Nodau Datblygu Cynaliadwy
Rydym wedi ein rhestru yn un o'r sefydliadau gorau yn y byd am ein hymrwymiad i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Glasbrint cyffredin yw’r 17 o Nodau hyn, a fabwysiadwyd gan aelod-wladwriaethau yn 2015, i fynd i’r afael â heriau byd-eang allweddol gan gynnwys diraddio amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb rhyw ac economaidd a thlodi ac afiechyd.
Mae Rhestr Effaith 2023 y THE yn gosod Caerdydd yn y 52ain safle o blith 1,591 o sefydliadau ledled y byd – cynnydd sylweddol ar ein safle yn 2022 pan roedd Caerdydd yn y band 101-200 o blith 1,410 o sefydliadau.
Eleni, rydyn ni wedi ein rhestru yn y 50 uchaf ar gyfer pedwar Nod:
- 6ed am fywyd o dan y dŵr
- 11eg am fywyd ar y tir
- 24ain ym maes defnydd a chynhyrchu cyfrifol
- 31ain am iechyd a lles da
Rydym yn y brif safle ymhlith sefydliadau addysg uwch yn y DU am iechyd a lles da a bywyd o dan y dŵr.
Gweler canlyniadau llawn Rhestr Effaith 2023 y THE.
Ein gwaith
Mae modd gweld ein hymrwymiad i'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ein gwaith ym mhob rhan o'r brifysgol. Dysgwch ragor am rywfaint o'n gwaith yn cefnogi'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Gwreiddio cynaliadwyedd yn y cwricwlwm ffisiotherapi

Mae myfyrwyr ffisiotherapi yn eu blwyddyn olaf yn archwilio'r cysylltiad rhwng iechyd y blaned ac iechyd y cyhoedd.
A hithau’n seiliedig ar Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, mae cyfres o ddarlithoedd ac adnoddau’n annog myfyrwyr ffisiotherapi yn eu blwyddyn olaf i archwilio sut mae cysylltiad anorfod rhwng iechyd y blaned ag iechyd y cyhoedd. Mae'r sesiynau'n rhoi sylw i faterion fel cyfrifoldeb personol a bod yn fodel rôl, y rhwymedigaethau proffesiynol i ystyried effaith ymarfer clinigol ar yr amgylchedd a'r dylanwadau amgylcheddol ar iechyd y cyhoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Caiff y myfyrwyr eu hannog hefyd i ystyried sut y gallant fod yn eiriolwyr dros gleifion/poblogaethau o ran gwella amgylcheddau lleol neu fyw mewn ffordd gynaliadwy er mwyn ehangu hygyrchedd a chynwysoldeb. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu wrth weithio mewn grwpiau i ddatblygu ymyriad iechyd cyhoeddus a chynllun busnes cysylltiedig sy’n canolbwyntio’n arbennig ar gynaliadwyedd.
O 2023 ymlaen, bydd y pynciau hyn yn cael eu gwreiddio ymhellach yn y rhaglenni MSc Ffisiotherapi ac MSc Therapi Galwedigaethol (cyn-cofrestru) newydd ac yn archwilio sut mae anghydraddoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol yn effeithio ar ganlyniadau iechyd. Bydd prosiectau grŵp cydweithredol rhyngbroffesiynol yn ystyried NDCau o safbwynt iechyd cyhoeddus i gynnig atebion ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gofal iechyd mewn ardaloedd lleol yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig wedi gwneud prosiect grŵp rhyngbroffesiynol a chynaliadwyedd fel cysyniad craidd yn rhan o’r rhaglen.
Erbyn hyn, mae tair carfan o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf wedi cael profiad o’r modiwl sy’n rhoi sylw i’r pwnc hwn, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Dywedodd un myfyriwr: "Rwyf bob amser wedi credu ym mhŵer trawsnewidiol gwleidyddiaeth i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus, ac rwy'n obeithiol y byddaf yn cael y cyfle mewn ychydig flynyddoedd i gymryd rhan uniongyrchol yn y broses honno drwy fy ngwaith fel ffisiotherapydd cymwys." Dywedodd un arall: "Mae wir wedi fy ysgogi a’m hannog i wneud mwy gan fod cymaint o newidiadau y gellir eu gwneud i wella bywyd ac iechyd bob dydd yn sylweddol."
Pobl

Jill Morgan
Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (UG) & Uwch-Ddarlithydd : Ffisiotherapi
- morganj63@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 206 87991
Mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd drwy ddyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Archwilio datrysiadau cyfrifiadura i amrywiaeth o faterion cynaliadwyedd.
Fel rhan o'u cwrs, rhoddir cyfle i fyfyrwyr yn ein Hysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddewis pwnc sy'n gysylltiedig â mater cymdeithasol ac archwilio ystod o atebion cyfrifiadurol i fynd i'r afael â'r mater o bosibl. Gan fod newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn bryderon mawr i lawer o fyfyrwyr, mae'r modiwl hwn wedi denu llawer o gynigion gan fyfyrwyr i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae prosiectau wedi canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys plannu coed cymunedol, adrodd tanau gwyllt mewn coetiroedd, cynyddu nifer y peillwyr, lleihau tipio anghyfreithlon, ailgylchu dillad ysgol a chefnogi banciau bwyd. Mae pob un o'r atebion y mae myfyrwyr yn eu cynnig yn cael eu prototeipio a'u profi gan ddefnyddio dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ganolbwyntio ar y defnyddwyr terfynol a'u hanghenion ym mhob cam o'r broses ddylunio.
I fyfyrwyr ym maes cyfrifiadureg, mae wastad wedi bod yn her gweld cymwysiadau ac effeithiau peirianneg meddalwedd yn y byd go iawn. Mae'r modiwl hwn yn cynnig profiad byd go iawn, uniongyrchol i fyfyrwyr o sut y gallant ddefnyddio eu sgiliau i fynd i'r afael â materion cymdeithasol.
Mae adborth myfyrwyr wedi adlewyrchu hyn, gydag un myfyriwr yn gwneud sylwadau: "Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa rolau pwysig sydd gan wyddonwyr cyfrifiadurol wrth fynd i'r afael â materion cymdeithasol." Dywedodd myfyriwr arall: "Dysgais sgiliau gwych yn y modiwl hwn megis arsylwi ar bobl, siarad a gwrando ar bobl, dadansoddi ymddygiad pobl pan fyddant yn rhyngweithio â chyfrifiaduron ac yn bwysig, sut i adeiladu offer cyfrifiadura gyda phobl ac ar eu cyfer."
Pobl
Ymyriadau yn y carchar i droseddwyr Mwslimaidd

Mae Ymyriadau yn y Carchar i Droseddwyr Muslimaidd (PRIMO) yn dylunio ac yn treialu tri chwrs cysylltiedig er mwyn helpu carcharorion i adeiladu bywydau llwyddiannus o'u dewisiadau ffydd yn y carchar.
Nod y prosiect yw sicrhau gwelliant parhaus a phrofedig yn y ffordd y mae Islam yn effeithio ar fywyd yn y carchar er lles cynaliadwy bywydau carcharorion ac ar gyfer gwybodaeth a lles gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.
Mae'r tri chwrs y mae'r prosiect yn eu treialu yn cynnwys:
- cwrs deuddeg awr o addysg Islamaidd i garcharorion i'w helpu i ddefnyddio'u ffydd i newid eu bywydau.
- modiwl chwe awr o hyfforddiant i swyddogion carchar i'w helpu i nodi'r gwahaniaeth rhwng ffurfiau cynhyrchiol a dinistriol o ffydd yn y carchar
- cwrs o ddeugain awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus i gaplaniaid carchar Mwslimaidd i gefnogi eu gwaith bugeiliol gyda charcharorion a'u dealltwriaeth o fywyd carchar a ffydd
Mae'r prosiect yn defnyddio'r syniad Qur'anig o'r Stiward Mwslimaidd sy'n gofalu amdano'i hun, eraill a'r amgylchedd fel delfryd graidd Fwslimaidd ar gyfer y cyrsiau hyn.
Mae PRIMO yn cael ei gefnogi a'i arwain gan dîm o'r radd flaenaf o ymarferwyr cyfiawnder troseddol, ffigurau o’r gymuned Mwslimaidd, diwinyddion blaenllaw a throseddegwyr. Ariennir PRIMO yn annibynnol gan Ymddiriedolaeth Dawes.
Pobl

Yr Athro Matthew Wilkinson
Professor of Religion in Public Life
- wilkinsonm8@caerdydd.ac.uk
- + 44 (0) 7930 413 841
Dyfodol cynaliadwy i safleoedd treftadaeth ddiwydiannol

Mae myfyrwyr yn ein Hysgol Pensaernïaeth yn ymgysylltu â chymunedau lleol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer hen safleoedd diwydiannol.
Crëwyd uned 'Gorffennol Carbon, Dyfodol Carbon Isel' i fyfyrwyr Pensaernïaeth yn eu pumed flwyddyn yn dilyn y galw ymhlith myfyrwyr am uned ddylunio sy’n ystyried themâu ôl-osod, ailddefnyddio mewn ffordd addasol a bod yn gynaliadwy. Mae briff yr uned yn galw ar y myfyrwyr i gynnig ffyrdd o sicrhau dyfodol cynaliadwy i safleoedd treftadaeth ddiwydiannol, gan gynnwys ffyrdd o’u defnyddio sy’n rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol. Yn 2021/22, roedd y ffocws ar bwll glo The Navigation yng Nghrymlyn, Cwm Ebwy. Eleni, yn 2022/23, mae’r ffocws ar bwll glo Cefn Coed yng Nghwm Dulais.
Mae’r myfyrwyr yn cael eu herio i ystyried sut y gall y safleoedd hyn, sy’n rhannol gyfrifol am yr argyfwng hinsawdd presennol, ysgogi dyfodol carbon isel i’r ardal leol ac ehangach, a hynny drwy ystyried yr economi gylchol a ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni geothermol enthalpi isel. Roedd ymwneud Pennaeth Arloesedd Gwres a Sgil-gynnyrch yr Awdurdod Glo o gymorth i’r myfyrwyr wrth ymdrin â’r olaf.
Cafodd y dyluniadau o 2021/22 eu dangos mewn arddangosfa ar y safle, a gwahoddwyd y gymuned leol, gwleidyddion, llunwyr polisïau a’r cyhoedd ehangach i ddod i weld y cynigion. Dewisodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru waith yr uned gyfan i’w gyflwyno ar gyfer Medal Llywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
Mae'r uned wedi codi proffil ailddefnyddio mewn ffordd addasol, ôl-osod a pha mor bwysig yw carbon ymgorfforedig nid yn unig ymhlith y myfyrwyr ond hefyd ar draws MArch2 a’r Ysgol ac yn y gymuned leol ehangach drwy’r arddangosfa.
“Roedd y cyfle i ddangos ein gwaith yng nghyd-destun ein safle’n anhygoel,” meddai un o'r myfyrwyr. “Roedd gallu ymgysylltu â thrigolion Crymlyn a’r cyngor lleol, gyda strwythurau diwydiannol gorffennol carbon Crymlyn yn gefnlen i’r cyfan, o gymorth o ran creu cysylltiad gweledol a chyd-destunol gwych â’n prosiectau arfaethedig ar gyfer dyfodol carbon isel.”
Roedd adborth ymwelwyr ar yr arddangosfa hefyd yn gadarnhaol: “Pleser o'r mwyaf oedd gweld cyflwyniadau terfynol y myfyrwyr yn yr arddangosfa – gwaith gwirioneddol ardderchog! Roedd y dadansoddiad beirniadol o waith y myfyrwyr ac amrywiaeth yr ymateb i friff prosiect mor berthnasol, amserol a heriol yn rhywbeth i’w gymeradwyo!”
Pobl
Darllenwch ein hadroddiad cryno i ddysgu rhagor am ein gwaith tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy:

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig 2021
Adroddiad am ein gwaith tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ein tîm Cynaliadwyedd Amgylcheddol sy’n arwain y gwaith o gyflwyno tystiolaeth i ddangos sut rydyn ni’n bodloni pob un o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Dyma nhw:

Dr Julie Gwilliam
Dean of Postgraduate Studies College of Physical Sciences & Engineering
- gwilliamja@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5977
Dr Katrina Henderson
Environmental Safety Adviser
Darllenwch ein polisïau amgylcheddol i ddysgu sut rydym yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein gweithrediadau.