Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Sefydliad Cowrie

Mae Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie yn dymuno ariannu 100 o fyfyrwyr Du Prydeinig i astudio ym mhrifysgolion Prydain dros y degawd nesaf.

Dyddiad cau: 3 Mai 2024, 12:00 (hanner dydd, GMT)
Swm: hyd at £8,000 ar gyfer pob blwyddyn

Pwrpas yr ysgoloriaeth hon yw bod yn gymorth i ymgeiswyr o dreftadaeth Ddu Affricanaidd a Charibïaidd o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol sy’n cael eu tangynrychioli sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, trwy’r radd israddedig prifysgol o’u dewis.

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig:

  • ffioedd dysgu cartref y Deyrnas Unedig a hefyd bwrsariaeth ar gyfer cynhaliaeth o hyd at £8,000 ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs
  • cefnogaeth drwy raglen fentoriaeth Cowrie

Rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaeth Sefydliad Cowrie.

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i chi fodloni'r holl feini prawf canlynol i gael eich ystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth hon:

  1. Rydych yn nodi eich bod yn perthyn i un o'r grwpiau ethnig canlynol:
    • Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd
    • Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd
    • Cymysg – Gwyn a Du Caribïaidd
    • Cymysg – Gwyn a Du Affricanaidd
    • Cefndir Du arall
  2. Rydych angen bod wedi derbyn y lle sydd wedi’i gynnig i chi ar eich rhaglen radd israddedig amser llawn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, erbyn y dyddiad cau UCAS perthnasol, ac mae’r astudiaethau’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2024/25
  3. Rydych wedi cael eich asesu ar gyfer statws ffioedd fel myfyriwr 'cartref'
  4. Mae incwm eich cartref yn £25,000 y flwyddyn neu lai
  5. Rydych wedi gwneud cais i'ch awdurdod ariannu myfyrwyr rhanbarthol am gymorth ariannol a asesir gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer myfyrwyr addysg uwch
    • Yr awdurdodau ariannu myfyrwyr rhanbarthol yw: Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Cyllid Myfyrwyr Cymru, Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban.
    • Bydd gennych gadarnhad y byddwch yn derbyn cymorth ariannol llawn ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Gofalwch eich bod yn ystod eich cais am gyllid myfyrwyr wedi rhoi caniatâd i rannu'r wybodaeth â Phrifysgol Caerdydd, gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i benderfynu ar gymhwysedd.

Sut mae gwneud cais

Er mwyn ein helpu i ddod i'ch adnabod chi, byddwn yn gofyn i chi am ddatganiad personol o ddim mwy na 700 o eiriau. Dylai hyn gynnwys:

  • pam y byddai'r ysgoloriaeth o fudd i'ch astudiaethau
  • sut y byddai'n eich helpu i gyflawni eich nodau academaidd
  • sut y byddai eich addysg o fudd i'ch cymuned a/neu’ch cymdeithas yn y dyfodol
  • y cyflawniadau, yn academaidd ac yn bersonol, yr ydych yn fwyaf balch ohonynt (gallai hyn gynnwys goresgyn amgylchiadau personol heriol)

Byddwn hefyd yn gofyn rhai cwestiynau safonol (er enghraifft, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, enw eich ysgol, ac ati) ac yn edrych ar ble rydych yn byw a mesurau eraill o heriau addysgol, y cyfeirir atynt yn aml fel metrigau economaidd-gymdeithasol.

Gwiriwch eich bod yn gymwys cyn gwneud cais. Gellir tynnu dyfarniadau'n ôl os byddwn yn cael gwybod yn ddiweddarach nad yw myfyrwyr wedi bodloni meini prawf cymhwysedd neu eu bod wedi cyflwyno gwybodaeth ffug.

Cyflwynwch eich cais yma

Lawrlwythwch y Ddogfen Ganllawiau ar gyfer Cais.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 3 Mai 2024, 12:00 (hanner dydd, GMT). Sylwer bod y brifysgol yn cadw'r hawl i ddirwyn y broses gwneud cais i ben cyn y dyddiad hwn, ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.

Bydd panel o gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd yn asesu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer. Bydd y rhestr fer yn cael ei hanfon at Sefydliad Ysgoloriaeth Cowrie a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae penderfyniad y panel yn derfynol, ac nid oes yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Bydd ymgeiswyr yn clywed am ganlyniad y cais ar ôl 15 Awst 2024, erbyn wythnos gyntaf Medi 2024.

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau i outreach@caerdydd.ac.uk.