Ewch i’r prif gynnwys

Geowyddorau Amgylcheddol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)


Blwyddyn Mynediad

Mount Teide Tenerife

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Wedi’i achredu’n broffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Ddaearegol, y corff proffesiynol ar gyfer y geowyddorau yn y DU.

globe

Blwyddyn dramor

Dysgwch wrth i chi deithio a phrofi tirweddau neu arfordiroedd, addysg a diwylliant gwlad wahanol gyda'r cyfle i gwblhau blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor.

mortarboard

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol

Nid oes angen i chi fod wedi astudio Daeareg i ddilyn y cwrs hwn. Rydym yn dechrau gyda'r pethau sylfaenol i ddod â phawb i'r un lefel.

star

Cysylltiadau lleol

Wedi'i leoli yn yr un adeilad â swyddfa Gymraeg Arolwg Daearegol Prydain a drws nesaf i Amgueddfa Cymru.

location

Cyfleoedd gwaith maes

Rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes gorfodol yn rhan o ffioedd y cwrs.

A oes gennych chi feddwl chwilfrydig? Ydych chi wedi'ch swyno gan sut mae'r Ddaear yn gweithio? Mae geowyddonyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth o'r blaned a'i phrosesau i ragweld peryglon fel llifogydd a daeargrynfeydd, i lanhau gwastraff peryglus, a helpu peirianwyr sifil i gynllunio ar gyfer adeiladu ffyrdd, twneli neu adeiladau newydd. 

Ar ein cwrs Geowyddoniaeth Amgylcheddol, byddwch yn archwilio gwahanol brosesau sy'n digwydd ar ein planed fel glaw asid a chynhesu byd-eang ac yn dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau daearegol yn y DU ac o amgylch y byd. Byddwch yn datblygu sgiliau uwch mewn mapio, ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau. 

Mae gan Dde Cymru hanes daearegol cyfoethog ac mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgu sut mae daeareg yn effeithio ar dirweddau a diwydiant. Rydym yn trefnu teithiau maes rheolaidd i ardaloedd o harddwch naturiol a hen safleoedd diwydiannol a mwyngloddio. Bydd cyfleoedd i fynd ar deithiau tramor, ac yn y gorffennol rydym wedi bod i Tenerife a Chyprus.

Ar y rhaglen pedair blynedd hon, gallwch dreulio un flwyddyn academaidd yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan ddysgu'r gwahanol arddulliau ac ymagweddau at eich pwnc mewn gwlad arall ac archwilio amgylcheddau ffisegol, tirweddau ac arfordiroedd newydd. Mi gewch gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd o bob cwr o'r byd. Hefyd, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau bywyd a chryfderau a fydd yn eich helpu i gystadlu mewn gweithle cynyddol fyd-eang, megis gallu i addasu, dyfeisgarwch a gwytnwch.

Rydym wedi gweithio gyda diwydiant i ddylunio ein gradd fel eich bod yn graddio gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fod yn geowyddonydd amgylcheddol proffesiynol. 

Does angen i chi fod wedi astudio Daeareg gan y byddwn yn dechrau ym mlwyddyn un gyda’r egwyddorion sylfaenol i sicrhau bod pawb ar yr un lefel.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daeareg a'r geowyddorau

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth HL) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth HL). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Bydd angen i chi dalu am fodiwlau gwaith maes dewisol. Bydd cost y teithiau hyn yn cael ei gapio ar swm a bennir gan yr ysgol.

Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys costau teithio a ffioedd gwneud cais am fisa. Mae cymorth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau tramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn darparu bwrsariaeth i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad tramor.  Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau pan fyddwch yn ystyried eich opsiynau blwyddyn astudio dramor.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd. Yn eich blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn geowyddoniaeth amgylcheddol. Ym mlwyddyn pedwar mae modiwlau craidd a dewisol felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt . Treulir blwyddyn tri yn astudio yn un o'n sefydliadau partner mewn gwlad arall. 

Mae'n ofynnol i chi gyflawni marc cyfartalog o 60% ym Mlwyddyn 1 er mwyn symud ymlaen i wneud cais am leoliad astudio dramor.  Os na wnewch hynny, cewch eich trosglwyddo i'r rhaglen gyfwerth â 3 blynedd heb y flwyddyn astudio dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Byd Amgylcheddau DynamigEA130020 Credydau
Archwilio Planet EarthEA130120 Credydau
GIS, Mapiau a Sgiliau DadansoddolEA130320 Credydau
Gwaith Maes Gwyddoniaeth y DdaearEA130420 Credydau
Deunyddiau'r DdaearEA130620 Credydau
Hanes Bywyd a'r DdaearEA130720 Credydau

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Blwyddyn Astudio DramorEA3300120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Environmental Geoscience student by waterfall
Environmental Geoscience students are able to gather lots of data in the field, before using in-house software to create reports

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a byddwch yn cael eich cefnogi a'ch addysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn y byd sy'n ymwneud ag ymchwil ryngwladol flaengar.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Byddwch yn cael eich annog hefyd i ddysgu'n annibynnol trwy gydol y cwrs. Rydym yn eich annog i feddwl yn rhesymegol a chymhwyso hyn i broblemau amgylcheddol. Mae galw mawr am y sgiliau y byddwch chi'n eu dysgu mewn sectorau fel peirianneg sifil ac amgylcheddol, yswiriant, cyflenwad dŵr ac ymgynghori.

Bydd sut y cewch eich dysgu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr. Byddwch yn edrych yn fanwl ar ddulliau addysgu yn eich sefydliad cynnal ac yn trafod y rhain gyda Chyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol fel rhan o'ch proses ymgeisio a'ch cytundeb dysgu Astudio Dramor.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Tiwtor Personol i chi y byddwch yn cwrdd ag ef yn rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Gall eich Tiwtor Personol gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn pedwar, dyrennir goruchwyliwr i chi hefyd ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Bydd cefnogaeth academaidd ar gyfer y flwyddyn astudio dramor yn cael ei darparu i chi yn ystod eich ail flwyddyn gan Gyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol Gwyddorau Ddaear ac Amgylcheddol a chyngor ar gynllunio gan gydweithwyr yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang. Rhoddir cyngor ynghylch dewis prifysgol, nodau'r flwyddyn, rheoliadau academaidd a dewis modiwl gan y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, a fydd ar gael i drafod syniadau, pryderon a phroblemau â chi.

Mae Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang i'ch helpu i wneud cais i'r brifysgol gynnal, i roi cyngor ar gyllid, fisâu a'r holl drefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Bydd Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu sesiwn cyn gadael ac yn darparu pecyn cyn gadael a fydd yn cynnwys arweiniad defnyddiol. Bydd aelodau staff y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn cwrdd â chi i adolygu a chytuno ar eich cyrsiau dramor fel rhan o’r proses o gadarnhau eich Cytundeb Dysgu Astudio Dramor.  Bydd hyn yn gyfle i adolygu'r dulliau addysgu, y deilliannau dysgu ac asesu yn y brifysgol bartner a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn briodol i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes dulliau asesu sy'n newydd i chi, byddwn yn eich helpu i baratoi ar eu cyfer.

Un o ofynion y modiwl Blwyddyn Astudio Dramor yw eich bod yn cwblhau cyfnodolyn myfyriol ar-lein ac yn cwrdd i drafod hyn yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hwn yn gyfarfod misol strwythuredig a gofynnol gyda'ch Tiwtor Personol ym Mhrifysgol Caerdydd i'ch galluogi i adolygu cynnydd eich astudiaeth ac i godi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu anghenion. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Tiwtor Personol neu'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn ôl yr angen.  Bydd gennych fynediad at holl adnoddau ar-lein llawn Prifysgol Caerdydd a'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr tra byddwch dramor.  Mae gwasanaethau cymorth cynhwysfawr Undeb y Myfyrwyr hefyd ar gael i chi gydol yr amser. 

