Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Gymreig

Gwyliwch fideo Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg

Rydym yn sefydliad Cymreig sydd â golwg fyd-eang, a'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead ein prifysgol.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg yn ein holl weithgareddau, gan sicrhau bod y Gymraeg wedi'i hymgorffori yn ein hunaniaeth, ein gweithrediadau, ein cymunedau a’n harferion dydd i ddydd mewn ffordd sy'n cynnwys ein holl staff a’n myfyrwyr.

Rydym yn cofleidio'r Gymraeg

Caerdydd yw prifddinas a chanolfan lywodraethol a gweinyddol democratiaeth newydd Cymru, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei hieithoedd swyddogol.

Mae’n ddinas ifanc, ddeinamig a byd-eang ei gorwelion, sydd wedi ei hadeiladu ar gymunedau mewnfudol o bob cornel o’r byd, pob cornel o’r DU, a phob cornel o Gymru. Mae’r Gymraeg, y Saesneg a llu o ieithoedd rhyngwladol yn rhan annatod o’i hunaniaeth.

Enw ein strategaeth gynhwysol ar gyfer y Gymraeg yw Yr Alwad/Embrace It. Mae'n ymrwymiad ac yn wahoddiad, ac mae'n adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg sydd eisoes ar waith. Ein prif amcanion yw:

people

Nifer myfyrwyr

Cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dewis ein darpariaeth achrededig Gymraeg a dwyieithog a rhagori ar dargedau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n cymryd 5 neu 40 credyd o ddarpariaeth Gymraeg y flwyddyn.

academic-school

Addysgu

Ehangu a mireinio ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg arloesol, pwrpasol ac ansawdd uchel, gan adlewyrchu a bywiogi ein hunaniaeth unigryw fel Prifysgol.

location

Cynnig Caerdydd

Datblygu Cynnig Caerdydd ar gyfer ein myfyrwyr, sef profiad dwyieithog unigryw, deinamig ac uchelgeisiol.

building

Campws Cymraeg

Datblygu’r Campws Cymraeg er mwyn ymgorffori diwylliant Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr.

scroll

Ymchwil

Datblygu cymuned ymchwil Cymraeg ac iddo wyneb cyhoeddus.

Mae'r strategaeth yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol diffiniedig, sy'n ategu ac yn gwella dyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.

Mae'n ymgorffori nid yn unig dargedau ar gyfer ein sefydliad. Mae'n ymgorffori dyheadau llywodraeth a phobl Cymru, fel y mynegwyd yn Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Darllenwch strategaeth y Gymraeg

Rydym yn sefydliad Cymraeg

Mae'r Gymraeg wedi'i gwreiddio yng ngwead ein prifysgol. Mae ein Campws Cymraeg - sy'n ymestyn i'r gymuned - yn dal ynghyd y gwahanol agweddau ar fywyd Cymraeg sy'n rhan o'n profiad fel myfyrwyr a staff o fewn a thu hwnt i'r Brifysgol.

Academi Gymraeg

Dyma sefydliad o fewn Prifysgol Caerdydd sy’n cysylltu’r rhai sy’n ymwneud â’r Gymraeg – boed yn fyfyrwyr, yn staff neu’n rhanddeiliaid allanol.

Bydd yr Academi yn gweithio ar draws gwasanaethau addysgol, proffesiynol ac agweddau allgyrsiol yn y Brifysgol, gan adlewyrchu amcanion ehangach: sefydliad o Gymru sydd â golwg fyd-eang, mewn dinas gosmopolitaidd a chyfeillgar, amlieithog ac amlddiwylliannol.

Yr Academi Gymraeg

Rydym yn hyrwyddo'r Gymraeg

I sicrhau bod y Gymraeg wedi'i hymgorffori yn ein hunaniaeth, ein gweithrediadau, ein cymunedau a’n harferion dydd i ddydd byddwn yn creu amgylchedd gynhwysol i'n holl staff a’n myfyrwyr.

Mae gennym dros 40 o Hyrwyddwyr y Gymraeg ymhlith ein staff. Mae rôl Hyrwyddwr y Gymraeg yn cynnwys:

  • helpu i ddatblygu canllawiau sy'n cefnogi a hwyluso gwasanaethau dwyieithog effeithiol i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd
  • hyrwyddo arferion gorau a chodi ymwybyddiaeth am faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg
  • cymryd rôl flaenllaw yn cyfathrebu a datblygu cynlluniau gweithredu i bob adran yn y Brifysgol.

Cyfle i astudio yn Gymraeg

people

1000 o fyfyrwyr

Mae dros 1000 o fyfyrwyr yn astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.

certificate

100 cwrs

Rydym yn cynnig hyd at 100 o gyrsiau gradd sydd naill ai'n cynnig rhai neu'r cyfan o'u modiwlau yn Gymraeg.

globe

Datblygu sgiliau a chyflogadwyedd

Rydym yn meithrin y rhagoriaeth ymchwil ac addysgu a'r cysylltiadau cyflogwyr sy'n sail ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog medrus ar draws sectorau allweddol yng Nghymru.

Mae nifer fawr o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn astudio gyda ni. Gall myfyrwyr ddewis cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg neu sefyll arholiadau yn Gymraeg.

Rydym yn gartref i Gangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn cynnig rhaglen Cymraeg i Bawb.

Llysgenhadon

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae cangen Caerdydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu hyfforddiant a chyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.

Welsh students

Astudio yn y Gymraeg

Bydd astudio yn y Gymraeg yn ehangu eich gorwelion gyrfaol ac astudio tra hefyd yn eich cyflwyno i fyd newydd yn y brifysgol a thu hwnt

Magu diwylliant academaidd Cymraeg

Mae ein strategaeth yn ymrwymiad i wynebu'r her gyffredinol o feithrin ac ehangu diwylliant deallusol mewn iaith genedlaethol, ochr yn ochr â diwylliant academaidd Angloffon byd-eang.

Fel hyn, mae datblygu Prifysgol Caerdydd fel prifysgol ddwyieithog ac amlieithog yn ein cysylltu â phrifysgolion ledled y byd, gan ddwysáu ein persbectif eangfrydig a'n rhinweddau byd-eang, gan ein llywio, o anghenraid, tuag at orwelion byd-eang.

Cefnogi ein dyheadau cyfunol

Rydym yn datblygu ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy'n cefnogi ac yn ehangu mae nodau y brifysgol y maent yn ymwneud â'n cenhadaeth ddinesig, rhagoriaeth addysg ac ymchwil, recriwtio, ehangu cyfranogiad, cynaladwyedd, a'n heffaith fel gweithredwr cymdeithasol trawsnewidiol.