Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol cynaliadwy i safleoedd treftadaeth ddiwydiannol

Mae myfyrwyr yn ein Hysgol Pensaernïaeth yn ymgysylltu â chymunedau lleol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer hen safleoedd diwydiannol.

Crëwyd uned 'Gorffennol Carbon, Dyfodol Carbon Isel' i fyfyrwyr Pensaernïaeth yn eu pumed flwyddyn yn dilyn y galw ymhlith myfyrwyr am uned ddylunio sy’n ystyried themâu ôl-osod, ailddefnyddio mewn ffordd addasol a bod yn gynaliadwy. Mae briff yr uned yn galw ar y myfyrwyr i gynnig ffyrdd o sicrhau dyfodol cynaliadwy i safleoedd treftadaeth ddiwydiannol, gan gynnwys ffyrdd o’u defnyddio sy’n rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol. Yn 2021/22, roedd y ffocws ar bwll glo The Navigation yng Nghrymlyn, Cwm Ebwy. Eleni, yn 2022/23, mae’r ffocws ar bwll glo Cefn Coed yng Nghwm Dulais.

Mae’r myfyrwyr yn cael eu herio i ystyried sut y gall y safleoedd hyn, sy’n rhannol gyfrifol am yr argyfwng hinsawdd presennol, ysgogi dyfodol carbon isel i’r ardal leol ac ehangach, a hynny drwy ystyried yr economi gylchol a ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni geothermol enthalpi isel. Roedd ymwneud Pennaeth Arloesedd Gwres a Sgil-gynnyrch yr Awdurdod Glo o gymorth i’r myfyrwyr wrth ymdrin â’r olaf.

Cafodd y dyluniadau o 2021/22 eu dangos mewn arddangosfa ar y safle, a gwahoddwyd y gymuned leol, gwleidyddion, llunwyr polisïau a’r cyhoedd ehangach i ddod i weld y cynigion. Dewisodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru waith yr uned gyfan i’w gyflwyno ar gyfer Medal Llywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Mae'r uned wedi codi proffil ailddefnyddio mewn ffordd addasol, ôl-osod a pha mor bwysig yw carbon ymgorfforedig nid yn unig ymhlith y myfyrwyr ond hefyd ar draws MArch2 a’r Ysgol ac yn y gymuned leol ehangach drwy’r arddangosfa.

“Roedd y cyfle i ddangos ein gwaith yng nghyd-destun ein safle’n anhygoel,” meddai un o'r myfyrwyr. “Roedd gallu ymgysylltu â thrigolion Crymlyn a’r cyngor lleol, gyda strwythurau diwydiannol gorffennol carbon Crymlyn yn gefnlen i’r cyfan, o gymorth o ran creu cysylltiad gweledol a chyd-destunol gwych â’n prosiectau arfaethedig ar gyfer dyfodol carbon isel.”

Roedd adborth ymwelwyr ar yr arddangosfa hefyd yn gadarnhaol: “Pleser o'r mwyaf oedd gweld cyflwyniadau terfynol y myfyrwyr yn yr arddangosfa – gwaith gwirioneddol ardderchog! Roedd y dadansoddiad beirniadol o waith y myfyrwyr ac amrywiaeth yr ymateb i friff prosiect mor berthnasol, amserol a heriol yn rhywbeth i’w gymeradwyo!”

Pobl