Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu cyfranogiad

Ein gweledigaeth yw bod pob myfyriwr, ni waeth beth fo'i gefndir neu ei brofiad personol, yn cael ei ysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn cyraeddadwy ac y gall myfyrwyr astudio, llwyddo a ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.

Mae’r weledigaeth hon yn seiliedig ar ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i gefnogi a dathlu amrywiaeth, creu cymuned agored a chynhwysol a sicrhau bod myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Wrth adeiladu ar ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant, rydym wedi datblygu strategaeth i sicrhau y gall pob myfyriwr ffynnu a datblygu i ddod yn weithwyr proffesiynol ac arweinwyr cymdeithas y dyfodol.

Mae ein strategaeth ehangu cyfranogiad ar gyfer 2020-2025 yn adeiladu ar ein record ragorol o sicrhau bod myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Y nod yw helpu myfyrwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys anfantais addysgol, i ymgysylltu, cyflawni a llwyddo ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn deall nerth addysg i drawsnewid bywydau ac yn credu na ddylai amddifadedd economaidd-gymdeithasol, cyfraddau cyfranogi isel mewn addysg uwch, anfantais addysgol nac unrhyw darfu ar addysg rwystro myfyrwyr rhag cyrraedd eu potensial academaidd llawn a dilyn gyrfa ystyrlon a boddhaus.

Mae ein strategaeth ehangu cyfranogiad yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Ymgysylltu â phobl o bob cenhedlaeth a'u hysbrydoli i ystyried addysg uwch yn opsiwn realistig a chyraeddadwy
  • Denu a recriwtio myfyrwyr â photensial academaidd, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad personol
  • Galluogi unigolion i bontio i’r brifysgol yn llwyddiannus a sicrhau bod profiad myfyrwyr yn un rhagorol a chefnogol
  • Meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb

Strategaeth ehangu cyfranogiad 2020-25

Darllenwch ein strategaeth ehangu mynediad a chadw, sy’n esbonio sut fyddwn yn denu, recriwtio a chadw'r myfyrwyr mwyaf galluog o’r cefndiroedd mwyaf amrywiol a’u galluogi nhw i fanteisio ar eu potensial.

Adroddiad Blynyddol Ehangu Cyfranogiad 2023

Mae’r adolygiad blynyddol hwn yn myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ac yn archwilio sut rydym yn gweddu ein gwaith i nodau ein Strategaeth WP 2020-2025

Cysylltu â ni

Tim Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth