Ewch i’r prif gynnwys

Gwreiddio cynaliadwyedd yn y cwricwlwm ffisiotherapi

LT1

Mae myfyrwyr ffisiotherapi yn eu blwyddyn olaf yn archwilio'r cysylltiad rhwng iechyd y blaned ac iechyd y cyhoedd.

A hithau’n seiliedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, mae cyfres o ddarlithoedd ac adnoddau’n annog myfyrwyr ffisiotherapi yn eu blwyddyn olaf i archwilio sut mae cysylltiad anorfod rhwng iechyd y blaned ag iechyd y cyhoedd. Mae'r sesiynau'n rhoi sylw i faterion fel cyfrifoldeb personol a bod yn fodel rôl, y rhwymedigaethau proffesiynol i ystyried effaith ymarfer clinigol ar yr amgylchedd a'r dylanwadau amgylcheddol ar iechyd y cyhoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Caiff y myfyrwyr eu hannog hefyd i ystyried sut y gallant fod yn eiriolwyr dros gleifion/poblogaethau o ran gwella amgylcheddau lleol neu fyw mewn ffordd gynaliadwy er mwyn ehangu hygyrchedd a chynwysoldeb. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu wrth weithio mewn grwpiau i ddatblygu ymyriad iechyd cyhoeddus a chynllun busnes cysylltiedig sy’n canolbwyntio’n arbennig ar gynaliadwyedd.

O 2023 ymlaen, bydd y pynciau hyn yn cael eu gwreiddio ymhellach yn y rhaglenni MSc Ffisiotherapi ac MSc Therapi Galwedigaethol (cyn-cofrestru) newydd ac yn archwilio sut mae anghydraddoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol yn effeithio ar ganlyniadau iechyd. Bydd prosiectau grŵp cydweithredol rhyngbroffesiynol yn ystyried NDCau o safbwynt iechyd cyhoeddus i gynnig atebion ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gofal iechyd mewn ardaloedd lleol yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig wedi gwneud prosiect grŵp rhyngbroffesiynol a chynaliadwyedd fel cysyniad craidd yn rhan o’r rhaglen.

Erbyn hyn, mae tair carfan o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf wedi cael profiad o’r modiwl sy’n rhoi sylw i’r pwnc hwn, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Dywedodd un myfyriwr: "Rwyf bob amser wedi credu ym mhŵer trawsnewidiol gwleidyddiaeth i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus, ac rwy'n obeithiol y byddaf yn cael y cyfle mewn ychydig flynyddoedd i gymryd rhan uniongyrchol yn y broses honno drwy fy ngwaith fel ffisiotherapydd cymwys." Dywedodd un arall: "Mae wir wedi fy ysgogi a’m hannog i wneud mwy gan fod cymaint o newidiadau y gellir eu gwneud i wella bywyd ac iechyd bob dydd yn sylweddol."

Pobl

Jill Morgan

Jill Morgan

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (UG) & Uwch-Ddarlithydd : Ffisiotherapi

Email
morganj63@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87991