Strategaeth
Rydym wedi egluro ein cyfeiriad strategol yn Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19.
Ein gweledigaeth yw bod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd, sy'n rhagorol o ran ymchwil ac yn addysgol, ac a gaiff ei gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Rydym am fod yn brifysgol sy'n cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a'r byd. Drwy gyflawni ein gweledigaeth, rydym yn disgwyl gwella ein statws fel un o'r 100 o brifysgolion gorau’r byd ac un o’r 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Ail-lunio COVID-19 yn amlinellu’r egwyddorion sy’n arwain y modd y byddwn ni’n rhoi’r uchelgais hwn ar waith.
Nodwch, mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.

The Way Forward 2018-2023: Recast COVID-19
Read about our revised strategic direction in response to coronavirus (COVID-19).
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.