Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Feddygol (BEng)

  • Côd UCAS: H1B8
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

briefcase

Cysylltiadau diwydiannol

Mae cynnwys ein cwrs yn cael ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol gyda chwmnïau fel Biomet, Simpleware ac Arthritis Research UK.

screen

Mynediad at gyfleusterau o safon y diwydiant

Bydd mannau addysgu dynodedig ar gael ar eich cyfer a sefydlwyd ar gyfer dylunio a gwaith prosiect, labordai arbenigol ac ystafelloedd cyfrifiaduron.

molecule

Cynnwys rhyngddisgyblaethol

Mae gennym gysylltiadau ag adrannau eraill o’r Brifysgol, fel y Biowyddorau, Seicoleg, yr Ysgol Busnes a Deintyddiaeth, yn ogystal â chlinigwyr ym meysydd Orthopedeg a Radiograffeg, er mwyn sicrhau bod y deunyddiau dysgu mor gyfredol â phosibl.

people

Darlithoedd gwadd

Byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o ddarparwyr gofal iechyd megis Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’r Adran Ffiseg Feddygol.

certificate

Achrediad proffesiynol

Achredir y cwrs gan y Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Corfforedig a bodloni'n rhannol y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Institution of Mechanical Engineers

This BEng Medical Engineering is perfectly suited to anyone wishing to combine classical engineering training with a medical application. The aim of the course is to produce a highly competent engineer who can pursue a career in clinical engineering, bioengineering or engineering fields outside medicine.

You’ll be taught by a dedicated team of research-active academic staff, and the course includes a number of lectures by colleagues from our School of Biosciences, School of Medicine and Cardiff & Vale NHS Trust.

If Chartered status is important to you, a four-year MEng course may offer a quicker, more direct route than this BEng course.

Other Medical Engineering courses available include:

  • The opportunity to follow a sandwich year in industry if you choose the relevant four-year BEng or five-year MEng degree option
  • The opportunity to study abroad at a partner institution for one semester if you choose the relevant MEng (International) degree option

Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Mathemateg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 5 mewn Mathemateg HL.

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course. If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2022

Myfyrwyr o'r DU ac Iwerddon

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd eich ffioedd dysgu yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 Dim
Blwyddyn dau £23,450 Dim
Blwyddyn tri £23,450 Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac unrhyw adnoddau dysgu eraill fydd eu hangen.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae’r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2022. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2022 i ddangos y newidiadau.

This is a three-year full-time degree. The course includes a carefully chosen balance of core modules and optional modules. Most modules are worth 10 credits, some are worth 20 and the final-year project is worth 30. You need to earn 120 credits a year.

There are two semesters each year, each semester consisting of 11 teaching weeks, one revision week and an examination period.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Ar ôl y flwyddyn gyntaf, dylai fod gennych wybodaeth sylfaenol am yr holl bynciau perthnasol. Cyflwynir damcaniaethau mewn darlithoedd a chânt eu cefnogi gan fodiwl dwbl penodedig o arbrofion labordy sy’n para am un rhan o chwech o’r flwyddyn.

Mae yna fodiwl cyfan ar Anatomeg a Ffisioleg i sicrhau bod gennych ddigon o ehangder a dyfnder gwybodaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Engineering ApplicationsEN104820 credydau
Network AnalysisEN106410 credydau
Professional EngineeringEN108610 credydau
Engineering AnalysisEN109020 credydau
Materials and ManufactureEN110120 credydau
MechanicsEN110220 credydau
Anatomy and PhysiologyEN110820 credydau

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn, dechreuir cymhwyso’r wybodaeth am beirianneg i gymwysiadau meddygol, gan ddatblygu’r damcaniaethau sylfaenol a gyflwynwyd yn y flwyddyn gyntaf.

Mae yna ail fodiwl ar Anatomeg a Ffisioleg, a modiwl Biomecaneg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Electrical and Electronic Engineering 1EN207810 credydau
Electrical and Electronic Engineering 2EN207910 credydau
ThermofluidsEN210320 credydau
Computing 1EN210610 credydau
Engineering Analysis and Computing 2EN210720 credydau
Biomechanics 1EN245110 credydau
DesignEN260420 credydau

Blwyddyn tri

Mae’r drydedd flwyddyn wedi'i strwythuro i roi cyfle i chi integreiddio eich gwybodaeth feddygol a’ch gwybodaeth am beirianneg wrth i chi fynd i'r afael â nifer o heriau clinigol realistig drwy amrywiaeth o fodiwlau cymhwysol.

