Dirprwy Is-Ganghellor

Yr Athro Damian Walford Davies yw'r Dirprwy Is-Ganghellor.
Mae'r Dirprwy Is-Ganghellor yn gweithio'n agos gyda'r Is-Ganghellor a'r Rhag Is-Gangellorion thematig a cholegol i roi arweiniad i'r Brifysgol a chyflawni nodau ein strategaeth. Mae'r Athro Walford Davies yn dirprwyo ar ran yr Is-Ganghellor pan fo angen ac mae'n aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae'r Athro Walford Davies yn gyfrifol am:
- Yr holl strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a materion iechyd, lles a diogelwch sy'n ymwneud â staff a myfyrwyr;
- Prosesau a pholisïau sy'n ymwneud â chynllunio strategol;
- Gweithredu strategaethau a phrosiectau ystâd y Brifysgol;
- Polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud a datblygiad cynaliadwy'r Brifysgol, gan gynnwys cynaladwyedd amgylcheddol, cymdeithasol, academaidd ac ariannol;
- Cysylltu â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC);
- Cysylltu â Llywodraeth Cymru;
- Prosesau a pholisïau sy'n ymwneud â llywodraethu corfforaethol;
- Arweinyddiaeth prosiectau penodol o bwysigrwydd strategol i'r Brifysgol.
Mae'r Athro Walford Davies hefyd wedi arwain dau o brif brosiectau cyfalaf y Brifysgol – Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a sbarc ǀ spark – parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.
Mae hefyd yn goruchwylio diwylliant a strategaeth Gymraeg y Brifysgol. Dyma’r hyn a ddywedodd:
“Rydym wedi creu strategaeth sy’n weledigaeth o ddiwylliant Cymraeg ar y campws ar draws ein holl weithgareddau – ac mae perthnasedd y diwylliant hwnnw yn cael ei gyfrif drwy gyfeirio at werthoedd cysylltu â’n gilydd, amrywiaeth, cynaliadwyedd, lles, dealltwriaeth ddiwylliannol a'n dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol.”
Gwasanaethodd yr Athro Walford Davies fel Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (2018-2021) ac fel Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (2014-2018). Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd cyntaf Llenyddiaeth Cymru – un o saith cwmni celfyddydol cenedlaethol Cymru (2012-2018) – ac fel Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Caerdydd (2015-18). Mae'n Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Pwyllgorau a grwpiau'r Brifysgol
Mae'r Athro Walford Davies yn cadeirio nifer o bwyllgorau a grwpiau, gan gynnwys:
- Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
- Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Grŵp Llywio Portffolio Ystadau a Seilwaith
- Grŵp Llywio Portffolio Campws Arloesedd Caerdydd
- Fforwm Ymgynghorol a Negodi ar y Cyd (gydag undebau'r campws)
- Grŵp Gweithredol y Gymraeg
- Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles
- Pwyllgor Diswyddiadau
- Grŵp Llywodraethu Modelu Llwyth Gwaith
- Pwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol
Cyhoeddiadau ac ymchwil
Prif faes ymchwil yr Athro Walford Davies yw Rhamantiaeth, yn enwedig y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn oes y chwyldro. Mae ei gyhoeddiadau wedi datblygu dull creadigol-feirniadol o ymdrin â'r pwnc. Mae ei ddiddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys:
- ddiwylliannau materol ehangach y cyfnod Rhamantaidd
- Hanesyddiaeth Rhamantaidd a methodolegau Astudiaethau Rhamantaidd
- Rhamantiaeth a daearyddiaeth/cartograffeg
- Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg
- Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif
- Ysgrifennu Creadigol, yn enwedig barddoniaeth ac ekphrasis/gair-a-delwedd, ynghyd â'r rhyngwynebau rhwng y cyfnodau a'r disgyblaethau hyn.
Mae ei waith diweddar yn cynnwys y casgliad cyd-olygu Romantic Cartographies (Cambridge UP, 2020); y casgliad golygedig Counterfactual Romanticism (Manchester UP, 2019); ac erthyglau ar Coleridge, llongddrylliad a thrawma ac ar drafodaethau creadigol-feirniadol Keats gyda'r clefyd a'i laddodd. Mae'n cwblhau'r gyfrol derfynol ar y cyd o Hanes Llenyddol Rhydychen Cymru, y mae'n Olygydd Cyffredinol iddi, a rhifyn Caergrawnt o nofel Thomas Love Peacock, The Misfortunes of Elphin (1829). Mae ei gasgliadau barddonol yn cynnwys Witch (2012), Judas (2015) a Docklands (2019), i gyd wedi'u cyhoeddi gan Seren. Mae hefyd yn cwblhau llyfr ffeithiol creadigol, The Ground, sy'n tyrchu’n greadigol i bum cae cyfagos ym Mro Morgannwg, a 'bywgraffiad barddonol' o'r seiclwr Eidalaidd mawr, Gino Bartali (1914-2000), enillydd y Tour de France ddwywaith (1938 a 1948).
Manylion cyswllt
Cynorthwy-ydd Personol
Emma Fisher
- Ebost: dvc-pa@caerdydd.ac.uk