Cymru
Gwiriwch y wybodaeth ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi i gael gwybodaeth am gyllid.
Dyma'r cyllid sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i ddechrau cwrs ym mis Medi 2023.
Os ydych yn byw yng Nghymru gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian i dalu costau byw.
Benthyciad ffioedd dysgu
Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,000 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu (yn wahanol i weddill y DU, lle gellir codi hyd at £9,250 mewn ffioedd dysgu, £9,000 yw uchafswm y ffioedd yng Nghymru). Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.
Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sydd uwch na £27,295 y flwyddyn (yn dibynnu ar delerau ac amodau).
Cyllid ar gyfer costau byw
Bydd yr holl fyfyrwyr cymwys sydd fel arfer yn byw yng Nghymru cyn cychwyn ar eu cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu cael uchafswm o £11,720 y flwyddyn o gyllid cynhaliaeth (os ydynt yn byw i ffwrdd o gartref eu rhieni) i'w helpu i dalu eu costau byw.
Bydd £1,000 cyntaf y cyllid cynhaliaeth hwn ar gael fel grant di-brawf-modd nas telir yn ôl. Golyga hyn y bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant o £1,000 ni waeth beth yw incwm yr aelwyd.
Bydd y £10,720 sy’n weddill ar gael naill ai fel grant cynhaliaeth, benthyciad cynhaliaeth, neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar brawf modd yng nghyswllt incwm y cartref.
Golyga hyn y bydd myfyrwyr cymwys, sy'n byw i ffwrdd o gartref eu rheini, yn gallu cael hyd at £11,720 o gyllid cynhaliaeth. Disgwylir i'r cyllid helpu myfyrwyr i dalu costau eu llety, bwyd, teithio a chostau byw cyffredinol.
Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:
Cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2023/24
Incwm y cartref | Grant cynhaliaeth | Benthyciad cynhaliaeth | Cyfanswm cymorth cynhaliaeth |
---|---|---|---|
£18,370 | £8,100 | £3,620 | £11,720 |
£25,000 | £6,947 | £4,773 | £11,270 |
£35,000 | £5,208 | £6,512 | £11,270 |
£45,000 | £3,469 | £8,251 | £11,720 |
£59,200 (+) | £1,000 | £10,720 | £11,720 |
Os byddwch yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich astudiaethau, £9,950 yw cyfanswm yr arian cynhaliaeth sydd ar gael. Bydd y £1,000 cyntaf ar gael o hyd fel grant, ni waeth beth fo incwm y cartref, a bydd y £8,950 sy’n weddill ar gael naill ai fel grant cynhaliaeth, benthyciad cynhaliaeth, neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar brawf modd yng nghyswllt incwm yr cartref.
Bydd yr arian cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn Adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.
Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru cyn i chi gyrraedd y Brifysgol neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.
Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Arian ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd
Yn ogystal â'r cyllid uchod, gallech fod yn gymwys i gael Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.
Costau byw yng Nghaerdydd
Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd fel myfyriwr israddedig amser llawn.
Ad-dalu benthyciadau
Mae’r cyhoeddiad polisi cyllido Addysg Uwch Llywodraeth y DU, sydd am newid telerau ad dalu benthyciad myfyrwyr, yn effeithio myfyrwyr sydd yn cychwyn astudio o’r flwyddyn 2023/24 ymlaen ag yn byw yn Lloegr cyn cychwyn eu cwrs. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau o dan y drefn bresennol am flwyddyn arall.
Os byddwch yn cael benthyciad ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth, bydd y rhain yn cael eu cyfuno i fod yn un swm y byddwch yn ei ad-dalu ar ôl gadael eich cwrs. Byddwch yn atebol i ad-dalu unrhyw fenthyciadau rydych chi wedi eu cymryd yn y mis Ebrill cyntaf ar ôl i chi adael eich cwrs.
Ni fyddwch yn dechrau gwneud ad-daliadau nes bydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £27,295 y flwyddyn ar hyn o bryd, £2,274 y mis neu £524 yr wythnos yn y DU. Os bydd eich incwm yn mynd yn is na'r trothwy ad-dalu, bydd ad-daliadau'n dod i ben a dim ond pan fydd eich incwm yn uwch na’r trothwy eto y byddwch yn ailddechrau ad-dalu. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar unrhyw adeg.
Bydd pob myfyriwr yn atebol ar gyfer y benthyciad am 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill ar ôl gorffen ei gwrs. Os oes balans sy'n weddill ar ôl 30 mlynedd, bydd hyn yn cael ei ddileu.
Os ydych yn derbyn grant cynhaliaeth, nid oes rhaid i chi ad-dalu hyn.
Llog ar eich benthyciadau
Codir llog ar unrhyw fenthyciad a gewch, yn dechrau ar yr adeg pan fyddwch yn ei dderbyn (benthyciad cynhaliaeth) neu pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar eich rhan (benthyciad ffioedd myfyrwyr) nes y byddwch wedi talu eich benthyciad yn llawn, neu caiff unrhyw falans ei ddileu.
Ar hyn o bryd, mae’r cyfradd llog wedi ei gapio ar 6.3% APR ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.
Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch sut y codir llog ar eich benthyciad myfyrwyr ar wefan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Cost ad-daliadau
Ar hyn o bryd, mae ad-daliadau ar fenthyciadau israddedig wedi’u pennu ar gyfradd o 9% o’ch incwm sydd dros £27,295 y flwyddyn.Fel arfer, caiff ad-daliadau eu cymryd o’ch cyflog drwy’r system dreth. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol.
Edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint fyddai’r ad-daliadau misol:
Eich incwm blynyddol (cyn treth) | Amcan o'r ad-daliad misol |
---|---|
£25,000 | £0 - cyflog yn is na'r trothwy |
£29,000 | £12.79 |
£32,000 | £35.29 |
£35,000 | £57.79 |
£45,000 | £132.79 |
Cynllun Canslo Benthyciadau Cymru
Os cawsoch Fenthyciad Cynhaliaeth gan y Cwmni Cyllid Myfyrwyr o'r flwyddyn 2010/11 ymlaen, gall Llywodraeth Cymru wedi ganslo hyd at £1,500 o'ch dyled myfyriwr. Cewch ragor o wybodaeth gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Sut i wneud cais am gyllid
Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am eu cyllid. Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs agor mis Mawrth 2023.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrywr:
Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr
Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac anfeirniadol am ddim am gyllid, ysgoloriaethau, bwrsariaethau, rheoli eich arian a mwy.