Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Plant Aberfan

Darperir yr ysgoloriaeth hon o rodd a wnaed gan Gymdeithas Gymreig San Francisco er cof am y plant a laddwyd yn nhrychineb Aberfan ym 1966.

Dyddiad cau: 1 Mehefin 2024
Gwerth: hyd at £1,500 o gyllid am hyd at dair blynedd.

Nod yr ysgoloriaeth hon yw annog pobl ifanc sy'n byw ac yn astudio yn Aberfan i fynd i'r brifysgol.

Bod yn gymwys

Rydych yn gymwys os ydych:

  • *Yn berson ifanc o oedran ysgol, yr oedd ei rieni yn byw yn Aberfan adeg y trychineb, neu os nad oes ymgeisydd cymwys, yn berson o oedran ysgol sy’n byw ym Merthyr Tudful.

Yn y ddau achos, byddwn yn dewis yr ymgeisydd llwyddiannus yn ôl y drefn ganlynol:

  • a) Ymgeiswyr sy'n bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd ar gyfer eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau israddedig.
  • a) Ymgeiswyr sy'n bwriadu mynd i unrhyw brifysgol arall yng Nghymru ar gyfer eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau israddedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth oddeutu £1,500 y flwyddyn, yn amodol ar yr arian sydd ar gael. Gellir rhannu'r swm hwn rhwng dau neu fwy o ymgeiswyr sy’n gymwys. Bydd yr Ysgoloriaeth yn para am hyd at dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

Rhagor o wybodaeth ar wefan Y Werin.

Gwnewch gais nawr

Llenwch y ffurflen gais a’r dasg greadigol a ddychwelwch y ffurflen drwy’r post at:

Cronfa Waddol Y Werin
Cofrestrfa Prifysgol Cymru
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NS

Ysgoloriaeth Plant Aberfan Ffurflen Gais

Ffurflen gais