Cynaliadwyedd
Rydym ni'n anelu at ddod â buddion iechyd, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd nid yn unig i Gymru ond i'r byd ehangach.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei archwilio a'i ardystio'n annibynnol i Safon ryngwladol ISO 14001, ar sail system rheoli amgylcheddol effeithiol, sy'n cael ei nodweddu gan wellhad parhaol.
Rydym yn llofnodwr Cytgord Nod Datblygu Cynaliadwy. Mae'r cytgord yn cynrychioli ymateb ar y cyd y brifysgol a sectorau’r coleg i 17 nod datblygu cynaliadwy a'n hymrwymiad i gyflawni'r nodau hyn.
Gwnaethom ddatgan bod argyfwng yn yr hinsawdd yn 2019, gan gydnabod bod angen i ni chwarae ein rhan yn yr ymateb byd-eang. Ein nod yw bod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae ein hymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy wedi'i adlewyrchu yn ein cyfeiriad strategol sy'n cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol fel un o'n strategaethau galluogi .

Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol
‘Prifysgol Fwy Cynaliadwy’ – Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018-2023 (Ail-lunio 2020)
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Environmental sustainability action plan - Welsh
Cynllun gweithredu 2018-2023.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae datblygiad cynaliadwy'r Brifysgol yn un o gyfrifoldebau'r Rhag Is-Ganghellor. Rydym yn gweithio'n agos â'n cynrychiolwyr gwyrdd undeb llafur sydd wedi'u henwebu a'n cynrychiolwyr myfyrwyr ar draws ein holl bwyllgorau Prifysgol. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr ac undeb llafur yn ymwneud â datblygu ac ymgynghori ein holl bolisïau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd.
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau neu os hoffech wybodaeth bellach am gynaliadwyedd yn y Brifysgol cysylltwch ar bob cyfri.