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio gyda chi a gyda'u cyswllt yn y Sefydliad Partner i ddatrys unrhyw broblemau gyda'r Sefydliad partner ei hun, gan fanteisio ar gymorth Global Opportunities lle mae partneriaethau Prifysgol gyfan, fel sy'n briodol.

Mae pob prifysgol bartner o statws tebyg i Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol Caerdydd, ac mae ganddynt drefniadau ar gyfer cefnogaeth academaidd a bugeiliol, felly mi gewch gefnogaeth ychwanegol trwy drefniadau gofal academaidd a bugeiliol eich prifysgol gynnal.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Pan yn bosibl, bydd darlithoedd yn cael eu recordio fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan y wefan Dysgu Canolog hefyd fodiwl ‘Cynllunio Datblygiad Personol’ sy’n eich cefnogi chi wrth asesu eich cynnydd a diwallu eich anghenion datblygu’n rheolaidd.

Gwasanaethau cymorth

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. . Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-Environmental-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).    

Sut caf fy asesu?

Byddwn yn asesu eich lefel o wybodaeth a dealltwriaeth ym mhob modiwl drwy gyfuniad o aseiniadau, cyflwyniadau, gwaith maes, arholiadau a thraethawd hir. Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ac ar lafar ar eich gwaith cwrs a cheir cyfleoedd i gael adborth anffurfiol drwy gydol y cwrs.

SYLWER: Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anableddau ac rydym yn ymdrechu i gynnig dulliau asesu amgen rhesymol lle bo hynny’n bosibl.   Mae gennym Bolisi Gwaith Maes Amgen a fabwysiadir mewn achosion lle na all myfyriwr fynychu cwrs maes wedi'i drefnu, a addysgir, neu ran(nau) ohono, oherwydd anabledd neu amgylchiadau esgusodol.

Bydd sut y cewch eich asesu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr.  Bydd y marciau a enillir o'ch holl gredydau yn eich sefydliad cynnal yn cael eu hadolygu gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi a'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol.  Mae'r marciau'n cael eu coladu a'u trosi'n un marc Prifysgol Caerdydd cyfatebol ar gyfer y modiwl Blwyddyn Astudio dramor 120 credyd.  Bydd hyn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio offeryn trosi marciau'r Brifysgol. Bydd y marc hwn yn cyfrif pwysiad o 10% wrth gyfrifo cyfartaledd eich gradd.  Byddwch yn trafod y fethodoleg trosi graddau gyda'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol i sicrhau eich bod yn ei deall yn popeth cyn i chi gadarnhau eich cytundeb dysgu Blwyddyn Astudio Dramor, gan na fyddwch yn gallu ei herio yn nes ymlaen.

Bydd gofyn i chi gwblhau cyfnodolyn myfyriol yn ystod eich Blwyddyn Astudio Dramor a thrafod hwn yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni amcanion dysgu astudio dramor o werthuso'ch profiad eich hun, gan nodi heriau a buddion eich blwyddyn dramor a chymharu a chyferbynnu astudiaeth eich pwnc yn eich sefydliad cynnal â'r un ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ni fydd unrhyw farc am y gwaith hwn ac ni fydd yn cyfrif tuag at eich canlyniad eich modiwl na’ch gradd.  Bydd trafod eich cyfnodolyn myfyriol gyda'ch Tiwtor Personol bob mis hefyd yn sicrhau eich bod yn parhau mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd ac yn cael cefnogaeth yr Ysgol, a bydd yn gyfle i chi godi unrhyw bryderon neu anghenion o fewn gweithgaredd gofynnol.    

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.  

