Ffrangeg ac Eidaleg (BA)
- Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
- Côd UCAS: RR31
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Treuliwch flwyddyn dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.
Wedi'i deilwra i’ch gallu
Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.
Ffrangeg ac Eidaleg yn eu cyd-destun
Dysgwch am ieithoedd a diwylliannau Ffrainc a’r Eidal yn y gymdeithas, gan gynnwys: hanes, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.
Rhyddid i ddewis
Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.
Anogwch eraill i ddysgu ieithoedd
Ysbrydolwch eraill drwy gymryd rhan mewn cynlluniau Myfyrwyr sy’n Llysgennad Iaith a Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw galluogi ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Mae ein graddedigion yn ieithyddion medrus iawn sydd â nifer o sgiliau sy’n eu galluogi nhw i weithio mewn llu o yrfaoedd a phroffesiynau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae ein rhaglen BA Ffrangeg ac Eidaleg (sydd â phwyntiau mynediad ar gyfer dechreuwyr ac ar ôl Safon Uwch) yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau iaith lefel uchel, a deall Ffrainc, siaradwyr Ffrangeg a diwylliant yr Eidal yn drylwyr o safbwynt rhyngddiwylliannol. Trwy dreulio blwyddyn dramor yn gweithio, yn astudio neu’n addysgu Ffrangeg ac Eidaleg, byddwch yn mireinio eich iaith, eich sgiliau rhyngddiwylliannol ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich CV mewn marchnad swyddi sy’n chwilio am raddedigion sydd â sgiliau iaith dramor cryf.
Mae Ffrangeg ac Eidaleg yn brif ieithoedd y byd sy’n cael eu defnyddio ym mhedwar ban byd. Mae Ffrangeg ac Eidaleg yn ddwy o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. Trwy astudio Ffrangeg ar y cyd ag Eidaleg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith. Bydd hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi, yn eich gwneud yn atyniadol mewn gweithlu cynyddol ryngwladol ac yn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd mewn Ffrangeg ac Eidaleg, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes siaradwyr Ffrangeg ac Eidaleg yn dibynnu ar eich meysydd arbenigol.
Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn Eidaleg Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Os oes gennych radd 6 yn yr iaith berthnasol ar Lefel Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.
Os oes gennych radd B yn yr iaith berthnasol ar lefel Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.
Lefel T
M mewn Lefel T mewn unrhyw bwnc.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb mewn ac addasrwydd ar gyfer y radd, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae BA Ffrangeg ac Eidaleg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.
Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor, un semester yn Ffrainc neu wlad arall lle siaredir Ffrangeg, ac yn yr Eidal neu wlad arall lle siaredir Eidaleg yn y semester arall.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch yn cyfuno Ffrangeg ag Eidaleg, gan eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio.
Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Ffrangeg ac Eidaleg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am y Ffrangeg neu Eidaleg.
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.
Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw'n iaith sy'n eich cyflwyno i ddatblygiad Ffrainc a'r Eidal fel cenhedloedd, gan archwilio'r hyn y mae'r ddwy wlad wedi'i symboleiddio i wahanol grwpiau ar wahanol adegau mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas Ffrainc a’r Eidal â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Ffrainc a’r Eidal y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
National and Global Perspectives on France | ML6187 | 20 Credydau |
Introduction to Italian Studies in a Transnational Context | ML8179 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced French Language Year 1 | ML6188 | 40 Credydau |
Beginners French Language Year 1 | ML6189 | 40 Credydau |
Advanced Italian Language (Year 1) | ML8188 | 40 Credydau |
Beginners Italian Language Year 1 | ML8189 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.
Yn ogystal â 30 credyd mewn Ffrangeg ac Eidaleg, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar Ffrainc a/neu’r Eidal mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio Ffrangeg ac Eidaleg yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Bydd gennych hefyd y dewis o astudio 30 o gredydau Cyfieithu Arbenigol ac Iaith Busnes.
Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn rhoi israddedigion mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion ac yn eu hannog i ystyried ieithoedd tramor modern wrth ddewis eu hopsiynau TGAU.
Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr (SLA), sy'n gweithredu fel eiriolwr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ex-Beginners Language Year 2 French | ML6280 | 30 Credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 French | ML6281 | 30 Credydau |
Ex-Beginners Language Year 2 Italian | ML8280 | 30 Credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 Italian | ML8281 | 30 Credydau |
Introduction to Specialised Translation | ML2201 | 30 Credydau |
The World & Language of Business (French Ex-Beginners) | ML6279 | 30 Credydau |
Cultures in Context (French) | ML6282 | 30 Credydau |
The World & Language of Business (French) | ML6283 | 30 Credydau |
Whose 'culture' is it anyway? Identity, Power and Memory in C20th Italy | ML8283 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir eich trydedd flwyddyn yn Ffrainc neu mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg ac yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant Ffrengig ac Eidalaidd a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.
