Ewch i’r prif gynnwys

Diwygio cymwysterau'r Deyrnas Unedig

Ar hyn o bryd, mae cymwysterau yn y DU yn destun newidiadau sylweddol.

Bydd hyn yn arwain at newidiadau yng nghwricwla ysgolion ac, o ganlyniad, mae rhai o’n gofynion mynediad ar gyfer mynediad yn cael eu diwygio.

Fodd bynnag, byddwn yn gweithio i sicrhau na fydd yr un ymgeisydd o dan anfantais o ganlyniad i'r newidiadau ac rydym yn parhau i ymrwymo i dderbyn y myfyrwyr sydd â’r mwyaf o allu i elwa o addysg Prifysgol Caerdydd, ni waeth beth fo'u cefndir.

Ysgolion a cholegau

Caiff pob ysgol a choleg eu hannog i gynnwys gwybodaeth yn eu geirda ar gais UCAS yn esbonio’r ddarpariaeth cymwysterau sydd ar gael i’w myfyrwyr.

Rydym yn ymwybodol o'r newidiadau i gymwysterau galwedigaethol a fydd yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dilyn y cymwysterau diwygiedig a heb ei ddiwygio.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gefnogol i'r cymwysterau Lefel T. Gweler gofynion mynediad rhaglenni unigol am fanylion ar feini prawf derbyn.

O 2019 ymlaen, bydd cymwysterau TGAU yn Lloegr yn cael eu graddio fesul rhif ar raddfa o 1-9; 9 fydd y lefel uchaf o gyflawniad. Cyfeiriwch at y tabl i weld ein safle o ran y cyd-destun cyfatebo.

Strwythur Graddio TGAU
Cymru
Strwythur Graddio TGAU
Lloegr
Strwythur graddio TGAU
Gogledd Iwerddon
A*9 a 8A*
A7A
B6B
C5 a 4C* a C

Yng Nghymru, bydd ysgolion y wladwriaeth yn parhau i astudio TGAU â strwythur graddau (A*-G), ond bydd pob myfyriwr yn astudio cwricwlwm newydd a fydd yn cynnwys dau gymhwyster TGAU mewn Mathemateg, Saesneg (neu Gymraeg) Iaith, Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl a Bagloriaeth Cenedlaethol Cymru.

Hefyd, mae myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn debygol o fod yn astudio llai o bynciau na'u cyfoedion yn Lloegr ac yn debygol o gael llai o bynciau dewisol. Byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw grŵp o fyfyrwyr o dan anfantais ac, felly, bydd y gofynion o ran TGAU yn cydnabod strwythurau gwahanol y cwricwlwm a graddau.

Ni fyddwn yn gofyn i ymgeiswyr astudio pynciau Safon UG ychwanegol na meddu ar Gymwysterau Prosiect Estynedig fel un o amodau cynnig. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn cynnig y cymwysterau hyn o dan anfantais yn y broses o wneud cynnig.

Rydym yn edrych i gefnogi ymgeiswyr sydd yn gwneud cymhwyster EPQ drwy gydnabod A yn gymhwyster EPQ i leihau'r gofynion mynediad drwy radd sengl ar gyfer holl raglenni ac eithrio Meddygaeth (MBBCh) a Deintyddiaeth (BDS).

Er enghraifft, bydd cynigion AAB gan ymgeisydd sy'n gwneud yr EPQ yn cael ei newid i 'AAB o 3 Safon Uwch neu ABB o 3 Safon Uwch a gradd A yn yr EPQ.

Yn nodweddiadol, bydd ein cynigion yn seiliedig ar y graddau a gyflawnir mewn tri phwnc Safon Uwch.

Elfen ymarferol mewn pynciau Gwyddoniaeth Safon Uwch

Bydd pynciau gwyddoniaeth Safon Uwch yn Lloegr (Bioleg, Cemeg, a Ffiseg) yn cynnwys canlyniad ar wahân ar gyfer elfen ymarferol y cymhwyster.

Fel arfer, bydd angen llwyddo yn asesiad ymarferol y pynciau Safon Uwch perthnasol ar gyfer y rhaglenni gradd canlynol:

Bydd craidd CBC yn cael ei dderbyn yn gyfwerth ag un Safon Uwch ar gyfer phob rhaglen radd.

Yn achos ymgeiswyr sy'n cynnig fersiynau wedi’u graddio o’r craidd, byddwn yn derbyn:

Gradd CBCYn gyfwerth â gradd Safon Uwch
A*A*
AA
BB
CC

Ni all craidd CBC gymryd lle pwnc neu bynciau penodedig sy’n ofynnol.

Rydym yn cydnabod manteision y cymhwyster Mathemateg Graidd, yn enwedig wrth helpu myfyrwyr i ddefnyddio a datblygu sgiliau modelu mathemategol a datrys problemau. Mae’r rhain yn bwysig wrth astudio mewn prifysgol ac i gyflogwyr.

Er nad oes rhaid cael Mathemateg Graidd i allu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff y cymhwyster hwn ei ystyried yn lle Mathemateg TGAU, gradd B neu uwch, ond ni chaiff ei dderbyn yn lle Mathemateg UG neu Safon Uwch pan fo hynny’n ofynnol.

Rydym yn adolygu’r cymhwyster Mathemateg Craidd ar gyfer ein rhaglenni Meddygaeth ar hyn o bryd, ac ni allwn warantu y caiff ei dderbyn yn lle’r cymhwyster Mathemateg TGAU.