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gaffael, integreiddio a syntheseiddio gwybodaeth i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth ym maes gwyddorau'r ddaear
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o strwythur y Ddaear, ei deunyddiau, ei ffurfiau bywyd a'i hadnoddau a'r prosesau sy'n ei siapio ar hyn o bryd a thrwy amser daearegol.
  • Y gallu i esbonio'r rôl ac effaith gwyddorau daear wrth ddatrys heriau amgylcheddol y 21ain ganrif megis newid yn yr hinsawdd, geoberyglon a chynaliadwyedd ynni, dŵr ac adnoddau naturiol eraill i ddiwallu anghenion poblogaeth y byd.
  • Y gallu i egluro pwysigrwydd cymhwyso geowyddoniaeth mewn cynllunio trefol a datblygu ac adfywio seilwaith.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Deall a gwerthuso’n feirniadol dystiolaeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i asesu a ffurfio datrysiadau i broblemau aml-ran cymhleth mewn gwyddorau daear.
  • Y gallu i gydosod a gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol er mwyn cynhyrchu a dehongli setiau data mewn 2D, 3D a 4D i ffurfio modelau daear cysyniadol realistig fel offeryn i archwilio adnoddau, echdynnu a rheoli cynaliadwy.
  • Y gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn y gwyddorau daear, gyda gwerthfawrogiad cymesur o ansicrwydd a thrafodaeth a therfynau ar ddealltwriaeth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

 Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i adnabod a dehongli creigiau, mwynau a ffosiliau i bennu eu perthnasoedd daearegol ac ail-greu hanes unrhyw sampl / brigiad / rhanbarth penodol sy'n cael ei astudio.
  • Dealltwriaeth o'r dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn 2D a 3D gan ddefnyddio mapiau a phlatfformau digidol fel GIS, ac adeiladu modelau daear cysyniadol.
  • Dadansoddi a chyfleu data rhifiadol mewn gwyddorau daear, gan gynnwys defnyddio meddalwedd briodol.
  • Datrys problemau sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data gwyddor daear amrywiol ac sy’n aml yn anghyflawn a defnyddio methodolegau ansoddol a meintiol priodol.
  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a chynnal rhaglen ymchwil maes neu labordy yn ddiogel ac adrodd yn ysgrifenedig ar y canfyddiadau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

 Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Yr hyblygrwydd, y gwytnwch, yr agwedd meddwl agored a'r gallu i edrych ar bwnc o wahanol safbwyntiau, y gellir ei ennill yn y flwyddyn astudio dramor.
  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a rheoli prosiect trwy draethawd hir annibynnol.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Cymhwyso'r dull gwyddonol, sgiliau rhifiadol a gofodol gan gynnwys delweddu i ddeall setiau data 3D (a 4D) a'u rhyngosod mewn gofod (ac amser).
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth a chysyniadau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Dealltwriaeth o fanteision rhwydweithio cyflogaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Datrys problemau, dibynadwyedd, teyrngarwch, ymddygiad cymdeithasol, pwyll, agwedd at ddysgu ac ymchwil, arweinyddiaeth, gwytnwch, gwneud penderfyniadau a rhesymu.
Students sampling water for testing
Students analysing water quality in the Corrwg Valley

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gyda'r blaned yn wynebu bygythiadau a heriau amgylcheddol cynyddol, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau geowyddonydd amgylcheddol. Bydd geowyddonwyr amgylcheddol yn rhan bwysig o ddatblygu seilwaith cynaliadwy, prosiectau ynni gwyrdd a helpu i reoli a gwaredu llygredd a adewir gan hen ddiwydiannau fel cloddio a gweithgynhyrchu cemegol.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a rolau gan gynnwys cadwraeth a rheoli amgylcheddol, fel daearegwr peirianneg, peiriannydd dŵr neu ymgynghorydd amgylcheddol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyflogadwy hanfodol y mae sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio yn chwilio amdanynt.

Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, BAM Construction, Atkins, Dŵr Cymru, LCM Environmental Services a Mott MacDonald.

Lleoliadau

Oes.  Mae cyfle i ymgymryd â lleoliad astudio yn y drydedd flwyddyn gyda sefydliad partner mewn gwlad arall.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd cyfleoedd astudio ar gael mewn prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Sweden a'r Iseldiroedd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.