Amdanom ni
Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth feiddgar a strategol wedi ein lleoli mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Mae ein hymchwil o'r radd flaenaf yn y 5ed safle ymysg prifysgolion yn y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ar gyfer ansawdd ac ail ar gyfer dylanwad. Rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr.
Wedi ein gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd, rydym yn ymdrechu i gyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, i Gymru, ac i'r byd.

Y Ffordd Ymlaen: ein cyfeiriad strategol
Ein huchelgais yw bod ymhlith y 100 o brifysgolion gorau’r byd a’r 20 uchaf yn y DU. Darllenwch ragor am ein cyfeiriad strategol a’n pwyslais ar ymchwil, addysg a myfyrwyr, rhyngwladol a’n cenhadaeth ddinesig.
Our academics and researchers have won many honours and awards in recognition of their innovations and discoveries.

Datblygiadau'r campws
Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.
We are dedicated to promoting equality across the University and our whole community benefits from having a diverse and talented student population.