Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Astudiwch Tsieinëeg a chael cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy sy'n fuddiol mewn gweithle byd-eang.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i ddod yn 'ddinasyddion byd-eang', yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel. Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliant Tsieineaidd. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae Tsieina wedi’i seilio ar hanes diwylliannol cyfoethog, diddorol, sy’n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd. Mae’n dal yn bŵer economaidd pwysig yn ogystal ag yn arloeswr yn y diwydiannau moduron ac electronig, sy’n symud mor gyflym. Drwy astudio Tsieinëeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Drwy astudio Tsieinëeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Tsieinëeg Mandarin. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi mentergarwch a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn niwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Tsieina.  

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a’ch trochi yn niwylliant Tsieina, gan gynnwys seminarau rhaglen astudiaethau Tsieinëeg, lle mae ysgolheigion ac arbenigwyr ar astudiaethau Tsieineaidd o bob rhan o'r byd yn cael eu gwahodd i ddarlithio ar eu hymchwil eu hunain.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Tsieineaidd.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau.
  • Y dewis o ymgymryd ag interniaeth.
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio mewn gwlad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng Tsieinëeg Mandarin.
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.

 

Côd UCASRC13
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn

Gofynion mynediad

ABB - BBC. Ni fydd eich angen cyflawni’r rhain o unrhyw bynciau penodol. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol. 

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Please contact the University. 

Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 665-655 o dri phwnc Lefel Uwch.  

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Unrhyw ofynion TGAU penodol (ac eithrio Gradd C safonol mewn Saesneg): Bydd arnoch angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.  Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol: Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol. Cynigion nodweddiadol ar gyfer cymwysterau eraill (gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Pre-U Caergrawnt, ac ati.): Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Cynnig IELTS arferol: 6.5 yn gyffredinol, gyda 6.0 o leiaf ym mhob cydran.

Dewis

Each candidate's profile is considered as a complete picture, taking into account your interest in and suitability for the degree, as shown in your personal statement and referee's report, as well as achieved and predicted grades. Your ability to present an argument, evidence of intellectual curiosity and your enthusiasm for and commitment to studying will also be assessed.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£18,200Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA Tsieinëeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir blwyddyn 3 yn astudio neu’n gweithio yn Tsieina neu mewn gwlad Tsieinëeg Mandarin ei hiaith.

Mae blwyddyn un yn cynnwys modiwl iaith Tsieinëeg craidd 40 credyd a modiwlau 20 credyd yn cyflwyno hanes, cymdeithas a diwylliant Tsieina i chi o safbwynt byd-eang. Bydd myfyrwyr yn dewis 40 credyd ychwanegol, yn dewis o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina cyfoes, cyfieithu neu astudiaethau diwylliannol.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio 30 o gredydau iaith Tsieinëeg a modiwl 30 credyd trawswladol. Byddwch hefyd yn gallu dewis 60 credyd ychwanegol, sy'n amrywio o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina gyfoes, cyfieithu, astudiaethau diwylliannol neu astudio iaith a byd busnes yn Tsieina.

Byddwch yn adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych wedi'u datblygu i fynd ar drywydd dysgu arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a/neu waith traethawd hir, sy’n cael ei addysgu/oruchwylio gan staff ymchwil arloesol, yn gweithio ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a hanes diwylliant Tsieina. Byddwch hefyd yn astudio 30 o gredydau iaith Tsieinëeg, yn adeiladu ar eich astudiaeth dramor, yn ogystal â 60 credyd o fodiwlau dewisol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un rydym yn redeg llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr â gwybodaeth gyfyngedig neu fyfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth am Tsieinëeg Mandarin. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. 

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Tsieina fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas Tsieina â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Tsieina y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Bydd myfyrwyr yn dewis 40 credyd ychwanegol, yn dewis o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina cyfoes, cyfieithu neu astudiaethau diwylliannol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
China in ContextML119220 credydau
Chinese CinemaML119420 credydau
Introduction to Translation MethodsML810020 credydau
Introduction to Translation TheoryML810120 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced Mandarin Chinese Language Year 1ML119040 credydau
Mandarin Chinese Language BeginnersML119340 credydau

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal â 30 o gredydau mewn Tsieinëeg Mandarin, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar Tsieina mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio eich diwylliant targed yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Byddwch hefyd yn astudio Busnes Tsieineaidd a Chyfieithu Arbenigol o'r Tsieinëeg i Saesneg.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, ac sy'n mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Chinese Society & CultureML125730 credydau
Cultures in Context (Chinese)ML125930 credydau
Mandarin Chinese Language IntermediateML127030 credydau
Introduction to Specialised TranslationML220130 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn 3 yn astudio neu’n gweithio yn Tsieina neu mewn wlad arall Tsieinëeg Mandarin ei hiaith. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Tra yn Tsieina, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd ag ‘interniaeth’ mewn sefydliad celfyddydau. Diben yr interniaeth yw datblygu ymhellach eich sgiliau ieithyddol ymhellach, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Hefyd bydd gofyn i chi lunio dyddiadur, i gasglu ymchwil ar gyfer traethodau a’r traethawd hir yn ystod blwyddyn olaf eich astudiaethau. Mae’r ‘interniaeth’ am ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn neu ychydig wythnosau cronedig yn ystod cyfnodau gwyliau.

Ni thelir am yr interniaeth. Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i fonitro gan y prifysgolion partner sy’n cynnwys: Prifysgol Beijing Normal, Prifysgol Wuhan, Prifysgol Shanghai Jiaotong a Sefydliad Ymchwil Celfyddydau Shanghai. Mae’r broses interniaeth yn cael ei monitro gan gydlynydd y prifysgol partner ac arweinydd y prosiect o’r brifysgol gartref. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Mae Dilyniant i’r Flwyddyn Dramor yn Tsieina yn dibynnu ar Lysgenhadaeth Tsieina yn cymeradwyo eich cais am fisa yn llwyddiannus.  Am fwy o wybodaeth am y broses o wneud cais am fisa i astudio yn Tsieina, cliciwch ar y linc a ganlyn:

http://www.chinese-embassy.org.uk/eng//xnyfgk/t514394.htm

Bydd cymorth a chanllawiau i’ch paratoi chi ar gyfer gwneud cais am eich fisa a’ch blwyddyn dramor ar gael gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mlwyddyn 2 eich rhaglen astudio.    

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd traethawd hir ar Tsieina (yn Saesneg) a 30 credyd iaith Tsieinëeg Mandarin, yn ogystal â 60 credyd mewn modiwlau dewisol. Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig.

Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

 

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Tsieinëeg Mandarin.
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant a llenyddiaeth Tsieina a gwledydd lle siaredir Tsieinëeg Mandarin.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.    

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.   

 

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais