Swyddogion Cydymffurfio Amgylcheddol
Y rôl
- I weithredu fel cyswllt rhwng yr uned OSHE a’r Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol.
- I fod yn aelod ex-officio o Bwyllgor Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd yr Ysgol/Coleg/ Gwasanaeth Proffesiynol.
- I gadw dogfennau amgylcheddol yn ymwneud â System Rheoli SHE yr Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol (gan gynnwys: adnabod agweddau amgylcheddol a chynhwysiant o fewn HAZMAP, cymryd rhan mewn gosod
- amcanion a thargedau Ysgol/Coleg/Cyfarwyddiaeth, cynnal cofrestr amgylcheddol Ysgol/Cyfarwyddiaeth).
- I ddilyn rhaglen briodol o ran datblygu gan gynnwys cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth fel bod safon briodol o wybodaeth cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei gynnal.
- I ddarparu cyngor cyffredinol cynaliadwyedd amgylcheddol, neu lle y bo'n briodol i gyfeirio aelodau o’r Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol at yr uned OSHEW.
- I ledaenu gwybodaeth am gynaliadwyedd amgylcheddol ac adroddiadau i aelodau priodol o staff a myfyrwyr yr Ysgol/Coleg/ Gwasanaeth Proffesiynol.
- Gweithio gyda Grŵp Llywio EMS y Brifysgol wrth roi amcanion a thargedau cynaliadwyedd Amgylcheddol ar waith.
- Gweithredu fel cyswllt ar gyfer gwybodaeth a hyfforddiant sy'n ymwneud ag ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang).
- Cysylltu gyda Phwyllgor Diogelwch yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol i adolygu gweithdrefnau cynaliadwyedd amgylcheddol yn yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol.
Yr amser a awgrymir ar gyfer rolau ECO yw 1-2 awr yr wythnos gan ddibynnu ar faint yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol.