Ewch i’r prif gynnwys

Campws

Mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o'n gwerthoedd, a’n nod yw ei wneud yn nodwedd amlwg o’n gwaith.

Er mwyn gwreiddio cynaliadwyedd yn y Brifysgol, byddwn yn:

  • galluogi ein graddedigion a'n staff i ddod yn ddinasyddion cynaliadwy sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas
  • sicrhau bod datblygu cynaliadwy’n ystyriaeth allweddol wrth wneud penderfyniadau ar lefel uwch

Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth (ERBAP)

Mae Pwyllgor Llywio’r ERBAP wedi paratoi cynllun ar gyfer datblygu cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth ar draws campysau Prifysgol Caerdydd.

Mae'r ERBAP yn seiliedig ar asesu a gwella'r pum nodwedd a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datblygu cydnerthedd ecosystemau: amrywiaeth, graddfa, cyflwr, cysylltedd ac addasrwydd ecosystemau (DECCA).

Yn ogystal, mae’r ERBAP yn ymgorffori'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: integreiddio, cydweithio, ymgysylltu, hirdymor ac atal.

Datblygwyd yr ERBAP ar y cyd â Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau synergedd rhwng y ddau sefydliad i gyrraedd ein targedau ar gyfer cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth. Dyma waith ar y cyd sy’n defnyddio adnoddau ac arbenigedd cymuned gyfan Prifysgol Caerdydd: staff academaidd a'r gwasanaethau proffesiynol, israddedigion ac ôl-raddedigion.

Mae’r ERBAP yn nodi cyfres o amcanion i'w cyflawni dros y cyfnod o dair blynedd, o 2021 i 2023.

Amcanion yr ERBAP

  1. Nodweddu'r fioamrywiaeth a chyflwr cynefinoedd naturiol ar draws campysau Prifysgol Caerdydd
  2. Pennu'r strategaethau rheoli mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal a chadw, adfer a gwella ystadau gwyrdd y Brifysgol – bydd y rhain yn seiliedig ar egwyddorion lleihau, adfer a gwella mannau gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth
  3. Cyflwyno rhaglen fonitro er mwyn gwerthuso effaith arferion rheoli ar wasanaethau ecosystemau a bioamrywiaeth
  4. Ymgysylltu ag aelodau o’r staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned sy’n byw o amgylch Prifysgol Caerdydd a’u paratoi ar gyfer cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ERBAP a bod yn hyrwyddwyr cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth

Newid Camau Caerdydd

Mae Newid Camau Caerdydd yn gynllun gwobrwyo sy’n ceisio annog teithio llesol a chynaliadwy. Drwy ddefnyddio ap o’r enw BetterPoints, gall staff a myfyrwyr y Brifysgol gasglu pwyntiau am deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Gellir cyfnewid y pwyntiau am dalebau, eu gwario ar gynigion neu eu rhoddi i gefnogi prosiectau bioamrywiaeth ar draws y campws.

Bydd 100% o'r arian sy’n cael ei roddi’n mynd i brosiectau Grŵp Llywio’r ERBAP er mwyn helpu i symud ei gynllun ar gyfer datblygu cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth ar draws campysau Prifysgol Caerdydd yn ei flaen.

Rheoli carbon

Rydym wrthi’n paratoi Cynllun Rheoli Carbon Dros Dro 2021-2023 i adlewyrchu ein datganiad argyfwng hinsoddol.

Yn 2013, gwnaethom gytuno ar Gynllun Rheoli Carbon i leihau ein hallyriadau carbon. Yn rhan o’r cynllun hwn, mae ein perfformiad yn cael ei fonitro’n gyson er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau. Mae prosiectau i leihau ein hôl troed carbon yn cynnwys:

  • gosod goleuadau effeithlonrwydd uchel a systemau synhwyro
  • gosod systemau gwresogi hynod effeithlon
  • uwchraddio deunydd insiwleiddio
  • defnyddio technolegau arbed dŵr
  • lleihau effaith ein technoleg ar yr amgylchedd
  • defnyddio technoleg i leihau effeithiau eraill ar yr amgylchedd

Teithio cynaliadwy

Mae ein Cynllun Teithio’n nodi ym mha feysydd y gallwn weithio gyda’n gilydd i leihau ein hôl troed carbon, cyfrannu at les hirdymor a helpu Cymru i sicrhau dyfodol carbon isel.

