Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg (BA)

  • Côd UCAS: Q560
  • Derbyniad nesaf: Medi 2020
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y rhaglen hon yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Wrth inni anelu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae mwy o angen nag erioed am raddedigion sydd â’r fath dealltwriaeth. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol hefyd yn hynod ddeniadol i gyflogwyr, sydd yn golygu bod cyfle unigryw gennych chi i sicrhau gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd y Gymru gyfoes.

Mae’n gwrs tair blynedd â dau lwybr, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn y flwyddyn gyntaf bydd y carfannau hyn yn cael eu haddysgu ar wahân gan mwyaf cyn dod ynghyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r modiwlau yn ystod blwyddyn dau. Yn y flwyddyn olaf, addysgir pawb gyda'i gilydd.

Cynigir ystod o fodiwlau craidd a dewisol i roi seiliau ichi yn yr iaith a’i llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu alwedigaethol. Yn ogystal a hyn, cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith yn yr ail flwyddyn er mwyn datblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol.

Nodweddion nodedig

  • Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith.
  • Ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
  • Pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa.
  • Pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol.
  • Profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n gweithio ar brosiectau a meysydd ymchwil amrywiol, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil.
  • Cyfle i fod yn rhan o gymuned agos a chyfeillgar, gyda staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.

Gofynion mynediad

BBC – BCC, i gynnwys B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith. Nodir, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Graddau DM yn Y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B ddisgwyliedig yn Gymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith ar Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

Mwy o wybodaeth am feini prawf derbyn ein Hysgolion, y cynllun gwarantu cynnig, newidiadau i raglenni a chyfieithu eich dogfennau.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Saesneg Iaith neu Cymraeg Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,450Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd (cyfanswm o 120 credyd) yn y Gymraeg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol gan gynnwys rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd ym meysydd iaith, diwylliant a llenyddiaeth.

Rydym yn cynnig dau lwybr yn ystod y flwyddyn gyntaf – iaith gyntaf ac ail iaith - ac mae’r rhain yn ddibynnol ar eich profiad o’r Gymraeg yn yr ysgol neu mewn cyd-destun proffesiynol neu ar gyrsiau iaith penodol.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwlau dewisol yw:

  • Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol
  • Mapio’r Cymry
  • Herio’r Traddodiad Llenyddol

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Astudio Testunau Llenyddol
  • Y Gymraeg Heddiw

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau dewisol yw:

  • Trafod Ein Llên
  • Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol

Ar y ddau lwybr, addysgir pob modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Trafod ein llênCY151020 credydau
Cymraeg Creadigol a PhroffesiynolCY151120 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Herio'r Traddodiad LlenyddolCY160320 credydau
Mapio'r CymryCY175220 credydau
Ysgrifennu Creadigol a PhroffesiynolCY175320 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Ar y llwybr iaith gyntaf y modiwl craidd gorfodol yw:

  • Yr Iaith ar Waith

Ar y llwybr ail iaith, y modiwlau craidd gorfodol yw:

  • Yr Iaith ar Waith
  • Sgiliau Academaidd Uwch

Mae modiwlau blwyddyn dau a blwyddyn tri yn cynnig cyfle ichi ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol fydd yn berthnasol ar gyfer ystod o yrfaoedd neu astudiaethau ôl-raddedig.

Fel arfer mae modiwlau dewisol unigol yn cael eu cynnig bob yn ail flwyddyn, ac felly gallant fod ar gael ym mlwyddyn dau neu ym mlwyddyn tri.

Gall myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn ddewis hyd at 40 credyd o Ysgol Academaidd arall, wedi eu dewis o Gasgliad Modiwlau Annibynnol y Brifysgol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY210520 credydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 credydau
SgriptioCY270020 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 credydau
Caffael IaithCY291020 credydau

Blwyddyn tri

Mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil [20 credyd]
  • Ymchwilio Estynedig [40 credyd]

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol.

Un o nodweddion deniadol ein cwrs yw ei hyblygrwydd – cewch ddilyn llwybr llenyddol neu lwybr ieithyddol a chymdeithasegol ynghyd â dewis o blith modiwlau ymarferol a chreadigol amrywiol. Cewch hefyd ddewis cyfuniad o fodiwlau sy'n adlewyrchu eich diddordebau academaidd penodol a’ch anghenion galwedigaethol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY310520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
SgriptioCY370020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd megis gweithio mewn tîm, ymchwilio yn annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Ond mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

28%

Astudio annibynnol dan arweiniad

72%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau

2%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

12%

Astudio annibynnol dan arweiniad

88%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio o dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a chanolfannau llyfrgelloedd ac adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth unigol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

27%

Arholiadau ymarferol

18%

Gwaith cwrs

56%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

40%

Arholiadau ymarferol

10%

Gwaith cwrs

50%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

33%

Arholiadau ymarferol

7%

Gwaith cwrs

60%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall.

Yn 2016/17, roedd 91% o raddedigion yr Ysgol mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Journalist
  • Civil Servant
  • Teacher
  • Lawyer
  • Media

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth