Pwy ydym ni
Rydym ni'n rhagori wrth gynhyrchu ymchwil arloesol o ansawdd uchel sy'n arwain at fuddion yn lleol ac yn fyd-eang.
Mae gennym boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr sy'n dod o fwy na 100 o wledydd ac amrywiaeth o gefndiroedd. Caiff ein staff academaidd eu hysbrydoli gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Mae llawer yn arweinwyr yn eu maes ac yn creu amgylchedd ysgogol ar gyfer dysgu.