Rydym yn annog ein staff a’n myfyrwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n teithio i ymweld â Phrifysgol Caerdydd, i deithio mewn ffordd gynaliadwy.

Mentrau ar draws y Brifysgol

Mae mentrau cynaliadwyedd ar waith yn rheolaidd i helpu i reoli carbon yn y Brifysgol.

Rydym yn annog ailddefnyddio poteli dŵr a mygiau. Mae dŵr yfed ar gael yn rhad ac am ddim ar draws y Brifysgol, a hynny o ffynhonnau yfed yn ein hadeiladau a’n caffis/bwytai.

LEAF

Lansiwyd gweithrediad LEAF (Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordy) ym mis Tachwedd 2022. Mae'r fenter yn dilyn yr un egwyddorion â rhaglen Effaith Werdd ond mae'n canolbwyntio ar gamau gweithredu cynaliadwy ar gyfer labordai. Mae canllawiau lleol wedi'u hysgrifennu ac mae adnoddau wedi’u datblygu. Bydd hyn yn helpu'r Brifysgol i gydymffurfio â’n hymrwymiadau ar gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net o ran carbon. Dechreuodd y rhaglen yn wreiddiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain a bellach mae'n cael ei chyflwyno ar draws y DU.

Mae gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen gwblhau llyfr gwaith gyda'r nod o gael achrediad Efydd, Arian ac Aur y naill ar ôl y llall. Mae gan bob lefel nifer o gamau gweithredu i ddefnyddwyr labordy eu cyflawni er mwyn arbed gwahanol adnoddau gan gynnwys plastigion, dŵr ac ynni. Y nod yn y pen draw yw lleihau allyriadau carbon labordy a chreu diwylliant sy'n cefnogi safon yr ymchwil. Ymhlith y meysydd eraill sy’n rhan o LEAF y mae effeithlonrwydd cyfarpar, caffael, rheoli cemegol, a theithio at ddibenion busnes. Dylai labordai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â leaf@cardiff.ac.uk.

Wythnos Cynaliadwyedd

Yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth bob blwyddyn yw’r Wythnos Cynaliadwyedd. Mae digwyddiadau a sesiynau ymarferol yn cael eu cynnal i annog ein staff a’n myfyrwyr i fod yn fwy cynaliadwy yn eu bywyd.

OVObike yng Nghaerdydd

Rydym yn falch o gefnogi’r cynllun OVObike yng Nghaerdydd, a lansiwyd ym mis Mai 2018. Rhagor o wybodaeth am OVObike

Campws addas i ddraenogod

Yn rhan o’r ERBAP, rydym bellach wedi ymuno â’r cynllun achredu Campws Addas i Ddraenogod. Dyma raglen bioamrywiaeth genedlaethol ar gyfer prifysgolion ac, yn fwy diweddar, ysgolion a cholegau. Cafodd ei sefydlu gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain mewn partneriaeth ag SOS-UK.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth rhad ac am ddim i aelodau o’r staff a myfyrwyr sydd am gymryd camau ystyrlon i drawsnewid campysau’r Brifysgol yn gynefinoedd diogel i ddraenogod a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Papur wedi’i ailgylchu 100%

Rydym yn defnyddio papur wedi’i ailgylchu 100% ar gyfer gwaith argraffu a llungopïo cyffredinol yn y Brifysgol. Rydym hefyd yn ceisio nodi ffyrdd o leihau effaith gwaith argraffu arbenigol ar yr amgylchedd.