Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngwladol

Mae Prifysgol Caerdydd yn fyd-eang, uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus.

Gyda dros 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 100 o wledydd, mae ein campws yn cynnig cymuned ryngwladol amrywiol yn denu myfyrwyr a’r staff gorau o amgylch y byd.

Rydym yn datblygu a chefnogi diwylliant sy’n annog cydweithrediadau a chyfnewidiadau rhyngwladol, gyda dros 17% o’n myfyrwyr israddedig yn treulio amser dramor. Mae ein partneriaid a’n cysylltiadau strategol gyda dros 200 o sefydliadau ar draws y byd yn amlygu ein henw da byd-eang a rhagolwg rhyngwladol.

Partneriaid rhyngwladol

Mae ein parterniaethau yn cwmpasu mwy na 35 gwlad gan gynnwys 40 ar draws Tsieina, 9 yn Malaysia a dros 20 yn yr UDA.

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni neu i gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau rhyngwladol, cysylltwch â'r Swyddfa Rhyngwladol.

Y Swyddfa Ryngwladol

Prifysgol Xiamen

Seremoni arwyddo Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen
O'r chwith: Y Gwir Anrhydeddus Prif Weinidog Carwyn Jones AC, Cyn Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd ac Arlywydd Zhu, Prifysgol Xiamen

Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina gan ddod yn bartner â Xiamen dros 30 mlynedd yn ôl.

Mae ein partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Xiamewn yn cefnogi rhaglenni academaidd ar y cyd, cynllun ysgoloriaeth PhD, a chyfnewidadau staff. Rydym yn cydweithio'n agos ar feysydd sydd o ddiddordeb cydfuddiannol, gan gynnwys creu dinasoedd mwy cynaliadwy drwy ein Canolfan Ymchwil ar gyfer Dinasoedd Dymunol ac Ecolegol ac ymchwil catalysis.

"Rydym yn rhannu uchelgais rhygwladol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau newydd ac arloesol fydd yn gallu cynnig manteision i Gymru a Tsieina.”

Arlywydd Zhu Prifysgol Xiamen

Ymchwil rhyngwladol

Yn ôl REF, rydym yn 5ed safle yn y DU ar gyfer ymchwil ac yn 2il o ran effaith, mae ein ymchwil cydweithredol gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

O'r prosiect Cronfa Ymchwil Her Byd-eang yn archwilio gwydnwch systemau cyflenwi dŵr daear, yn Nigeria i'n model arloesol sy'n ymdrin â gwaredu gwastraff niwclear, a gefnogwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae ein cyfrifoldebau byd-eang yn bwysig i ni.

Rydym yn denu academyddion ac ymchwilwyr o'r safon uchaf o amgylch y byd, gan ehangu y profiad dysgu ar gyfer myfyrwyr a dod a perspectif byd-eang i'n hymchwil.

Astudio dramor

Mae rhoi'r cyfle i'n holl fyfyrwyr i ennill profiad dramor yn un o'n blaenoriaethau. Mae ein cysylltiadau gyda dros 300 o sefydliadau yn fyd-eang yn golygu bod dros 17% o'n myfyrwyr yn astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor am o leiaf mis yn ystod eu hamser gyda ni.

Mae ein hymrwymiad i fyfyrwyr i ennill ymwybyddiaeth diwylliannol ac ehangu eu cyflogadwyedd drwy eu hamser dramor yn parhau i fod yn darged allweddol yn Strategaeth y Brifysgol - Y Ffordd Ymlaen.

Nodwch fod y fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwyliwch fideo Saesneg o Profiad Erasmus: Sophie

Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd byd-eang i fyfyrwyr

Ysgoloriaethau a chyllid rhyngwladol

Ysgoloriaethau Chevening

Mae Ysgoloriaethau Chevening yn rhaglen ysgoloriaeth fyd-eang Llywodraeth y DU, ar gyfer datblygu arweinwyr byd-eang. Ariennir hi gan Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) a sefydliadau partner, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen yn rhoi gwobrau i ysgolheigion gyda photensial arweinyddiaeth o gwmpas y byd i astudio cwrs ôl-raddedig ym mhrifysgolion y DU. Yn 2016, gwnaeth Prifysgol Caerdydd groesawu 44 o ysgolheigion Chevening.

Comisiwn Fulbright

Ysgolheigion Fulbright
Ysgolheigion Fulbright ar ddechrau eu hymweliad i Gymru.

Mae Comisiwn Fulbright yn rhoi dwy wobr bob blwyddyn, sy'n galluogi dinasyddion o'r UD i ddod yma i addysgu, darlithio, cynnal ymchwil neu ddilyn rhaglen gradd Meistr.

Ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, rydym ni'n cynnal Athrofa Haf Cymru Fulbright, sy'n rhaglen ddiwylliannol ac academaidd chwe wythnos i fyfyrwyr o'r UD, sy'n canolbwyntio ar thema Cymru Gyfoes: Diwydiant, Gwleidyddiaeth, Diwylliant a Newid.

Marie Skłodowska-Curie Actions - Cymrodoriaethau Unigol

Nod y Cymrodoriaethau unigol yw ehangu potensial creadigol ac arloesol ymchwilwyr profiadol sy'n dymuno datblygu sgiliau newydd drwy hyfforddiant uwch a symudedd rhyngwladol ac adrannol.

Mae cymrodoriaethau unigol yn rhoi cyfleoedd i gaffael a throsglwyddo gwybodaeth newydd ac i weithio ar ymchwil ac arloesedd mewn cyd-destun Ewropeaidd (aelod-wladwriaethau yr UE a Gwledydd Cysylltiedig) neu du allan i Ewrop. Mae'r cynllun yn benodol yn cefnogi ymchwillwyr sy'n dychwelyd ac ail-integreiddio sydd wedi gweithio yma yn y gorffennol o du allan i Ewrop. Mae'r gymrodoriaeth hefyd yn datblygu neu helpu ail-ddechrau gyrfaoedd ymchwilwyr sydd wedi dangos potensial, ar sail eu profiad.

Tîm Ymchwil Ewropeaidd

Ysgoloriaethau Marshall

Mae Ysgoloriaethau Marshall yn rhoi arian i Americanwyr ifanc, hynod alluog, gan ganiatáu iddyn nhw astudio am radd Meistr neu radd ymchwil yma.

Prifysgolion Santander

Mae Prifysgolion Santander wedi rhoi £535,343 ers 2011, sydd wedi ei ddefnyddio i gefnogi gwobrau ar gyfer prosiectau a myfyrwyr rhagorol, ac i helpu ein entrepreneuriaid. Mae’r arian hwn yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr deithio dramor i barhau â’u hastudiaethau.