Ewch i’r prif gynnwys

Perfformiad

Ein nod yw archwilio a gwella effeithlonrwydd o ran ein defnydd o ddŵr ac ynni, ailgylchu, caffael gwyrdd, cynnal a chadw’r campws a bioamrywiaeth.

Defnydd ynni

Fe wnaethom ddefnyddio 2.5% yn llai o ynni yn 2019-20, o gymharu â 2018-19, i 113,636,891kWh.

Parhaodd yr allyriadau carbon a rhwydwaith a gyfrifwyd yn erbyn yr allyriadau grid cyfartalog i ostwng yn ystod y flwyddyn academaidd 2019-20 (27% yn is na 2005/06) ar ôl datgarboneiddio’r grid.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Ymholiadau egni

Ymholiadau amgylcheddol

Caffael cynaliadwy

Bydd cwmnïau sy'n dymuno darparu nwyddau a gwasanaethau i'r Brifysgol bellach yn gorfod dangos ymrwymiad i faterion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Mae'r mesur, fydd yn berthnasol i bob penderfyniad caffael dros £25,000, wedi’i lunio er mwyn rhoi sylw blaenllaw i ystyriaethau moesegol wrth gomisiynu gwaith neu wasanaethau gan sefydliadau allanol.

Ymhlith y newidiadau eraill mae cymalau budd cymunedol er mwyn creu cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant, darparu cyflogaeth i'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae cadwyni cyflenwi ar gyfer mentrau bach, canolig a chymdeithasol hefyd yn cael eu cynnwys.

Mae Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW) yn aelwyd cyswllt o Gonsortiwm Pwrcasu Prifysgolion y De (SUPC) sy’n aelodau o Electronics watch. Mae’r Brifysgol yn prynu trwy fframweithiau a reolir gan SUPC gan gynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gweinyddion a storfa cyfrifiadurol.

Accolades

Gwobr/enwebiadDyddiadManylion
Gwobrau Rhagoriaeth Meddalwedd ac European IT, 2017Mawrth 2017Dyfarnwyd i Ganolfan Ddata Uwchgyfrifiadur ARCCA Redwood, trwy ein darparwr Schneider Electric, gan weithio mewn partneriaeth â staff Schneider Electric (APC), Comtec Power, CoolTherm a Phrifysgol Caerdydd (ARCCA, Ystadau a TG Prifysgol) - am optimeiddio effeithlonrwydd gweithredol ac ynni y ganolfan ddata.
Gwobrau Prifysgol The Guardian - CynaladwyeddMawrth 2017Fe wnaeth ein prosiect sydd o les i wenyn ennill yng nghategori prosiect cynaladwyedd. Rydym yn cydweithio ag ysgolion lleol a phrosiectau gwyddoniaeth ar draws de Cymru er mwyn rhoi amgylchedd gwell i wenyn yn ogystal â cheisio datblygu gwrthfiotogau newydd sy’n seiliedig ar fêl.
Gwobr Arloesedd mewn CynaliadwyeddMehefin 2015Mae arbenigwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylunio tŷ clyfar sy’n cynhyrchu mwy o egni nag y mae'n ei ddefnyddio. Cafodd y prosiect hwn ei anrhydeddu yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Caerdydd 2015
Nod Arlwyo Bwyd am Oes Cymdeithas y PriddHydref 2012Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan Gymdeithas y Pridd am ei hymrwymiad i ddarparu bwyd sydd wedi'i baratoi'n ffres, heb unrhyw ychwanegion dadleuol ac sy’n well er lles anifeiliaid.
Gwobrau BREEAM Cymru 2012Gorffennaf 2012Mae Adeilad newydd Hadyn Ellis sy'n cael ei adeiladu ym Mharc Maindy, wedi ennill gwobr bwysig am ei gynaliadwyedd.
ISO 14001/ Systemau Rheoli Amgylcheddol Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn ISO 14001 - safon a dderbynnir yn rhyngwladol fel arwydd o ymrwymiad sefydliad i leihau ei effaith amgylcheddol - a BS OHSAS 18001 sy'n cydnabod hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ac iach.
Enwebiad Gwobr Green GownAwst 2011Cafodd menter marchnata cymdeithasol arloesol oedd yn ceisio lleihau nifer yr achosion o danau glaswellt oedd yn cael eu cynnau’n fwriadol, ei rhoi ar y rhestr fer yn y categori Cyfrifoldeb Cymdeithasol. 
Gwobr y Frenhines am Wasanaeth GwirfoddolGorffennaf 2010Dyfarnwyd gwaith rhagorol yn y gymuned leol i Wirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd (CCV), grŵp a gyd-sefydlwyd gan John Newton, oedd yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Is-adran Gyllid y Brifysgol. 
Gwobrau Green GownMehefin 2010Fe wnaeth menter o dan arweiniad myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, sy’n hyrwyddo bwyta ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ffynonellau lleol, gipio’r wobr am Fentrau ac Ymgyrchoedd Myfyrwyr.
Safon yr Ymddiriedolaeth CarbonMai 2010Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyrraedd Safon yr Ymddiriedolaeth Carbon, sy’n farc rhagoriaeth cenedlaethol. Roedd hyn i gydnabod ei gwaith a'i chanlyniadau a'i ymrwymiad parhaus i leihau ei hallyriadau carbon.