyried eich holl ddewisiadau eraill yn ôl trefn blaenoriaeth, hyd nes y byddwn yn gallu dod o hyd i ystafell i chi.

Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr sy'n gallu byw ynddynt, a bod rhai yn fwy poblogaidd nag eraill, ni ellir gwarantu ystafell i chi yn y preswylfeydd sy’n well gennych. Os nad yw'r breswylfa sydd orau gennych ar gael mwyach, byddwn yn cynnig ystafell i chi mewn preswylfa arall sy’n addas yn ein barn ni.

Ein polisi yw lletya myfyrwyr mewn fflatiau cymysg o ran rhyw a chenedligrwydd/hil lle bynnag y bo modd, gan gynnwys ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod. Os byddai'n well gennych fyw mewn fflat un-rhyw, rhowch wybod i ni yn wrth wneud eich cais ar-lein.

Os byddwch yn byw yn llety Unite, nid yw’r canlynol yn berthnasol, a chewch ragor o wybodaeth yn uniongyrchol gan Unite.

Ddiwedd mis Gorffennaf/Awst/Medi, byddwch yn cael ebost yn rhoi gwybod i chi fod eich cais wedi’i brosesu a bod angen i chi fwrw golwg ar yr ystafell a gynigiwyd i chi a’i derbyn.

Mae’n rhaid i chi dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi ymhen pum diwrnod. Os na wnewch hynny, bydd yn cael ei chynnig i fyfyriwr arall. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cadw llygad ar eich ebyst yn ystod y cyfnod hwn.

Gall rhai darparwyr cyfrifon ebost ystyried y neges yn sbam. Felly, cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch mewnflwch.

Mae y cynnig yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • cytundeb
  • datganiad ysgrifenedig/telerau ac amodau
  • gwybodaeth ynghylch cyrraedd
  • canllawiau talu am lety

Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi, byddwn yn ei chadw ar eich cyfer, a byddwch yn cael ebost yn cadarnhau hynny.

Byddwn yn cynnig ystafell i chi am gyfnod penodol, ac ar ôl i chi dderbyn yr ystafell honno, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r rhent am y cyfnod a nodir yn eich cytundeb.

Er mwyn gwarantu eich ystafell yn llety'r Brifysgol yn derfynol, mae’n rhaid i chi gyrraedd a chasglu’r allwedd ar gyfer eich ystafell o fewn y cyfnod amser a nodir yn y wybodaeth am gyrraedd.

Os na allwch gyrraedd o fewn y cyfnod amser a nodir, bydd eich ystafell yn cael ei rhoi i fyfyriwr arall. Ni fyddwn yn gallu gwarantu ystafell i chi yn llety'r Brifysgol mwyach, a bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Preswylfeydd pan fydd eich dyddiad teithio wedi'i gadarnhau i weld pa ystafelloedd sydd ar gael.

Dyddiadau pwysig

TasgDyddiad cau
Rhaid fyfyrwyr dewis cadarn gyflwyno eu cais ar-leinDydd Llun, 31 Gorffennaf 2023
Rhaid i fyfyrwyr cyfnewid sesiwn lawn gyflwyno eu cais ar-leinDydd Llun, 31 Gorffennaf 2023
Rhaid i fyfyrwyr dewis wrth gefn gyflwyno eu cais ar-leinDydd Iau, 31 Awst 2023
Cael/derbyn cynnig diamod i astudio ymaDydd Iau, 31 Awst 2023
Derbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi (ar-lein)Ymhen pum diwrnod ar ôl cynnig yr ystafell i chi
Casglu’r allwedd ar gyfer eich ystafellO fewn y cyfnod amser a nodir yn y wybodaeth am gyrraedd

Myfyrwyr Clirio, myfyrwyr sydd â ffurflen Cofnod Derbyn Blaenorol a myfyrwyr sy’n ymgeiswyr hwyr

Rydym yn darparu ar gyfer myfyrwyr Clirio, myfyrwyr sydd â ffurflen Cofnod Derbyn Blaenorol a myfyrwyr sy’n ymgeiswyr hwyr (h.y. sy’n gwneud cais ar ôl y dyddiadau a nodir uchod) ar sail y cyntaf i'r felin.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ystafelloedd sydd ar gael ac yn gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i ystafell addas ar eich cyfer. Os na allwn gynnig ystafell i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn rhoi cyngor ar ddod o hyd i lety yn y sector preifat.

Darganfyddwch ragor am lety i fyfyrwyr sy'n ymuno â ni drwy system Clirio.

Dyddiadau pwysig 
Dydd Gwener, 30 Mehefin 2023Dyma’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i astudio yma yn ystod cylch ymgeisio arferol UCAS. Bydd ystafelloedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin i’r rhai sy’n gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn.
Dydd Gwener, 1 Medi 2023Byddwn wedi dechrau prosesu ceisiadau hwyr am ystafell. Pan fyddwch wedi derbyn eich cynnig i astudio yma ar sail gadarn, byddwn yn anfon ebost atoch sy’n rhoi gwybod sut i wneud cais ar-lein am ystafell yn llety’r Brifysgol.

Myfyrwyr sesiwn rhannol

Yn anffodus, ni allwn warantu ystafell yn llety'r Brifysgol i fyfyrwyr cyfnewid ar gyfer semester yr hydref neu'r gwanwyn yn unig.

Cyfnod cyrraeddCyngor
Semester yr hydrefMae’n annhebygol y byddwn yn gwybod tan ddiwedd mis Medi (ar ôl i chi gyrraedd Caerdydd) a allwn gynnig ystafell i chi yn un o breswylfeydd y Brifysgol. Cewch ragor o wybodaeth am gyrraedd Caerdydd gan ein Tîm Cyfleoedd Byd-eang.
Semester y gwanwynYn gyffredinol, bydd ystafelloedd gwag ar gael yn ystod semester yr hydref. Felly, rydym yn eich cynghori i wneud cais ar-lein am ystafell. Rydym yn prosesu ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gallu cynnig ystafell i nifer o’r myfyrwyr sydd ei hangen.