Ewch i’r prif gynnwys

Addysg

Female student in red jacket outside Main Building

Mae ein myfyrwyr yn elwa o addysgu ac ymchwil sy’n cael eu sbarduno gan chwilfrydedd a chreadigrwydd.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i greu amgylchedd ysgogol a chefnogol lle gall ein holl fyfyrwyr ffynnu. Mae astudio a dysgu mewn amgylchedd cyfoethog o ran ymchwil yn golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ysgolheigion sy’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn eu disgyblaeth.

Mae lefelau bodlonrwydd myfyrwyr yn gyson uchel, canfu Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021 fod 72% o'n myfyrwyr yn fodlon â'u profiad fel myfyriwr.

Mae ein rhaglenni astudio yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dyfodol llewyrchus a llwyddiannus.

Paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth

Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu astudiaethau pellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21.

Mae llawer o'n rhaglenni gradd yn cynnig cyfle ar gyfer lleoliad gwaith neu brofiad tramor. Mae rhai yn cynnig hyfforddiant proffesiynol am flwyddyn neu astudio dramor. Mae gennym hefyd ystod eang o raglenni sydd wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae pob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yn cael cyfle i astudio iaith yn ystod eu cyfnod gyda ni.

Ni yw’r darparwr addysg oedolion mwyaf yng Nghymru, gan fod Datblygiad Proffesiynol a Pharhaus yn darparu rhai cannoedd o gyrsiau byr mewn mannau ar draws De-ddwyrain Cymru. Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni datblygiad proffesiynol, gan gynnwys cyrsiau a luniwyd at y diben.

Cefnogi dysgu ac addysgu

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn darparu cymorth ar gyfer datblygu ein gweithgareddau addysgu a dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithio i wella profiad dysgu ein myfyrwyr yn barhaus ac annog ein staff i ddatblygu a rhannu eu harbenigedd addysgu.

Y Ganolfan Ddysgu yw un o’n ffyrdd o rannu arfer da ar draws y Brifysgol a chefnogi’n holl staff i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau addysgu.


Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all CBAC dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu gasgliadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i ddata.