Mae eich opsiynau ar gyfer eleni yn cynnwys astudio yn un o'n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol, neu weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig neu'r Eidalaidd. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf ysbrydoledig yr Eidal, gan gynnwys Florence, Milan, Trieste, Verona a Fenis. Mae'n well gan eraill brofi bywyd ynys, gan weithio neu astudio yn Sardinia neu Sisili. O ran cyfnod siarad Ffrangeg y flwyddyn, mae myfyrwyr wedi astudio mewn dinasoedd Ffrengig gan gynnwys Paris, Toulouse, Chambéry, Grenoble, Lyon, Clermont-Ferrand, Montpellier a Nantes ac mae rhai o'n myfyrwyr wedi treulio eu blwyddyn dramor ym Mrwsel, Genefa a Quebec.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sandwich Year Project (Autumn Semester) | ML1240 | 60 Credydau |
Sandwich Year Project (Spring Semester) | ML1241 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French, Spring) | ML6091 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French, Spring) | ML6093 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French) | ML6097 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French) | ML6099 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (Italian, Spring) | ML8091 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (Italian, Spring) | ML8094 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (Italian) | ML8097 | 60 Credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (Italian) | ML8099 | 60 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd iaith Ffrangeg a 30 credyd iaith Eidaleg, yn ychwanegol at 60 credyd mewn modiwlau dewisol. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig.
Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl Addysgu Myfyrwyr poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.
Mae'r modiwl yn caniatáu i chi fynd i ysgolion uwchradd lleol ac addysgu disgyblion sy'n dysgu ieithoedd tramor. Byddwch yn cael cyfle i arsylwi addysgu gan weithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a chynhyrchu deunyddiau dysgu newydd. Mae hyn yn ei dro yn gwella eich sgiliau TGCh, cyflwyno, paratoi a threfnu ac, yn y pen draw, eich cyflogadwyedd. Mae'r myfyrwyr hynny sy'n dymuno mynd i yrfa mewn addysgu yn cael profiad gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i fwydo i mewn i'w cais TAR. Mae'r myfyrwyr hyn hefyd yn cael y cyfle i gymryd sesiwn hyfforddiant pwrpasol (dewisol) ar gyfer ceisiadau TAR gydag arbenigwr yn y maes.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in French Language | ML6366 | 30 Credydau |
High-Level Proficiency in Italian Language | ML8366 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960s | ML1360 | 30 Credydau |
Student Teaching Module | ML1363 | 30 Credydau |
Global Narratives of Colonialism, Slavery & Their Legacies | ML1365 | 30 Credydau |
Final Year Dissertation - French (in English/Welsh) | ML6262 | 30 Credydau |
Final Year Dissertation - French (in French) | ML6361 | 30 Credydau |
The French Avant-Garde: From Art to Revolution | ML6370 | 30 Credydau |
Final Year Dissertation - Italian (in Italian) | ML8362 | 30 Credydau |
Final Year Dissertation - Italian (in English/Welsh) | ML8363 | 30 Credydau |
Italian Women's Writing | ML8364 | 30 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae ein rhaglen BA Ffrangeg ac Eidaleg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.
Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.
Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.
Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym swyddog gweinyddol ymroddedig cymorth i fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.
Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.
Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau.
Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).
Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor hyd at lefel uchel o gymhwysedd.
- Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg.
- Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
- Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
- Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
- Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
- Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
- Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
- Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
- Gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
- Dadansoddi testunau cymhleth.
- Dehongli a defnyddio data perthnasol.
- Sgiliau ymchwil ymarferol.
- Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
- Sgiliau ieithyddol uwch, ynghyd â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliannau a llenyddiaeth Ffrainc a’r Eidal.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
- Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
- Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
- Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Gwybodaeth arall
Beth yw barn cyflogwyr am y Rhaglen hon?
Fel rhan o’r gwaith cynllunio’r cwricwlwm, ymgynghorodd yr ysgol â sefydliadau cyflogwyr ar y nodweddion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw mewn graddedigion. Roedd cyflogwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a gallu i ysgrifennu’n dda yn Saesneg, sydd, ill dau, yn ddeilliannau dysgu allweddol ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â datblygu sgiliau iaith uwch a'r gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint fel eu bod, ar ôl graddio, yn cymryd amser i barhau i deithio neu maen nhw'n mynd dramor i weithio.
Mae ein graddedigion yn ffynnu yn y farchnad swyddi y gwelir yn ein hystadegau cyflogaeth. Mae eu graddau iaith yn eu harwain i ystod amrywiol a chyffrous o yrfaoedd sydd wedi cynnwys cyllid, rolau cyswllt rhyngwladol ym maes chwaraeon, ymgynghoriaeth busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth, diplomyddiaeth, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, y gyfraith ac addysgu.
Lleoliadau
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.