Mae chwarter y flwyddyn academaidd hon hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer y prosiect unigol, lle rydych yn dewis maes o ddiddordeb ymchwil ac yn cynnal cyfnod o astudio dan arweiniad. Dyma rai prosiectau diweddar: Cysylltu Lluniau o’r Ymennydd gyda Dadansoddiad o Symudiadau; Modelu Cyfrifiadurol o Lif Gwaed mewn Ymlediad yn yr Ymennydd; Anafiadau Pêl-droed ar ôl Bwrw’r Ddaear; a Dadansoddiad Biomecanyddol o Syndrom Ysgwyd Baban.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Industrial Project ManagementEN302610 credydau
ProjectEN310030 credydau
Biomechanics 2EN345010 credydau
Engineering ApplicationsEN345310 credydau
Clinical EngineeringEN345910 credydau
Biomaterials and Tissue EngineeringEN346010 credydau
Medical Electronics 1EN346110 credydau
Electrical and Electronic Engineering 3EN351710 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Solid MechanicsEN303710 credydau
Fluid MechanicsEN304510 credydau
Medical Device EvaluationEN310810 credydau
Fluid Power and ControlEN351310 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

You will be taught the fundamental aspects of engineering through a combination of lectures and tutorials, supplemented by practical lab sessions and project-based work.

The taught modules in the first two years are largely compulsory, but options are available in year three. All students must complete a 30-credit individual project in year three, for which they are allocated a supervisor from among the teaching staff.

There are opportunities for interaction with potential employers through careers fairs and guest lectures. Speakers from industry give regular lectures on their areas of expertise. These offer you the opportunity to hear experts speak on topics that are relevant to your degree and give you an insight into working in industry.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

42%

Astudio annibynnol dan arweiniad

58%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

40%

Astudio annibynnol dan arweiniad

60%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

26%

Astudio annibynnol dan arweiniad

74%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

You will be assigned a personal tutor who is a member of the academic staff associated with your degree course. Your tutor will be there to advise you on academic, non-academic and personal matters in a confidential and informal manner when you need some guidance. We aim to help you overcome any problem, however big or small, as smoothly and quickly as possible.

For the 30-credit project in year three, you will be allocated a supervisor in the broad area of research specialism and meet regularly.

You will have access through the Learning Central website to relevant multimedia material, presentations, lecture handouts, bibliographies, further links, electronic exercises and discussion circles. Opportunities for you to reflect on your abilities and performance are available through the Learning Central ‘Personal Development Planning’ module.

The University offers a range of services including the Careers Service, the Counselling Service, the Disability and Dyslexia Service, the Student Support Service, and excellent libraries and resource centres.

Feedback

We’ll provide you with frequent feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback in classes like design and project work and via return of marked coursework.

The opportunity to test your knowledge and understanding will be provided throughout the semester via class tests in Years 1 and 2, plus feedback on written assessments. Occasionally, peer assessment of an individual’s contribution to a group may be used, and you may also receive oral feedback on presentations and contributions to group activities.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

70%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

25%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

75%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

20%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

56%

Arholiadau ymarferol

8%

Gwaith cwrs

36%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

This course is accredited via the Engineering Council, meaning the core competencies of UK-SPEC (UK Standard for Professional Engineering Competence) are integrated throughout the taught years of the course. 

Through lab work you will develop practical skills focused on the application of a range of engineering principles to real-life technological, regulatory and ethical problems.

You will also:

  • Develop an appreciation of how to bridge the disciplines of engineering and medicine/clinical sciences
  • Enhance your communication skills, both orally and in writing through a series of reports and assignments
  • Develop your knowledge, skills and confidence to solve multidisciplinary problems in a engineering context
  • Enhance your team-working skills, ability to exercise original thought and good professional judgement

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Gall graddedigion mewn peirianneg feddygol elwa ar gyfleoedd gwaith yn y sector peirianneg feddygol a’r sector peirianneg fecanyddol ehangach.

Mae graddedigion diweddar o Brifysgol Caerdydd yn cael eu cyflogi nawr gan gwmnïau peirianneg feddygol fel Finsbury Orthopaedics, DePuy Synthes a Huntleigh Medical.

Gall peirianwyr meddygol hefyd sefydlu gyrfa yn y sector gofal iechyd. Mae graddedigion Caerdydd yn cael swyddi'n rheolaidd ar y cynllun hyfforddi peiriannydd clinigol/gwyddonydd cystadleuol iawn y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (www.ipem.ac.uk am ragor o fanylion), tra bod eraill wedi defnyddio eu gradd fel cam tuag at alwedigaethau eraill.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.