Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn datgan argyfwng yr hinsawdd

29 Tachwedd 2019

Image of Cardiff University main building.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi datgan bod argyfwng o ran yr hinsawdd, ac wedi cyhoeddi ei nod i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Bydd Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol newydd yn goruchwylio a chydlynu'r modd y mae'r Brifysgol yn  ymateb i argyfwng yr hinsawdd.

Mae’r Brifysgol hefyd ei bod wedi rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosi yn llwyrl - flwyddyn yn gynnar - gan alinio ein penderfyniadau buddsoddi â’n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Yn sgîl y datganiad heddiw, rydym yn llais ychwanegol yn yr ymateb byd-eang i argyfwng yr hinsawdd.

"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein llais yn cael ei glywed yn rhan o'r frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gan dynnu ar ein hymchwil arloesol er mwyn dylanwadu ar drafodaethau, camau gweithredu ac atebion o ran argyfwng yr hinsawdd.

"At hynny, rhaid i ni arwain drwy esiampl a chynyddu ein cynlluniau i ostwng ein hallyriadau carbon a faint o ynni a dŵr a ddefnyddiwn, a newid ein gweithgareddau gweithrediadol.

“Mae rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn llwyr yn anfon neges glir a chadarnhaol ein bod yn ymrwymo i fuddsoddi’n gyfrifol, cyfrifoldeb cymdeithasol a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd."

Gwyddwn fod y meysydd hyn yn bwysig i'n staff, ein myfyrwyr a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r ymdrech fyd-eang i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein planed a phawb sy'n byw arni.

Yr Athro Colin Riordan

Penodwyd yr Athro Mike Bruford, cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy'r Brifysgol, yn Ddeon Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol er mwyn gyrru'r datganiad a'r agenda cynaliadwyedd yn ei blaen.

Bydd yr Athro Bruford yn adeiladu ar fomentwm gweithrediadol cadarnhaol y Brifysgol – yn cynnwys gostyngiad o 41% yn y poteli dŵr gafodd eu gwerthu drwy'r gwasanaeth arlwyo ers 2017/18 – drwy ddatblygu ei strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol, a chyflawni'r strategaeth honno.

At hynny, bydd yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth ynghylch ymchwil yn uniongyrchol i staff, myfyrwyr a'r gymuned yn fwy eang, gan wneud yn siŵr ei bod yn llywiogweithgareddau'r Brifysgol ei hun.

Yn ôl yr Athro Bruford: "Mae argyfwng yr hinsawdd yn gofyn am ymateb brys, ac o hyn ymlaen, rydym yn bwriadu mynd ati i weithredu mewn modd gwahanol.

"Mae'n rhaid i ni fynd ati'n gyflym. Yn y Brifysgol drwyddi draw, mae yna enghreifftiau o ymchwil arloesol, mewnwelediadau newydd a gwyddoniaeth sy'n torri tir newydd. Ymhlith hynny mae gwaith y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol – y ganolfan gyntaf sy'n gosod pobl wrth wraidd y trawsnewidiad sylfaenol sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd."

At hynny, mae ein cymuned o staff a myfyrwyr wedi cynnig syniadau ysbrydoledig ynghylch y modd rydym yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhaid i ni harneisio hynny a chydweithio, i'n helpu i symud ymlaen o wneud y datganiad hwn, i gynllun gweithredu cynhwysfawr.

Dros y flwyddyn nesaf, caiff nifer o bolisïau'r Brifysgol eu hadolygu er mwyn annog gostyngiad mewn allyriadau.

At hynny, mae'r Brifysgol yn cynnal rhaglen beilot ar gyfer ailgoedwigo ym Morneo, i helpu staff, myfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd i liniaru eu hôl-troed carbon o ganlyniad i hediadau angenrheidiol.

Aildyfu Borneo yw'r prosiect cyntaf o'i fath yn unrhyw un o Brifysgolion y DU, ac mae'n fenter ar y cyd rhwng Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy y Brifysgol, ei Chanolfan Maes Danau Girang yng nghoedwig law Kinabatangan, Malaysia a'r cyrff anllywodraethol lleol, KOPEL a HUTAN.

Mae Aildyfu Borneo'n caniatáu i roddwyr fuddsoddi ym mentrau plannu coed y gymuned leol, â'r nod o adfer coedwigoedd glaw sydd wedi teneuo a helpu i achub rhywogaethau sydd mewn perygl.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: "Rydym wedi ymrwymo i fod ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd, ac nid yw Aildyfu Borneo'n eithriad o gwbl. Er ein bod yn anelu at ostwng ein hediadau cymaint â phosibl, mae'r rhaglen hon yn caniatáu i ni uno ein hymchwil amgylcheddol arloesol â'n huchelgais o gynnig pob cyfle i'n cymuned i wneud penderfyniadau cynaliadwy, er mwyn helpu i ostwng y carbon yn yr atmosffer."

Drwy ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd, mae’r Brifysgol wedi ymuno â sefydliadau ar draws y byd, a llofnodi Llythyr Hinsawdd Byd-eang (ar 29Tachwedd), sy'n cydnabod yr angen am newid agwedd i raddau helaeth o fewn cymdeithas, er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o ran y newid yn yr hinsawdd.

Mae hefyd wedi alinio ei thargedau â pholisi Llywodraeth Cymru o wyro'r economi oddi wrth danwyddau ffosil a chreu sector cyhoeddus sy'n garbon niwtral erbyn 2030, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, â'r nod o wneud Cymru'n fwy gwydn a chyfrifol ar lefel fyd-eang, a chreu dyfodol sy'n fwy cynaliadwy ar gyfer ein myfyrwyr presennol, a myfyrwyr y dyfodol.

Yn ôl Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: “Bydd yr ymchwil flaenllaw a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd - o adeiladu carbon isel i wyddoniaeth sy’n annog ffyrdd carbon isel o fyw - yn gwbl hanfodol yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd ar gymryd y cam beiddgar hwn heddiw a gobeithio bydd eraill yn dilyn eu hesiampl i gyflymu eu taith eu hunain i allyriadau sero-net.”

Rhannu’r stori hon

Archwiliwch ein sefydliadau, canolfannau a grwpiau i ddysgu sut mae ein hymchwil yn ymateb i faterion cynaliadwyedd.