Ein proffil
Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883, ac mae ymhlith prifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw Prydain.
Mae'r Brifysgol mor hyderus a blaengar â'r ddinas y mae'n rhan ohoni ac mae ganddi enw rhagorol am ansawdd ei haddysgu a'i hymchwil.
Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.