Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd drwy ddyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

UG courses

Archwilio datrysiadau cyfrifiadura i amrywiaeth o faterion cynaliadwyedd.

Fel rhan o'u cwrs, rhoddir cyfle i fyfyrwyr yn ein Hysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddewis pwnc sy'n gysylltiedig â mater cymdeithasol ac archwilio ystod o atebion cyfrifiadurol i fynd i'r afael â'r mater o bosibl. Gan fod newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn bryderon mawr i lawer o fyfyrwyr, mae'r modiwl hwn wedi denu llawer o gynigion gan fyfyrwyr i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae prosiectau wedi canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys plannu coed cymunedol, adrodd tanau gwyllt mewn coetiroedd, cynyddu nifer y peillwyr, lleihau tipio anghyfreithlon, ailgylchu dillad ysgol a chefnogi banciau bwyd. Mae pob un o'r atebion y mae myfyrwyr yn eu cynnig yn cael eu prototeipio a'u profi gan ddefnyddio dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ganolbwyntio ar y defnyddwyr terfynol a'u hanghenion ym mhob cam o'r broses ddylunio.

I fyfyrwyr ym maes cyfrifiadureg, mae wastad wedi bod yn her gweld cymwysiadau ac effeithiau peirianneg meddalwedd yn y byd go iawn. Mae'r modiwl hwn yn cynnig profiad byd go iawn, uniongyrchol i fyfyrwyr o sut y gallant ddefnyddio eu sgiliau i fynd i'r afael â materion cymdeithasol.

Mae adborth myfyrwyr wedi adlewyrchu hyn, gydag un myfyriwr yn gwneud sylwadau: "Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa rolau pwysig sydd gan wyddonwyr cyfrifiadurol wrth fynd i'r afael â materion cymdeithasol." Dywedodd myfyriwr arall:  "Dysgais sgiliau gwych yn y modiwl hwn megis arsylwi ar bobl, siarad a gwrando ar bobl, dadansoddi ymddygiad pobl pan fyddant yn rhyngweithio â chyfrifiaduron ac yn bwysig, sut i adeiladu offer cyfrifiadura gyda phobl ac ar eu cyfer."

Pobl

Dr Parisa Eslambolchilar

Dr Parisa Eslambolchilar

Senior Lecturer

Email
eslambolchilarp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9346
Dr Nervo Verdezoto Dias

Dr Nervo Verdezoto Dias

Senior Lecturer

Email
verdezotodiasn@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 1735