Ewch i’r prif gynnwys

Ymyriadau yn y carchar i droseddwyr Mwslimaidd

Mae Ymyriadau yn y Carchar i Droseddwyr Muslimaidd (PRIMO) yn dylunio ac yn treialu tri chwrs cysylltiedig er mwyn helpu carcharorion i adeiladu bywydau llwyddiannus o'u dewisiadau ffydd yn y carchar.

Nod y prosiect yw sicrhau gwelliant parhaus a phrofedig yn y ffordd y mae Islam yn effeithio ar fywyd yn y carchar er lles cynaliadwy bywydau carcharorion ac ar gyfer gwybodaeth a lles gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.

Mae'r tri chwrs y mae'r prosiect yn eu treialu yn cynnwys:

  • cwrs deuddeg awr o addysg Islamaidd i garcharorion i'w helpu i ddefnyddio'u ffydd i newid eu bywydau.
  • modiwl chwe awr o hyfforddiant i swyddogion carchar i'w helpu i nodi'r gwahaniaeth rhwng ffurfiau cynhyrchiol a dinistriol o ffydd yn y carchar
  • cwrs o ddeugain awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus i gaplaniaid carchar Mwslimaidd i gefnogi eu gwaith bugeiliol gyda charcharorion a'u dealltwriaeth o fywyd carchar a ffydd

Mae'r prosiect yn defnyddio'r syniad Qur'anig o'r Stiward Mwslimaidd sy'n gofalu amdano'i hun, eraill a'r amgylchedd fel delfryd graidd Fwslimaidd ar gyfer y cyrsiau hyn.

Mae PRIMO yn cael ei gefnogi a'i arwain gan dîm o'r radd flaenaf o ymarferwyr cyfiawnder troseddol, ffigurau o’r gymuned Mwslimaidd, diwinyddion blaenllaw a throseddegwyr. Ariennir PRIMO yn annibynnol gan Ymddiriedolaeth Dawes.

Pobl

Lucy Wilkinson

Lucy Wilkinson

PRIMO Project Director

Email
wilkinsonl7@caerdydd.ac.uk
Telephone
+ 44 (0) 7930 413 841
Yr Athro Matthew Wilkinson

Yr Athro Matthew Wilkinson

Professor of Religion in Public Life

Email
wilkinsonm8@caerdydd.ac.uk
Telephone
+ 44 (0) 7930 413 841